2 Hydref 2019

 

Sut fydd eich busnes coedwigaeth neu'ch fferm chi yn edrych yn 2030? Os oeddech chi'n un o'r mil o bobl a mwy a fynychodd ddigwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd ar faes y Sioe Frenhinol yr wythnos diwethaf, mae'n siŵr bod gennych chi syniad da yn barod!

Mae'n anodd crisialu popeth a gyflawnwyd ac a drafodwyd trwy gydol y rhaglen uchelgeisiol a llawn gweithgarwch yn ystod y diwrnod, ond bu'r egni, yr agwedd gadarnhaol a'r brwdfrydedd i wrando, dysgu a rhwydweithio yn amlwg trwy gydol y cyflwyniadau bywiog, y cyfarfodydd un-i-un niferus a'r cyfleoedd rhwydweithio.

Roedd Cyswllt Ffermio wedi dwyn ynghyd dros gant o sefydliadau ac unigolion o faes arloesi, technoleg ac arallgyfeirio gyda deg ar hugain o siaradwyr ysbrydoledig o Gymru, y DU a thu hwnt.  Eu cylch gwaith ar y cyd oedd ysbrydoli, cymell ac annog tyrfa enfawr yr ymwelwyr i agor eu meddyliau i arloesi a thechnoleg, a'u helpu i sicrhau'r ffordd o feddwl, yr hyder a'r galluoedd y mae eu hangen arnoch er mwyn trawsnewid syniadau arallgyfeirio yn stori lwyddiannus.

Bu Wilfred Emmanuel-Jones, y gŵr busnes carismatig a'r entrepreneur bwyd a anwyd  yn Jamaica, sy’n adnabyddus fel ‘The Black Farmer’, yn cyfareddu cynulleidfa a oedd wedi ymgolli, wrth iddo sôn wrthynt y byddai angen i bob un ohonynt fod yn ffrind i ansicrwydd pe baent yn dymuno llwyddo mewn bywyd.

“Mae angen i chi deimlo'n angerddol am yr hyn yr ydych yn mynd i'w wneud, gan fod angerdd yn herio rheswm a rhesymeg, ac mae'r ddau yna yn gallu eich dal yn ôl!

“Dylech fod yn ddidrugaredd o ran eich ffocws, fel athletwr, ewch ati i gael gwared ar y 'sŵn gwyn' a pheidiwch gwrando ar yr amheuwyr nad oes ganddynt y dewrder na'r beiddgarwch i roi cynnig ar rywbeth newydd neu wahanol eu hunain.”

Fel nifer o'r siaradwyr eraill, os na fyddwch yn meddwl mewn ffordd wreiddiol, gan barhau gyda'r hyn sy'n gyfarwydd neu'n sicr, pwysleisiodd Mr. Emmanuel-Jones nad ydych yn gwthio eich hun i'r eithaf ac na fyddwch yn gwireddu eich potensial.

Cafwyd dirnadaeth gan Sophie Colquhoun o Category-Insight, arbenigwraig ym maes strategaeth categori a marchnatwr bwyd profiadol, o gwsmeriaid yfory efallai, a'r hyn y byddant yn ei ddisgwyl gan gynhyrchwyr bwyd.

“Mae eisoes yn ffasiynol i fod yn garedig i'r hinsawdd, ond bydd y duedd hon yn mynd o nerth i nerth wrth i'r genhedlaeth iau, y mae nifer ohonynt wedi tyfu i fyny yn defnyddio technoleg ddigidol bron cyn iddynt allu siarad, ddod yn fwy ymwybodol fyth o'r angen i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Cyfeiriodd Sophie at 'ddefnyddwyr ymwybodol', sy'n dymuno newid y ffordd y maent yn byw ac yn bwyta, a'r 'technolegau trawsnewid' y mae sefydliadau fel Tesco – gan ddefnyddio robotau yn barod i brofi'r hyn a ddosbarthwyd – ac Amazon Go – siop o fath newydd heb ddesg dalu – yn eu treialu.

“Mae angen i unrhyw un sy'n dymuno cychwyn neu ddatblygu menter newydd fod yn ymwybodol o'r tueddiadau yn y dyfodol cyn iddynt fuddsoddi eu harian a'u hamser,” dywedodd Sophie.

Bu Daniel Sumner, cyfarwyddwr 'byd-eang' cwmni Microsoft yn Seattle, ac a anwyd ar Ynys Môn, yn sôn wrth ei gynulleidfa astud am 'Ryngrwyd y Pethau', gwerth gwybodaeth artiffisial a'r Cwmwl, gan esbonio sut y mae angen i deuluoedd amaethyddol a chymunedau gwledig groesawu'r technolegau newydd hygyrch hyn er mwyn rhedeg busnesau mwy effeithlon a chystadlu mewn marchnad fyd-eang.

“Mae cost y dyfeisiau newydd hyn yn lleihau, felly erbyn hyn, mae cael synwyryddion pridd, pH a nifer o synwyryddion eraill sy'n gweithio i chi ar eich fferm yn ddewis posibl.

“Byddwch yn gallu gwneud synnwyr o'r data y byddant yn ei anfon atoch ac yn gwybod beth y bydd angen i chi ei wneud,” dywedodd Mr Sumner.

Wrth gloi'r digwyddiad, dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes,

“Hwn fu'r digwyddiad mwyaf ar gyfer sector penodol a gynhaliwyd gan Menter a Busnes erioed ar ran Cyswllt Ffermio, ac mewn sawl ffordd, mae wedi bod yn un o'n rhai mwyaf gwerth chweil.

“Mae'r ffaith y llwyddwyd i ddenu dros fil o ymwelwyr ar gyfer y digwyddiad cyntaf o'i fath a'i faint a gynhaliwyd erioed yng Nghymru, yn dangos, er gwaethaf yr ansicrwydd economaidd presennol ar draws ein diwydiant, bod gweithlu dynamig a blaengar allan yno, y maent oll yn benderfynol o sicrhau bod pob elfen o'u busnes yn gwireddu ei botensial yn llawn.”

Bydd crynodeb llawn o'r digwyddiad a chyfle i glywed yr holl gyflwyniadau gan y siaradwyr, a fideos amrywiol eraill ar gael ar sianel YouTube Cyswllt Ffermio. Ewch ar YouTube a rhowch ‘Cyswllt Ffermio’ o fewn y bar chwilio.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu