Bu Rhys yn gweithio fel contractwr amaethyddol yn dilyn cyfnodau o weithio ar ffermydd ond ei uchelgais oedd gallu dechrau ar yrfa o ffermio.
Gyda chymorth gan raglen ‘Mentro’ Cyswllt Ffermio, mae wedi cyflawni’r nod hwnnw gan ffermio mewn partneriaeth â’r brodyr Nick a David Nichols, sy’n cadw 60 o wartheg bîff sugno croes Limousin a Simmental mewn system organig ar fferm 320 erw Gwernant ger Rhydlewis, Llandysul.Mae’r ddau frawd yn eu chwedegau hwyr ac yn dymuno cwtogi ar eu hymrwymiadau ffermio dyddiol.
Roedd Rhys, Nick a David wedi cofrestru â ‘Mentro’ - rhaglen Cyswllt Ffermio sy’n paru perchnogion tir a ffermwyr â’r rheiny sy’n ceisio llwybr newydd i mewn i’r diwydiant - a chawsant eu cefnogi drwy’r broses o sefydlu cytundeb partneriaeth ar gyfer yr elfen o’r busnes yn ymwneud â da byw.
“Fe gawson ni gymorth ariannol i gael ein tywys drwy’r broses gan John Crimes o CARA Wales ac i gyfreithiwr lunio cytundeb partneriaeth a oedd yn ddarn o waith papur eang iawn,” meddai Nick.
“Fe symleiddiodd y broses gyfan ac roedd y cymorth ariannol a gawson ni’n dderbyniol iawn.’’
Mae Rhys wedi bod yn ffermio ar fferm Gwernant am bron i flwyddyn bellach ac mae’n dweud mai dyma’r penderfyniad gorau iddo ei wneud erioed.
“Mae mor anodd cael eich traed danoch mewn amaethyddiaeth, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am y cyfle hwn.’’
Mae’r cytundeb yn darparu tŷ ar y fferm i Rhys yn ogystal ag incwm ac, o fewn pum mlynedd i ddechrau’r cytundeb, bydd wedi sicrhau perchnogaeth o ganran o’r da byw.
O ran y brodyr, mae’n golygu y gallan nhw ddirprwyo llawer o’u cyfrifoldebau i Rhys.
“Doedd arnon ni ddim eisiau gwerthu’r fferm ond roedd y gwaith corfforol yn mynd yn fwy anodd. Mae’r cytundeb hwn wedi lleihau’r pwysau arnom ni yn gorfforol ac yn feddyliol,” meddai David.
“Rydyn ni’n hynod falch o roi cyfle i rywun newydd ffermio. Mae gan Rhys ddiddordeb personol yn y cynnyrch terfynol felly mae yna ysgogiad iddo reoli’r gwartheg yn dda.’’
Mae Rhys yn cyflawni’r disgwyliadau. “Roedd y cyfnod lloia’n ardderchog y gwanwyn hwn heb unrhyw golledion,” meddai Nick.
Mae’r cytundeb wedi golygu gostyngiad mewn incwm i’r brodyr ond yn gyfnewid am hynny Rhys sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith corfforol a’r gwaith papur. “Mae’n gyfnewidiad rhesymol yn ein tyb ni,” yw rhesymeg Nick.
Mae’r rhaglen Mentro wedi denu dros 170 o ymgeiswyr ers ei lansio y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2015. Hyd yma, mae 29 pâr wedi’u canfod, mae 7 o fentrau ar y cyd newydd sbon wedi’u sefydlu ac mae ymgyrch recriwtio newydd yn yr hydref yn barod i gynyddu’r nifer hwnnw ymhellach. Dros yr ychydig wythnosau nesaf fe gynhelir cyfres o weithdai Mentro newydd i ddarparu gwybodaeth am gyfnodau allweddol sefydlu menter ar y cyd, a yw’n opsiwn addas i chi ac, yn bwysicach na dim, cyfarfod â phartneriaid busnes posibl yn yr ardal.
Unwaith y byddwch yn cofrestru â Mentro ac yn mynychu gweithdy, gall Cyswllt Ffermio ddarparu cymorth pwrpasol i’r ddwy ochr drwy ystod o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth a hyfforddiant, ynghyd â gwasanaethau cynghori cyfrinachol a mentora gyda llawer o’r rheiny naill ai wedi’u hariannu’n llawn neu’n rhannol.
Bydd pob un o weithdai’r hydref yn dechrau am 6:00yh ac yn gorffen am 9:30yh.
- Dydd Mawrth 26 Medi - Gwesty Brecon Castle, Sgwâr y Castell, Aberhonddu, Powys, LD3 9DB
- Dydd Mercher 27 Medi - Marchnad Anifeiliaid y Trallwng, Buttington Cross, Y Trallwng, Powys, SY21 8SR
- Dydd Mawrth 3 Hydref - Llety Cynin, Heol Llangynin, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, SA33 4JR
- Dydd Mercher 4 Hydref - Feathers Hotel, Alban Square, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0AQ
- Dydd Mawrth 10 Hydref – Gwesty’r Celtic Royal, Stryd Bangor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AY
- Dydd Mercher 11 Hydref – Marchnad Anifeiliaid Rhuthun, Parc Glasdir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1PB
Mae’n rhaid archebu pob lle ymlaen llaw drwy ffonio Gwen Davies ar 01745 770039 neu e-bost gwen.davies@
I dderbyn copi o lawlyfr ‘Mentro’ Cyswllt Ffermio, cysylltwch â Gwen Davies gan ddefnyddio’r manylion uchod.
Mae Cyswllt Ffermio yn darparu gwasanaethau trosglwyddo gwybodaeth a chyngor i bob sector amaethyddol ac mae’n cael ei ariannu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.