28 Ionawr 2019

 

abi reader with heifers 0
Wrth sychu’r gwartheg mae Fferm Goldsland yng Ngwenfo, Caerdydd, yn defnyddio gwrthfiotigau mewn llai nag 20% o’r fuches o 200 o wartheg Holstein a Byrgorn, gan ddewis defnyddio therapi buchod sych dethol yn lle hynny.

Dywed Abi Reader, un o Ffermwyr Ffocws Cyswllt Ffermio, bod y therapi buchod sych, a ddefnyddiwyd gyntaf wyth mlynedd yn ôl, yn cael ei bennu gan ddata cofnodi llaeth – defnyddir seliwr tethi yn unig ar fuchod â chyfrif celloedd somatig o lai na 200,000 o gelloedd y ml.

Er na welwyd unrhyw ostyngiad amlwg mewn achosion o fastitis, mae’r duedd yn mynd i’r cyfeiriad cywir, dywed Ms Reader, gydag 19 achos ym mhob 100 mewn cymhariaeth â 24 achos ym mhob 100 wyth mlynedd yn ôl; mae hefyd ostyngiad amlwg yn lefel y gwrthfiotigau a ddefnyddiwyd.

Er gwaethaf y cyfrif celloedd cymharol uchel ar lefel y fuches o 190,000 cell y ml pan ddefnyddiwyd y therapi gyntaf, roedd cyfiawnhad llwyr dros ddefnyddio seliwr yn unig wrth sychu, mae’n dweud, oherwydd nid oedd y problemau mastitis wedi eu crynhoi yn y cyfnodau buchod sych a ffres.

“Mae’r problemau mastitis yn digwydd 60-80 diwrnod ar ôl lloea ac felly nid ydynt yn gysylltiedig â’r cyfnod buchod sych - mae buchod sy’n cael eu sychu gyda chyfrif celloedd somatig isel yn lloea yn isel,” dywed Ms Reader.

Ar hyn o bryd mae’r cyfrif celloedd somatig ar gyfartaledd yn 98,000 cell/ml.

Trwy ei gwaith fel Fferm Ffocws Cyswllt Ffermio, mae wedi bod yn gweithio i wella hyn gan ymdrin â phroblemau fel gwella llwybrau buchod, lleihau’r potsio o gwmpas cafnau dŵr a chyfyngu ar y mynediad i giwbyclau yn ystod misoedd yr haf, pan fydd buchod sy’n pori glaswellt yn dod i mewn i’r siediau i’w godro a’u porthi.

Mae hyn i gyd yn helpu i leihau’r tebygolrwydd y bydd germau yn cael cyswllt â chadeiriau/pyrsiau’r buchod.

Roedd y prosiect Cyswllt Ffermio yn cynnwys monitro’r defnydd o wrthfiotigau ar y fferm a’i feincnodi gyda ffermydd llaeth eraill dan gyfarwyddyd yr arbenigwr milfeddygol Dr James Breen, o Brifysgol Nottingham a Quality Milk Management Services Ltd (QMMS).

Canfu’r adolygiad, mewn pump o’r chwe blynedd hyd at 2016/17, roedd y defnydd yn gyffredinol yn isel; roedd yn cael ei fesur yn ôl mg/Uned Boblogaeth wedi ei Chywiro (PCU) a gwelwyd ei fod yn llai na 15mg/PCU - y targed ar gyfer mg/PCU yn y sector llaeth yn y Deyrnas Unedig yw 21 erbyn 2020.

I drin cloffni mewn anifeiliaid yr oedd y defnydd mwyaf, ond mae Ms Reader yn ymdrin â hyn trwy wella cyfleusterau golchi traed a llwybrau buchod.

Roedd rhai o’r 15 buches a feincnodwyd ar gyfer astudiaeth Cyswllt Ffermio yn defnyddio mwy yn sylweddol na’r targed cenedlaethol, gyda rheoli mastitis yn ffactor allweddol yn y penderfyniad.

Ym mlwyddyn olaf yr astudiaeth, 2016/17, gostyngodd y defnydd ar fferm Goldsland i 10.89 mg/PCU, ond gostyngodd y defnydd o wrthficrobiaid allweddol bwysig o 0.3 mg/PCU yn 2015-16 i 0.1 mg/PCU yn ystod 2016-17, heb gael effaith niweidiol ar les yr anifeiliaid.

Gwnaed gostyngiadau trwy lunio protocolau ar y cyd â chyngor milfeddygol a rhedeg profion i sicrhau bod y gwrthfiotig cywir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y broblem.

“Fe wnaethom hefyd edrych yn fwy gofalus a oedd angen gwrthfiotig yn y lle cyntaf,” esboniodd Ms Reader.

Rhoddwyd mwy o bwyslais ar ddefnyddio deunydd i ladd poen ar gyfer pob cyflwr gan gynnwys mastitis, cloffni a’r sgôth ar loeau.

Yn gyffredinol, mae lefel y defnydd o wrthfiotigau ar Fferm Goldsland yn awr yn ei rhoi ymhlith y 25% uchaf o fuchesi’r Deyrnas Unedig sydd yn defnyddio lleiaf.

