emma robinson and catherine smith with milk 2

Mae busnes fferm laeth deuluol yn cymryd rheolaeth dros y pris y maent yn ei dderbyn am laeth trwy werthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd.

Symudodd Robert ac Emma Robinson eu buches laeth o Swydd Bedford i Gymru yn 2014 ac roeddent wedi buddsoddi’n sylweddol yn eu menter newydd pan gwympodd y prisiau llaeth.

“Yn wreiddiol, roeddem yn derbyn tâl o 32 ceiniog y litr, ond wedyn dechreuodd y pris gwympo ac ar ei isaf, roeddem yn derbyn 11 ceiniog am rywfaint o’n llaeth,” meddai Emma.

Gyda chefndir mewn gwerthiant, aeth Emma ati i ymchwilio i bosibilrwydd gwerthu llaeth crai yn uniongyrchol o fferm Grosmont, ger Y Fenni, ond yna gwelodd gyfle i ddatblygu’r sgiliau marchnata a fyddai’n gosod sylfaen ar gyfer y fenter newydd.

 “Fe wnaethom ni gofrestru gyda Cyswllt Ffermio pan gyrhaeddon ni i Gymru ac fe sylweddolom yn syth bod ystod eang o gefnogaeth ar gael i ni.”

Cafodd Emma ysbrydoliaeth ynglŷn â syniadau newydd yn ymwneud â sut i frandio a marchnata llaeth crai, wedi iddi ddilyn cwrs marchnata cymorthdaledig a ddarparwyd gan Simply the Best, cwmni hyfforddi ymgynghorol sydd wedi’i gymeradwyo gan Cyswllt Ffermio.

Mae Robert yn dweud fod Emma wedi dychwelyd adref o’r cwrs “yn llawn syniadau!”

Roedd y teulu Robinson eisoes wedi cwblhau holl brotocolau’r Asiantaeth Safonau Bwyd sy’n ofynnol ar gyfer gwerthu llaeth heb ei basteureiddio ac yn fuan iawn, roeddent yn gwerthu llaeth yn uniongyrchol o’r fferm ac mewn Marchnadoedd Ffermwyr. O fewn deufis o gwblhau’r cwrs, roeddent yn codi £1.50 am garton 2 litr wedi’i werthu ger giât y fferm  a £2 mewn Marchnadoedd Ffermwyr, a hefyd wedi lansio adnodd gwerthu ar lein.

Mae archebion ar lein yn cael eu hanfon ddwywaith yr wythnos gan ddefnyddio cwmni dosbarthu. Y cynnyrch sy’n gwerthu orau ganddynt yw wyth carton am £28 sy’n cynnwys yr holl gostau pecynnu a dosbarthu. “Mae’r llaeth yn aros yn ffres yn yr oergell am dri diwrnod felly mae ein cwsmeriaid yn rhoi un yn yr oergell ac yn rhewi’r gweddill,” meddai Emma.

Mae gwerthiannau dyddiol yn amrywio o 15 litr i 40 litr gyda gweddill eu llaeth yn cael ei werthu i First Milk, ond mae’r farchnad am laeth crai yn tyfu.

“Os byddwn yn cael £10 y dydd ar gyfartaledd, mae hynny’n £3,500 y flwyddyn, ac mae hynny’n dipyn wrth ystyried ein bod yn derbyn llai na 20 ceiniog y litr am y llaeth yn ein tanc,” meddai Robert.

“Mae ein cwsmeriaid yn dweud y byddent yn hapus i dalu mwy ond mae’n rhaid i ni barhau i fod yn gystadleuol gydag archfarchnadoedd. Rydym ni’n teimlo mai dyma’r pris gorau y gallwn ei godi ar hyn o bryd.’’

Mae’r llaeth yn cael ei gynhyrchu gan 80 o wartheg Holstein o’r fuches bedigri Felmersham o ar y fferm 380 erw, sef Grosmont Wood Farm.

Mae’r system yn lloea trwy gydol y flwyddyn ac mae llaeth yn cael ei gynhyrchu ar laswellt o fis Ebrill i fis Tachwedd cyn i’r gwartheg fynd i mewn ar gyfer y gaeaf. Mae’r teulu Robinson hefyd yn ŵyna 250 o famogiaid  miwl Gogledd Lloegr ym mis Ebrill ac yn tyfu gwenith, ceirch, pys ac india corn i’w fwydo i’r da byw. Mae’r gwellt a gynhyrchir gan y cnydau yn darparu adnodd gwerthfawr ar y fferm.

Roedd opsiynau posib ar gyfer arallgyfeirio ar restr Robert ac Emma wrth iddynt fynd o gwmpas i edrych ar ffermydd. “Roeddem bob amser yn holi: “Beth arall allwn ni’i wneud yma heblaw am gynhyrchu llaeth?” meddai Emma.

Roedd cyfleusterau cadw ceffylau eisoes ar gael ar Fferm Grosmont Wood, felly fe welodd y cwpwl botensial ar gyfer ffrwd incwm ychwanegol.

Mynychodd Emma un o ddigwyddiadau arallgyfeirio Cyswllt Ffermio ar fferm gerllaw a roddodd anogaeth iddi ymchwilio i ddichonolrwydd sefydlu cartref ymddeol ar gyfer ceffylau.

Cwblhaodd gais ar gyfer cymorth ariannol 80% gan Cyswllt Ffermio i dderbyn cyngor busnes ac ariannol a roddodd yr hyder iddi sefydlu’r fenter newydd ac i lansio gwefan.

O fewn wythnos wedi iddi lansio’r wefan, cyrhaeddodd y ceffyl cyntaf, ac yna daeth dau arall yn fuan iawn wedyn. “Mae’n cynnig incwm wythnosol pwysig iawn i ni,” meddai Robert.

Roedd y wefan eisoes ar gael pan oeddent yn sefydlu’r busnes gwerthu llaeth ar lein felly dim ond ychwanegu elfen ychwanegol oedd angen i gychwyn ar y siop ar lein.

Mae Robert ac Emma yn dweud bod y strwythur cryf ar gyfer cefnogaeth i ffermio a mentrau gwledig yn golygu bod mantais glir i ffermio yng Nghymru. Mae Robert a’u mab Harvey, hefyd wedi mynychu cwrs trimio traed trwy Cyswllt Ffermio, a hwnnw hefyd yn cynnwys cymhorthdal o 80%.

“Yng Nghymru, mae pobl yn ceisio eich helpu chi. Nid oes strwythur tebyg i Cyswllt Ffermio ar gael yn Lloegr,’’ meddai Emma.

“Ni ddylai ffermwyr fod ofn gofyn am gymorth, mae amrediad eang o wasanaethau cefnogi ar gael ac mae’n rhaid i ni fanteisio ar y rhain gan y bydd angen i ni fod hyd yn oed yn fwy creadigol yn ein hymdrechion unwaith y byddwn wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.’’

Dywed Robert ac Emma bod y gefnogaeth a dderbyniwyd ganddynt trwy Cyswllt Ffermio wedi eu cynorthwyo i ddatblygu eu busnes trwy gyfnod heriol yn y diwydiant.

“Mae ffermwyr yng Nghymru mewn sefyllfa gryfach oherwydd Cyswllt Ffermio,” meddai Emma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter
Ffermwr yn cael y gorau o’i gnydau gyda chymorth cwrs agronomeg wedi’i gefnogi gan Cyswllt Ffermio
29 Awst 2024 Gall poblogaethau chwyn, plâu a chlefydau effeithio