Fedw Arian Uchaf, Rhyd Uchaf, Y Bala, Gwynedd
Prosiect Safle Ffocws: Cynhyrchu i’r eithaf ar fferm fynydd organig
Amcanion y prosiect:
- Ceisio cynhyrchu’r mwyaf o ddeunydd sych ag sy’n bosibl o ardaloedd cynhyrchiol y fferm fynydd drwy edrych ar opsiynau cnydau porthiant a glaswellt, yn bennaf ar gyfer pori.
- Nodi’r ardaloedd llai cynhyrchiol (llethrau serth a ger ffosydd) ac ystyried opsiynau fel plannu coed i greu cysgod a chynefinoedd ychwanegol.
- Cael elw ar y buddsoddiad.
Beth fyddant yn ei wneud:
Ar ôl profi’r pridd, bydd cae 8 hectar gwndwn tymor byr yn cael ei rannu’n 3 rhan a’u plannu ddiwedd mis Awst/dechrau Medi â
- Westerwold
- Rhygwellt Eidalaidd
- Rhyg porthiant
Bydd faint o ddeunydd sych a gynhyrchir (drwy gewyll cau allan) ac ansawdd y glaswellt (anfon samplau i’w dadansoddi) yn cael eu monitro mewn 3 chyfnod gwahanol -
- porfa diwedd hydref
- porfa dechrau’r gwanwyn
- cnwd silwair
Bydd Geraint Jones, Swyddog Technegol Coedwigaeth Cyswllt Ffermio hefyd yn gwerthuso’r fferm ac yn creu cynllun rheoli coetir i amlygu ardaloedd lle gallai plannu coed fod yn opsiwn; bydd hefyd yn cynghori ar y mathau mwyaf priodol a sut i’w rheoli.