Cyflawnodd y busnes hyn trwy ddatblygu ei god ymarfer ei hun ar gyfer pob cyflwr ac mae’n cynnwys:

  • Defnyddio data cofnodi llaeth a hanes y buchod
  • Ymgynghori â milfeddyg y fferm ar y defnydd cywir o wrthfiotigau
  • Cynnal profion os bydd angen
  • Sicrhau bod pawb sy’n gweithio gyda’r buchod yn gwybod yn iawn am y nod o leihau’r triniaethau â gwrthfiotigau.

Ffactorau eraill sydd wedi cyfrannu at y gostyngiad yw gosod cerrig mewn giatiau i atal mastitis. 

“Mae buchod sy’n cerdded trwy adwyon mwdlyd mewn mwy o risg o gael germau ar eu cadeiriau,” dywed Ms Reader.

Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, wrth iddi geisio gwthio’r defnydd o wrthfiotig i lawr, dywed Ms Reader ei bod wedi dysgu ei bod yn bwysig ymateb i anghenion y fuwch. 

“Peidiwch â gadael i’r pwysau i gofnodi’r defnydd o wrthfiotig fynd yn drech na chi a bod mewn perygl o beidio â thrin cyflwr yn briodol,” mae’n cynghori.

“Dechreuwch gasglu data, siaradwch â’ch milfeddyg, dysgwch a chael gwybod pam bod gennych y problemau sydd gennych, ewch at graidd y broblem a gwnewch newidiadau fel eich bod yn atal y broblem yn y lle cyntaf. 

“Canolbwyntiwch ar y broblem waethaf yn gyntaf, peidiwch â chael eich llethu.”

Dywed Helen Ovens o ADAS, a fu’n paratoi’r adroddiad i’r astudiaeth ar y cyd, mai’r neges glir o’r ymchwiliad hwn yw bod rhaid i ffermwyr llaeth roi camau yn eu lle sy’n atal afiechyd ac osgoi’r angen i drin.

Er bod y camau a ddefnyddiwyd ar Goldsland wedi ychwanegu at gost cynhyrchu yn y tymor byr, gallant fod yn fanteisiol yn ariannol yn y tymor hir, awgrymodd Ms Ovens.

“Bydd arbedion ariannol yn cael eu gwneud o ran costau cyffuriau a gostyngiad yn y nifer o anifeiliaid a gollir, yn ogystal â chynyddu’r cynhyrchiant llaeth.”

Cyngor Dr Breen i ffermwyr yw mabwysiadu protocolau i’w defnyddio yn briodol ac i weithredu strategaethau atal.

“Y cysyniad allweddol yw peidio â stopio defnyddio gwrthficrobiaid ond osgoi’r angen i’w defnyddio.

“Felly, bydd deall pa dymhorau y mae achosion mastitis yn digwydd, triniaethau ataliol â deunydd gwrthlidiol, protocolau ar gyfer trin afiechyd a hyfforddiant i staff i gyd yn helpu i atal afiechyd ac osgoi’r angen i drin â gwrthficrobiaid.”

Dywedodd Ms Reader bod yr astudiaeth wedi ei helpu i symud tuag at drefn wedi ei thargedu o ddefnyddio gwrthfiotig, ynghyd â gwell rheolaeth ar y fuches.

Awgrymodd mai her amgylcheddol oedd yr un yn deillio o mastitis, gan gynnwys problemau yn y siediau ac afiechyd wedi cronni yn y padogau pori yn ystod yr haf.

Yn ddiweddar mae wedi codi sied wartheg newydd wedi ei hawyru yn well i gynnal iechyd y fuches ac mae gwelliannau yn cael eu gwneud i’r sied fagu lloi, gan gynnwys gwell awyru i gael aer glanach i leihau amlygrwydd niwmonia.

Dywed Imogen Ward, Swyddog Technegol Llaeth yn Cyswllt Ffermio, bod defnydd mwy effeithlon o wrthficrobiaid yn dod yn hanfodol o ganlyniad i bryderon am wrthedd i’r cyffuriau hyn mewn pobl ac anifeiliaid.

“Mae gan filfeddygon ffermydd ac arweinwyr y diwydiant anifeiliaid rôl allweddol i’w chwarae trwy gynyddu ymwybyddiaeth o’r defnydd cywir o wrthficrobiaid a gweithredu dulliau atal afiechyd heb fod yn wrthficrobaidd ar y fferm,” dywedodd.

 

PANEL

Patrwm therapi i fuchod sych dethol ar Fferm Goldsland

Trochwch y cadeiriau a’u sychu ag anaesthetig unigol, gan weithio o’r tethi pellaf i’r rhai agosaf.

Sychwch flaen y tethi yn unigol â gwlân cotwm wedi ei fwydo mewn gwirod llawfeddygol, y deth agosaf yn gyntaf; ar ôl i’r tethi gael eu sychu, rhowch y tiwbiau a gweithio o’r deth agosaf at y rhai pellaf.

Ar gyfer y buchod hynny a ddynodwyd fel rhai sydd angen seliwr yn unig, rhowch y seliwr gan ddefnyddio’r dechneg gywir, gan ofalu nad ydynt yn cael eu tylino i’r gadair/pwrs trwy ddal rhan uchaf y deth.

Rhowch diwbiau gwrthfiotig i fuchod a ddynodwyd fel rhai sydd angen triniaeth ac yna seliwr.

Trochwch y tethi i gyd.

Rhowch dâp ar gynffonau’r buchod sydd wedi cael triniaeth i sicrhau eu bod yn hawdd eu hadnabod wrth loea.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites