13 Rhagfyr 2018

 

olyniaeth succession 1
Nid llif arian na Brexit yw’r bygythiad mwyaf i ffermydd teulu yng Nghymru – ond y ffaith nad oes ganddynt gynllun olyniaeth cadarn! Dyna un o’r prif negeseuon yn llawlyfr a phecyn cymorth Cyswllt Ffermio ar gynllunio olyniaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Dyma’r neges hefyd a fydd ar frig yr agenda mewn cyfres o gyfarfodydd agored am olyniaeth a fydd ar waith mewn lleoliadau ledled Cymru yn y flwyddyn newydd.

I geisio annog teuluoedd drwy Gymru gyfan i ‘gychwyn sgwrsio’ am gynllunio ar gyfer olyniaeth, mae Cyswllt Ffermio’n defnyddio dull ‘diogelu dwbl’ i sicrhau fod perchnogion yn manteisio ar yr amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth sydd ar gael yn rhad ac am ddim i’w helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol a diogelu dyfodol busnesau teulu.

“Gall Cyswllt Ffermio roi’r arweiniad y maent ei hangen i deuluoedd i sicrhau eu bod yn gwybod pa gamau i’w cymryd i ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol mewn digonedd o bryd cyn i drafodaeth o’r fath ddod yn hanfodol,” meddai Einir Davies, rheolwr datblygu a mentora gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru.

“Bydd pob teulu eisiau osgoi straen a phryder dadleuon o fewn y teulu a’r canlyniadau ariannol niweidiol a allai arwain at golli cartref a bywoliaeth i lawer o unigolion”.

Pwysleisiodd Ms Davies y ffaith y bydd pob cynllun olyniaeth yn unigryw i bob busnes penodol ac nad oes un opsiwn sy’n addas i bawb, am fod pob teulu’n wahanol a phob busnes yn wahanol.

“Un elfen sy’n gyffredin i bawb bob tro yw bod angen i bob teulu ffermio ystyried y dyfodol a chynllunio ymlaen llaw’n ddigonol ar gyfer nifer o wahanol sefyllfaoedd er mwyn lleihau’r risg y bydd raid i’r fferm gael ei gwerthu neu ei rhannu’n ddarnau,” meddai Ms. Davies.

O fis Ionawr ymlaen, mae Cyswllt Ffermio wedi trefnu cyfres o gyfarfodydd agored yn ystod y prynhawn a gyda’r nos mewn lleoliadau drwy Gymru gyfan, lle bydd yr arbenigwr adnabyddus mewn cynllunio olyniaeth, Siân Bushell o Sir Benfro, yn brif siaradwr.

Bydd Ms. Bushell yn esbonio’r rhesymeg sy’n sylfaen i gynllunio olyniaeth, fel bod y bobl sy’n mynd i’r cyfarfod yn gwybod pa gymorth ac arweiniad annibynnol sydd ar gael iddynt. Bydd hyn yn eu paratoi’n dda ar gyfer unrhyw drafodaethau y bydd angen iddynt eu cael yn y dyfodol gyda’u cynghorwyr ariannol, busnes a chyfreithiol eu hunain.

Erbyn hyn, mae rhaglen fentora hynod lwyddiannus Cyswllt Ffermio’n cynnwys tîm o ffermwyr ‘olyniaeth-amaeth’ neu arbenigwyr fel Ms Bushell sy’n gallu darparu cymorth ac arweiniad un-i-un, a bydd hynny’n aml iawn wedi’i seilio ar eu profiad personol eu hunain o gynllunio ar gyfer olyniaeth.

Yn y rhaglen fentora, mae Ms. Bushell yn defnyddio dull gwahanol drwy gynnig sesiwn grŵp ‘bord gron’ sy’n darparu gwasanaeth hwyluso wedi’i ariannu’n llawn mewn lleoliad niwtral oddi ar y fferm ar gyfer y cyfarfodydd teulu hanfodol hynny pan fydd pob unigolyn sy’n cymryd rhan yn cael eu hannog i leisio eu barn am faterion allweddol heb ofni beirniadaeth neu rwyst.

Hefyd, yn rhan o’r broses o ‘gychwyn y sgwrs’, efallai y bydd ffermwyr sy’n gymwys i gymryd rhan eisiau cofrestru ar gymhorthfa olyniaeth gyda Cyswllt Ffermio, lle gallent archebu ymgynghoriad un-i-un cyfrinachol yn rhad ac am ddim gyda chyfreithiwr amaethyddol profiadol. Efallai hefyd y bydd cyngor busnes a chyngor technegol, a ariennir drwy’r Gwasanaeth Cynghori, yn erfyn hanfodol wrth i chi ystyried dyfodol eich busnes.

I gael rhagor o fanylion am yr ystod gyflawn o wasanaethau olyniaeth a gynigir gan Cyswllt Ffermio ac am amseroedd, dyddiadau a lleoliadau cymorthfeydd neu gyfarfodydd agored sydd ar y gweill, ewch i wefan Cyswllt Ffermio. Mae’n hanfodol cofrestru o flaen llaw ar gyfer pob digwyddiad. Ffoniwch Helen Lewis ar 01970 631425 neu anfonwch e-bost: Helen.lewis@menterabusnes.co.uk. Gallwch naill ai lawrlwytho neu ofyn am gopi o lawlyfr a phecyn cymorth cynllunio olyniaeth Cyswllt Ffermio.

Mae Cyswllt Ffermio wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu