19 Rhagfyr 2023

 

 

Llongyfarchwyd pob un o'r enillwyr a'r enwebeion ar gyfer Gwobrau Lantra Cymru 2023 gan Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru. 

Dywedodd y Gweinidog "Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu cydnabod naill ai o fewn y categori Cyswllt Ffermio neu gategorïau eraill yng Ngwobrau Lantra Cymru 2023, sydd bellach yn ei nawfed flwyddyn ar hugain.  
"Mae'r Gwobrau'n cydnabod cyflawniadau dysgu gydol oes y sawl sydd, trwy eu sgiliau a'u galluoedd sylweddol, yn cyfrannu nid yn unig at amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth, ond at yr agenda wledig ehangach yng Nghymru, i'n heconomi wledig, ac i'r cymunedau lle maent yn byw ac yn gweithio.

"Mae ymrwymiad clir pob enwebai i ddatblygiad proffesiynol parhaus a chyflawniadau yn y sectorau amgylcheddol a thir, yn gwneud cymaint i gynnal safonau proffesiynol, modern yn ein diwydiant.

"Maent yn gwneud cyfraniad sylweddol, nid yn unig o fewn eich maes gwaith penodol eich hun, ond i gynaliadwyedd a moderneiddio amaethyddiaeth Cymru yn y tymor hir.

Roedd y gwobrau eleni, a gyhoeddwyd mewn digwyddiad dathlu a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod ar 18 Ionawr, yn gyfle i bawb yn y diwydiant dalu teyrnged i gyflawniadau'r myfyrwyr a'r hyfforddeion a enwebwyd. Roedd llawer o’r sectorau amaeth, garddwriaeth a choedwigaeth yn bresennol, gan gynnwys cynrychiolwyr o brif sefydliadau rhanddeiliaid gwledig Cymru, yn ogystal â llawer o'r darparwyr hyfforddiant ar y tir a cholegau gwledig yng Nghymru a gymeradwywyd i ddarparu cyrsiau hyfforddi achrededig a ariennir gan Cyswllt Ffermio.

Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Kevin Thomas, oedd cadeirydd y paneli dethol eleni a oedd yn cynnwys yr arbenigwyr sgiliau a hyfforddiant, Trefor Owen a Llinos Samuel o Lantra Cymru; y garddwriaethwr a mentor Cyswllt Ffermio, Debbie Handley; Amber Wheeler o Gynghrair y Gweithwyr Tir; a Benjamin Barnes o ADAS. 

 

Am unrhyw wybodaeth bellach neu i drefnu cyfweliadau/ffilmio gydag unrhyw un o enillwyr Gwobrau Lantra Cymru a restrir isod, cysylltwch â Rachel Thomas ar 01982 552646 neu e-bostiwch  rachel.thomas@lantra.co.uk.

Am ganlyniadau llawn Gwobrau Lantra Cymru 2023, cliciwch yma.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint