15 Mai 2023

 

A ydych chi’n arddwriaethwr sefydledig, neu’n un o lawer o dyfwyr masnachol arbenigol ar raddfa fach Cymru? Neu efallai eich bod yn dirfeddiannwr sy'n chwilio am gyfle arallgyfeirio cynaliadwy newydd? Os gallwch ateb ‘ydw’ i unrhyw un o’r cwestiynau hyn a’ch bod yn bwriadu ymweld â Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad eleni ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd (Mai 20 a 21), trowch at Cyswllt Ffermio i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael i chi. Ac os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, gallwch chi wneud hynny hefyd! 

Wedi'i leoli yn yr adeilad 'aelodau' â blaen gwydr, ger prif fynedfa'r ŵyl, mae Cyswllt Ffermio eleni yn estyn allan nid yn unig i ffermwyr, ond hefyd at yr holl dyfwyr garddwriaethol masnachol sefydledig a'r rhai sy'n ystyried ymuno â'r sector hwn sy'n ehangu'n gyflym.

Mae Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Kevin Thomas, yn esbonio bod y rhaglen arddwriaeth - 'Tyfu ar gyfer Twf' - yn un o wasanaethau mwyaf newydd Cyswllt Ffermio. Wedi’i lansio fis diwethaf fel gwasanaeth ychwanegol pwysig o fewn y rhaglen Cyswllt Ffermio newydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, bydd yr holl wasanaethau cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant yn parhau i gael eu darparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru.  

“Garddwriaeth fasnachol yw un o’r diwydiannau arbenigol sy’n tyfu gyflymaf yn y DU gydag arbenigwyr eisoes yn rhagweld cymaint â 25% o gynnydd mewn busnes newydd dros y blynyddoedd nesaf. 

“Mae llawer o siopwyr a ddaeth i drefn newydd o ‘brynu’n lleol’ yn ystod y pandemig wedi parhau i gefnogi siopau fferm a chynhyrchwyr lleol eraill a’r newid hwn mewn patrymau prynu, ynghyd â defnyddwyr heddiw, sy’n ymwybodol o’r amgylchedd ac yn benderfynol o chwilio am gynnyrch ‘wedi’i dyfu’ yn hytrach na chynnyrch ‘wedi’i gludo’ sy’n cael ei fewnforio o wledydd eraill, wedi creu cynnydd sylweddol yn y galw.”  

Bydd rhaglen ‘Tyfu ar gyfer Twf’ Cyswllt Ffermio yn darparu cymorth ar gyfer ystod enfawr o dyfwyr a chynhyrchwyr sy’n cynnig ffrwythau, coed ffrwythau gan gynnwys mathau treftadaeth, blodau, llysiau, cynnyrch salad, perlysiau a sbeisys, bwydydd nad ydynt yn fwytadwy, addurniadau, helyg, pwmpenni a grawnwin, i goed Nadolig a llawer mwy o opsiynau cyffrous. 

Yn yr ŵyl, bydd deuddeg o arddangoswyr stondinau masnach yn arddangos yr hyn y maent yn ei dyfu ac ynghyd â nifer o arbenigwyr ‘garddwriaeth’ gwadd a fydd ar gael trwy gydol y digwyddiad, gallai hyn fod yn gyfle perffaith i ddysgu am naill ai sefydlu neu ehangu menter arddwriaeth sy’n bodoli eisoes, o'r 'hedyn syniad' cyntaf hyd at weld eich cynlluniau'n cael eu gwireddu gyda'ch cynnyrch a'ch balans banc yn edrych yn iach! 

“Mae ymchwilio i beth i'w dyfu, plannu, meithrin, tocio, bwydo ac impio i gyd yn rhan annatod o'r hyn sydd ei angen i redeg menter arddwriaeth lwyddiannus yng Nghymru ac mae'r rhain i gyd yn feysydd y gallwch ddysgu amdanynt gyda'n cefnogaeth ni,” meddai Mr. Thomas. 

Bydd tîm Cyswllt Ffermio wrth law i hyrwyddo pob elfen o’r gwasanaeth, gan gynnwys y ddarpariaeth hyfforddiant ac e-ddysgu, sydd i gyd naill ai wedi’u hariannu hyd at 80% neu’n cael eu hariannu’n llawn. Bydd hyn yn berthnasol i bawb sydd am gryfhau naill ai sgiliau ymarferol neu dechnegol, neu i wella eu gwybodaeth am bynciau busnes, ariannol a marchnata gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol. 

I gael rhagor o wybodaeth am Cyswllt Ffermio a’i ystod gynhwysfawr o wasanaethau cymorth, arweiniad a hyfforddiant neu i wirio meini prawf cymhwysedd, cliciwch yma neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol. 

 

Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad - mae arddangoswyr Cyswllt Ffermio yn cynnwys: 

West Wales Willows

  • Bydd West Wales Willows yn arddangos ychydig o’u hystod o 260 o fathau o Salix (Helyg)
  • Siarad am ei defnyddiau a darparu arddangosiad o sut i wehyddu cynhaliad planhigyn bach
  • Lle gwych i ddysgu, ac o bosib prynu helyg mewn potiau neu fasgedi
  • Mae'n cynnig ystod eang o weithdai gwehyddu helyg o'i ganolfan yn Sir Gaerfyrddin
  • Yn cynnig cyflenwadau ar-lein o doriadau byw a gwiail i dyfu eich helyg eich hun ar gyfer gwehyddu basgedi, bondocio cylchdro byr fel tanwydd ar gyfer eich llosgwr coed, neithdar cynnar ar gyfer gwenyn, defnyddiau addurniadol a strwythurau byw fel bwâu, cromenni a thwneli.

