09 Ionawr 2024

 

Gall busnesau garddwriaeth yng Nghymru fod yn colli allan ar gymorth gwerthfawr drwy fethu â chofrestru â rhaglen Cyswllt Ffermio.

Hyd at fis Mawrth 2023, roedd y sector yn cael ei gefnogi gan Tyfu Cymru ond daeth y fenter honno i ben a chafodd cymorth ar arddwriaeth fasnachol ei drosglwyddo i raglen newydd Cyswllt Ffermio.

Fodd bynnag, nid yw llawer o fusnesau wedi cofrestru hyd yma ac mae hynny’n golygu eu bod yn colli allan ar lawer o fesurau cymorth y maent yn gymwys i’w cael.

Mae busnesau garddwriaeth, gan gynnwys y rhai ar safleoedd sy’n gorchuddio llai na tri hectar, yn gymwys am y cymorth hwn.

Fe wnaeth Sarah Gould, rheolwr prosiect garddwriaeth Cyswllt Ffermio eu hannog i wneud cais.

“Gan na fydd llawer o fusnesau garddwriaeth wedi cofrestru gyda’r cynllun Taliadau Gwledig Cymru (RPW), dylai cam cyntaf y broses gynnwys cofrestru,’’ dywedodd.

“Unwaith bydd y busnes wedi cael rhif cyfeirnod cwsmer (CRN) gan Taliadau Gwledig Cymru gallant yna gofrestru gyda Cyswllt Ffermio trwy gysylltu â’r Ganolfan Wasanaeth ar 03456 000813.’’

Gall y cymorth sydd ar gael helpu tyfwyr ddatblygu eu busnesau i’r lefel nesaf, gan gynnwys gwybodaeth a gafwyd mewn digwyddiadau a gweminarau, o iechyd planhigion, rheoli plâu integredig a pharatoi ar gyfer patrymau tywydd cyfnewidiol i ddeall sut i weithio’n effeithiol gyda chadwyni cyflenwi.

Mae cymorth pwrpasol hefyd ar gael.

“Gall busnesau cymwys gael hyd at 12 awr o gymorth busnes wedi’i deilwra ac wedi’i ariannu’n llawn i wella perfformiad busnes a thechnegol ar draws pob maes,” eglurodd Sarah.

Gyda chyfleoedd i dyfwyr newydd a phresennol yng Nghymru, mae mwy o ddiddordeb mewn datblygu busnesau garddwriaeth.

Mae nifer o adnoddau a thaflenni ffeithiau ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio.

“Mae’r rhain ar gael o dan ‘garddwriaeth’ ar wefan Cyswllt Ffermio -  https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/tir/garddwriaeth-tyfu…;
- neu drwy e-bostio’r tîm garddwriaeth ar horticulture@lantra.co.uk,’’ meddai Sarah.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint