Dechrau Ffermio

Ydych chi eisiau mentro i redeg eich busnes ffermio neu goedwigaeth eich hun yn y dyfodol? Beth am ystyried menter ar y cyd?

Mae Cyswllt Ffermio yn gallu paru ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n barod i gamu’n ôl o’r diwydiant gyda newydd ddyfodiaid sy’n chwilio am gyfle i gychwyn ffermio yn annibynnol. Mae’n rhoi arweiniad i bobl ar y ddwy ochr trwy’r camau allweddol sydd angen eu cymryd i ganfod partner busnes posib. Mae'r pecyn cymorth yn cynnig gwasanaeth paru, mentora, cynllun busnes a chyngor cyfreithiol i ddarparu arweiniad ar bob cam o sefydlu menter ar y cyd.

Cliciwch ar y cyfloedd a restrir isod i ddarganfod mwy am y tirfeddiannwr, y fferm, a gofynion y rôl a/neu'r potensial ar gyfer menter ar y cyd. 

Cliciwch yma i gael eich cynnwys ar rhestr bostio ac i gael gwybod pan fydd cyfleodd newydd ar gael.

 

Cyfleoedd Cyfredol:

Cyfle #108

Lleoliad: Caer, Sir Fflint

Tir: 700 erw / 283 Ha

Da Byw: Buches laeth organic o 250 o wartheg

Cytundeb:  Menter ar y cyd / Godro ar Gytundeb 

Cyfle #107

Lleoliad: Ger Llanelli

Tir: 25 Ha / 60 erw

Cytundeb: Tenantiaeth

Cyfle #785

Lleoliad: Gogledd Sir Fynwy

Tir: 185 erw / 75Ha

Da Byw: 28 o Wartheg Sugno Bîff a’u lloi

Cytundeb: Menter ar y Cyd

Cyfle #858

Lleoliad: Aberdâr / Merthyr Tudful

Tir: 35 Ha / 85 erw

Cyfle: 45 o Wartheg Duon Cymreig Pedigri sy'n magu

Cytundeb: Gytundeb yn agored i drafodaeth

Cyfle #846

Lleoliad: Gŵyr

Tir: Erwau i’w cytuno

Cyfle: Gardd Farchnad

Cytundeb: Agored i Drafodaeth

Cyfle #841

Lleoliad: Tair milltir o Llanfyllin a Llanrhaeadr y Mochnant

Tir: 130 erw / 52 Ha

Da Byw: 110 o ddefaid magu Mule/Texel, a 14 o wartheg Stabiliser/Angus

Cytundeb: Menter ar y Cyd

 

Ydych chi'n dirfeddiannwr sy'n chwilio am bartner busnes?

Cliciwch yma i lewni Proffil Darparwr neu cysylltwch a'n Hwylusydd Olyniaeth er mwyn trafod eich opsiynau ar gyfer hysbysebu eich cyfle.

Oes oes gennych bartner busnes eisioes mewn golwg ac nad oes angen i chi ddefnyddio'r gwasanaeth paru gallwch osgoi'r cam hwn a symud ymlaen i gael mynediad at gyngor busnes a chyfreithiol ar unwaith. Mae’r cyngor wedi ei ariannu’n llawn i unrhyw un sy’n sefydlu menter ar y cyd.

 

I drafod eich gofynion, cysylltwch a'n Hwylusydd Olyniaeth:

Eiry Williams - 07985 155670 / eiry.williams@menterabusnes.co.uk

 

MWY O ADNODDAU:

 

Llawlyfr Mentro

Darllenwch y llyfryn mentro os oes diddordeb gennych mewn sefydlu menter ar y cyd neu os ydych yn ystyried eich opsiynau ar gyfer arafu neu gamu’n ôl o’r diwydiant, neu’n newydd ddyfodiaid sy’n chwilio am gyfle i gychwyn ffermio yn annibynnol. Cliciwch yma i ddarllen y llawlyfr.

 

Podlediad Clust i'r Ddaear

Rhifyn 26 - Yn gryfach gyda'n gilydd - Cymdogion yn symud o'r confensiynol i sefydlu menter laeth ar y cyd

Yn y bennod hon rydym yn cyfarfod â dau ffermwr blaengar, Emyr Owen a Gwydion Jones sydd wedi penderfynu ymuno a sefydlu buches sy’n lloeua yn ystod y gwanwyn ar y bryniau uwchben Llanrwst.

 


Tudalennau cysylltiedig:


Newyddion ac Erthyglau Technegol Diweddaraf yn Gysylltiedig â Mentro

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol

26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites/farmingconnect/files/styles/video_embed_wysiwyg_preview/public/video_thumbnails/_RHA__updsI.jpg?itok=4RmQ7RDF","video_url":"https://www.youtube.com/watch?v=_RHA__updsI","settings":{"responsive":1,"width":"854","height":"480","autoplay":0},"settings_summary":["Embedded Video (Responsive)."]} Mae ffermwr defaid ifanc yn elwa o’i ddyfalbarhad i ddechrau ffermio ynghyd â’i angerdd...