P&J Plants

  • Dewch i weld y P&J Plants gwych i gael llawer o wybodaeth ymarferol am blanhigion cigysol
  • Yn cynnig detholiad o Sarracena, Maglau Gwener, Gwlithlys a Thafod y gors
  • Dewch o hyd i blanhigion aeddfed, mewn potiau ac wedi'u labelu 

Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot - NPTC

  • Os ydych yn ddarpar fyfyriwr neu â diddordeb mewn garddwriaeth, dewch i ddysgu am y datblygiadau cyffrous yn yr Adran Arddwriaeth ar draws colegau Castell-nedd, Aberhonddu a’r Drenewydd. 
  • Dysgwch am gyfleoedd mewn gyrfaoedd garddwriaethol
  • Ewch i weld pa gyrsiau garddwriaeth sydd ar gael trwy NPTC sy'n cwmpasu cynhyrchiant masnachol o ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion addurniadol a ffocws ychwanegol ar ddylunio, sefydlu a chynnal a chadw ein parciau, ein gerddi, ein meysydd chwaraeon, a'n tirweddau a reolir
  • Yn gwerthu planhigion, y cwbl wedi'u tyfu gan fyfyrwyr NPTC

Seikatsu Bonsai School

  • Stondin unigryw i weld ystod o bonsai dan do ac awyr agored mewn gwahanol gamau datblygu, a bydd modd prynu pob un ohonynt. 
  • Siaradwch â Darren am yr hyfforddiant Bonsai y mae'n ei ddarparu ym Mhowys (Llanbister, Llandrindod), a chlybiau Bonsai eraill ledled y wlad. 
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio trwy gydol y penwythnos wrth iddo weithio ar Steilio Bonsai o flaen eich llygaid!

Flowers From the Farm

  • Arddangosfa sy'n cynnwys blodau Prydeinig tymhorol, sy'n rhoi'r cyfle i chi brynu tuswau hardd. 
  • Dysgwch beth yw Flowers From The Farm, a beth maen nhw'n bwriadu ei wneud ledled Cymru, a thu hwnt. 
  • Mae’r stondin yn cael ei arwain gan Rhiannon Clarke o Blue Hill Flora (Pontardawe, De Cymru), sy’n rhedeg grŵp Flowers from the Farm Cymru – sy’n hyrwyddo blodau wedi’u torri’n dymhorol o ansawdd uchel gyda chynaliadwyedd yn ganolog iddo.

Flowers From No 6

  • Yn ymuno â ni fydd busnes garddwriaeth lleol gwych arall – Siop flodau yng nghanol Llanfair ym Muallt yn cynnig blodau hardd, planhigion tŷ, potiau ac anrhegion eraill ar thema blodau. 
  • Siaradwch â Vicki am ei blodau tymhorol cartref a’r blodau lleol sydd ar gael o fis Mai i fis Hydref – gan ymfalchïo mewn creu tuswau anrheg hardd a threfniadau blodau pwrpasol

Alfie Dan’s Market Garden

  • Gardd farchnad yn tyfu llysiau a ffrwythau, yn seiliedig ar 1 erw o'n cae i'ch fforc.
  • Hyrwyddo llysiau tymhorol a lleol (ardal Aberhonddu) a dyfwyd o dan egwyddorion organig
  • Hyrwyddo gwasanaeth blychau llysiau a'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig, gan gynnwys llysiau ffres i'w prynu dros y penwythnos

Looking Glass Nursery 

  • Yn gwerthu blodau gwyllt a mathau wedi'u trin o blanhigion sy'n llesol i fywyd gwyllt
  • Mae popeth sy'n cael ei dyfu a'i werthu yn rhydd o gemegau a mawn
  • O Lanwrthwl, Rhaeadr

Tŷ Madoc

  • Yn cynhyrchu seidr a pherai traddodiadol yn eu perllannau treftadaeth ychydig y tu allan i Aberhonddu ond yn edrych i ganolbwyntio ar berlysiau treftadaeth
  • Rhannu gwybodaeth am berlysiau brodorol a sut i goginio gyda nhw – Hefyd yn eu gwerthu
  • Sut i ofalu am goed afalau a gwerthu toriadau coed afalau

Living Simply Lavender

  • Mae Living Simply Lavender yn fusnes micro sy’n distyllu cynnyrch hydrosol Lavender therapiwtig ar y safle yng Ngorllewin Cymru. 
  • Rhoi degawdau o wybodaeth deuluol am fotaneg Lafant ar waith i ddod â chynhyrchion o ansawdd uchel i gwsmeriaid
  • Gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion seiliedig ar lafant 
  • Egluro sut i dyfu a gofalu am lafant

Tyn Y Berllan

  • Tyfu a gwerthu coed afalau treftadaeth Gymreig (mewn potiau)
  • Mae'r coed i gyd yn 1 oed, wedi'u himpio gan Gareth a Nicky yn Aberystwyth
  • Rhannu gwybodaeth am fathau o afalau Cymreig a hanes perllannau a gwneud seidr yng Nghymru
  • Yn cynnig cyngor cynllunio perllan, ynghyd â chyngor ar impio a thocio

Stondin Cyswllt Ffermio

  • Bydd Swyddogion Datblygu Cyswllt Ffermio wedi’u lleoli yn y Ganolfan Aelodau Newydd ochr yn ochr â Marchnad y Tyfwyr. Byddant yno i ateb unrhyw ymholiadau fydd gan ymwelwyr. 

Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint