Cwrs undydd gyda thystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Lluniwyd y gweithdy hwn i ddarparu gwybodaeth ymarferol a defnyddiol i’ch cynorthwyo i ofalu am y llo yn ystod y misoedd cynnar.
Mae’r cwrs wedi’i anelu at geidwaid stoc ar y fferm, a bydd yn eu cynorthwyo i fagu lloi yn llwyddiannus. Bydd mynychu’r cwrs o fudd i’r rhai sy’n dymuno datblygu eu dealltwriaeth o fagu lloi a’r problemau cysylltiedig. Bydd pob agwedd o iechyd a rheolaeth yn cael eu trafod: siediau, brechlynau, atal clefydau, digornio, ysbaddu a thasgau cyffredinol.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall Embryonics Ltd gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.