29 Hydref 2020

 

Mae Cyswllt Ffermio wedi trefnu dwy gweminar ar-lein wedi’u hariannu’n llawn a fydd yn annog ffermwyr llaeth, bîff, defaid a geifr ar draws Cymru i gadw eu holl gofnodion da byw ar-lein. Dysgwch sut i greu eich cyfrif, storio a diweddaru’r holl ddata hanfodol am eich stoc mewn un broses syml. Dewch i ddarganfod pam mae angen i chi roi’r papur a’r pensil henffasiwn i’r naill ochr a defnyddio’r dechnoleg ar-lein hon a fydd yn arbed amser i chi ac yn achosi llai o straen! 

Os nad ydych chi eisoes wedi newid eich arferion, bydd arbenigwyr o Gynhyrchwyr Cig Oen a Chig Defaid Cymru (WLBP) ac EIDCymru yn eich argyhoeddi’n fuan iawn mai nawr yw’r amser i gyflwyno a chynnal cofnodion rheoli anifeiliaid cywir a chyfoes ar-lein.  

Cyn gynted ag y byddwch yn dechrau defnyddio’r pecyn meddalwedd rheoli fferm, gallwch hefyd ddewis anfon eich holl gofnodion symud da byw yn awtomatig ac yn uniongyrchol i EIDCymru a BCMS. 

Llyr Lewis, cydlynydd cofnodion a safonau fferm WLBP, fydd yn arwain y gweminar ryngweithiol ‘Cofnodion Fferm Ar-lein a Chynllunio Iechyd Anifeiliaid’. Cynhelir y gweminar ar-lein am 6.30pm nos Lun, 9 Tachwedd a bydd yn para am tua awr. Dyma eich cyfle i glywed am ‘ap’ cofnodion fferm ar-lein WLBP, y gallwch ei ddefnyddio ar unrhyw ddyfais llaw electronig wrth i chi reoli eich stoc, neu ar gyfrifiadur. Bydd yn sicr o fudd i chi ac yn arbed amser i chi. 

Mae’r ‘ap’ yn cynnwys llyfr preiddiau defaid, cofrestr buchesi gwartheg a chofnod prynu meddyginiaeth a thriniaeth, sydd oll yn ofynion statudol. Mae’r ‘ap’ ar gael i holl aelodau WLBP, gan gynnwys cynhyrchwyr y cynllun bîff a chig oen (FAWL), cynlluniau llaeth a chynllun Organig Cymru.  

Gallwch anfon yr holl fanylion rydych yn eu cofnodi o ran symudiadau, genedigaethau a marwolaethau gwartheg yn awtomatig i BCMS.  Gallwch ddewis anfon manylion am symudiadau defaid a geifr i EIDCymru. 

Cynhelir gweminar ryngweithiol ar y testun ‘Defnyddio gwefan EIDCymru’ am 6pm nos Lun, 23 Tachwedd. Bydd y gweminar 45 munud o hyd yn cael ei harwain gan Jonathan Pryce a Shân Evans, arweinwyr tîm yn swyddfa EID Cymru. Byddant yn esbonio pam ddylai perchnogion defaid a geifr sy’n dal i ddibynnu ar drwyddedau papur ystyried creu eu cyfrif ar-lein personol ar wefan EIDCymru. 

EIDCymru yw enw system ar-lein olrhain defaid a geifr yng Nghymru, ac mae’n cynnig dull modern a chadarn o olrhain ac adrodd am symudiadau sy’n gallu ymateb yn gyflym ac yn effeithiol os bydd achosion o glefydau.

“Bydd y weminar hon yn esbonio manteision defnyddio gwefan EIDCymru ac yn egluro sut a ble i gofnodi symudiadau defaid a geifr, sut i dderbyn symudiadau a drefnir gan bobl eraill, fel marchnad da byw neu geidwad gwahanol a sut i ddefnyddio EIDCymru i gwblhau eich arolwg blynyddol,” dywedodd Mr. Pryce.

Ychwanegodd Mr Pryce y bydd y gweminar hefyd yn cynnig arweiniad ar sut i gofrestru gydag EIDCymru a chreu eich cyfrif ar-lein diogel. 

Gall pob ffermwr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio archebu lle ar un o’r seminarau rhyngweithiol hyn neu’r ddwy. Rhaid archebu lle ymlaen llaw, cyn 9am ar ddiwrnod y gweminar.  Gallwch naill ai archebu ar-lein ar y dudalen Beth sydd Ymlaen ar wefan Cyswllt Ffermio neu gallwch ffonio’r Ganolfan Wasanaeth a fydd yn gwneud y trefniadau ar eich rhan. Byddwch yn derbyn cyswllt gweminar Zoom ar fore’r gweminar.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu