18 Gorffennaf 2024

“Mae paru tirfeddianwyr sydd am neu angen camu’n ôl o’r diwydiant gyda ffermwyr iau neu newydd-ddyfodiaid sy’n awyddus i gael troed i mewn yn y byd amaeth nid yn unig yn grymuso a moderneiddio amaethyddiaeth Cymru ond hefyd yn diogelu dyfodol llawer o fusnesau fferm sydd mewn perygl,” meddai Euryn Jones, cadeirydd Bwrdd Cynghori Strategol Cyswllt Ffermio.

Bydd Mr Jones yn cadeirio digwyddiad ‘Dechrau Ffermio’ arbennig ar fentrau ar y cyd yn  Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd eleni (Gorffennaf 22-25), pan fydd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, yn ymuno â chynulleidfa wadd o unigolion o Gymru sy’n chwilio am gyfleoedd a thirfeddianwyr sydd ar hyn o bryd wedi cofrestru ar gronfa ddata 'Dechrau Ffermio' Cyswllt Ffermio, gyda phob un yn gobeithio dod o hyd i bartner busnes priodol. Bydd cyn-fuddiolwyr y cynllun a gafodd gymorth drwy'r rhaglen ac sydd bellach yn ffermio’n gydweithredol fel rhan o fenter ar y cyd yn ymuno â nhw. Bydd cynrychiolwyr o sefydliadau rhanddeiliaid allweddol y diwydiant hefyd yn bresennol.

Mae menter 'Dechrau Ffermio' wedi darparu cymorth mentora, busnes, ariannol a chyfreithiol wedi'i ariannu'n llawn i 78 partneriaeth menter ar y cyd newydd a llwyddiannus ledled Cymru, gan gynrychioli pob sector o'r diwydiant.

Mae 29 pâr ychwanegol o ddarparwyr a cheiswyr ar eu llwybrau personol eu hunain ar hyn o bryd tuag at fentrau ar y cyd newydd neu bartneriaethau ffermio cyfran. Gyda chymorth mentoriaid cymeradwy ac ymgynghorwyr arbenigol, mae'r gyfran nesaf o ddarpar bartneriaid eisoes yn datblygu cynlluniau busnes a fframweithiau cyfreithiol yn barod ar gyfer eu trefniadau busnes unigryw eu hunain.
Er mwyn datblygu busnesau sydd wedi sefydlu, eglura Mr Jones ei bod yn hanfodol cadw ar y blaen â'r arferion gorau, defnyddio technolegau newydd a rhoi ffyrdd arloesol, cynaliadwy o weithio ar waith. Mae’r rhain i gyd yn feysydd a all gyflwyno heriau i ffermwyr mwy traddodiadol, yn enwedig os nad oes cynllun olyniaeth ar waith i drosglwyddo’r awenau i’r genhedlaeth nesaf.

“Mae Cyswllt Ffermio, trwy ei Raglen Trosglwyddo Gwybodaeth, yn canolbwyntio’n gryf ar annog a galluogi ffermwyr iau i fuddsoddi mewn datblygiad personol ac i fod yn rhan o’r gwaith rheoli’r fferm yn ifanc, boed hynny o fewn fferm deuluol neu bartneriaeth newydd, tra bod eu brwdfrydedd, gallu ac egni ar eu hanterth,” meddai Mr Jones.

Bydd gwasanaethau cymorth y fenter ar y cyd 'Dechrau Ffermio' yn cael eu darparu gan dîm cymeradwy o ymgynghorwyr arbenigol a thimau cyfreithiol Cyswllt Ffermio i fodloni gofynion tirfeddianwyr a darpar ddeiliaid. Nod y fenter yw hwyluso trosglwyddiad di-dor o sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd tirfeddianwyr hŷn neu fwy profiadol i unigolion sydd â’r gallu, y sgiliau a’r egni i sicrhau bod y fferm yn datblygu’n gynaliadwy.

Yn ystod ymweliad Ysgrifennydd y Cabinet â’r digwyddiad ‘Dechrau Ffermio’, bydd yn clywed yn uniongyrchol am y buddion ‘cadarnhaol’ a brofwyd gan nifer o ffermwyr sydd eisoes yn ymwneud â threfniadau ffermio cyfran lwyddiannus yng Nghymru. Wrth siarad cyn Sioe Frenhinol Cymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies: “Mae sicrhau bod gwybodaeth ac arbenigedd ffermwyr mwy profiadol yn cael eu trosglwyddo i newydd-ddyfodiaid yn hynod o bwysig. Mae dod â’r arbenigedd, y profiad a’r mewnwelediad hwn ynghyd â’r fenter ‘Dechrau Ffermio’ yn allweddol i ffyniant amaethyddiaeth Cymru yn y dyfodol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Cyswllt Ffermio i ddarparu diwydiant ffermio sy’n cefnogi cymunedau gwledig ffyniannus – ac sy’n gynaliadwy ym mhob ystyr y gair.”
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu