1 Medi 2020

 

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei fwriad i ddatblygu Coedwig Genedlaethol ar gyfer Cymru yn ei ymrwymiadau maniffesto yn 2018. Byddai Coedwig Genedlaethol yn cyflawni yn erbyn amrediad eang o flaenoriaethau, sy’n cynnwys cyfrannu at y gwaith o blannu cymaint o goed ag y bo modd i gyfrannu at nodau datgarboneiddio, ategu’r gwaith o wrthdroi dirywiad bioamrywiaethol, sicrhau effeithiau cadarnhaol ar iechyd corfforol a llesiant, a chefnogi gweithgareddau busnes masnachol, er enghraifft, drwy gynhyrchu pren a thwristiaeth antur. 

Ar 12 Mawrth 2020 lansiodd y Prif Weinidog y Rhaglen Coedwig Genedlaethol yn swyddogol. Gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, disgrifiodd ef uchelgais ar gyfer Coedwig Genedlaethol sy’n estyn hyd a lled Cymru, a chyhoeddodd y byddai cyfnod estynedig o ymgysylltu’n dechrau, er mwyn sicrhau bod y gwaith o greu Coedwig Genedlaethol ar gyfer Cymru yn ‘gydymdrech, gyda llywodraeth, busnesau a chymunedau i gyd yn gweithio tuag at nod cyffredin’. Mae’r datganiad i’r wasg ar gael yma Lansio'r Goedwig Genedlaethol.

Hoffem ddeall eich barn neu farn eich sefydliad ynghylch datblygu Coedwig Genedlaethol yng Nghymru, a fydd nid yn unig yn hyrwyddo plannu coed a rheoli coetir newydd a choetir presennol yng Nghymru mewn modd rhagweithiol, ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch economaidd traddodiadol ac arloesol, ond bydd hefyd yn cysylltu pobl â’r coed a’r coedwigoedd o’u hamgylch ac yn darparu cynefinoedd ar gyfer natur.    

I wireddu’r uchelgais hwn bydd angen inni sicrhau ein bod yn datblygu cynigion a chynlluniau ar gyfer y Goedwig Genedlaethol sy’n gweithio i bawb. Cyn bo hir byddwn yn cynnal gweithdai ar-lein, oherwydd ein bod am weithio gyda ffermwyr, cymunedau, busnesau a sefydliadau, a phartïon eraill sydd â diddordeb, i ddeall sut i sicrhau y bydd y Goedwig Genedlaethol yn llwyddiant.  

Bydd y digwyddiad cyntaf ymlaen ar 3 Medi 2020. Cofrestrwch yma i ymuno!

Ebostiwch NationalForestWales@gov.wales i gofrestru'ch diddordeb ar gyfer gweminarau yn y dyfodol pe bai'r un hwn yn llawn.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am ffermydd newydd i ymuno â Rhwydwaith Ein Ffermydd ar gyfer 2026
16 Mawrth 2026 Mae Cyswllt Ffermio yn gwahodd ceisiadau gan
Curwch y cnoiad a brechwch yn gynnar, gweithredwch nawr i amddiffyn eich stoc rhag y Tafod Glas!
11 Mawrth 2026 Gyda'r misoedd cynhesach yn agosáu, anogir
Tyfu ar gyfer twf E-fwletin Garddwriaeth gan Cyswllt Ffermio – Tymor y gwanwyn 2026