3 Ebrill 2020

 

Mae buches sugno bîff Gymreig yn sicrhau allyriadau carbon sy'n 17% yn is na'r lefel gyfartalog.

Mae Paul a Dwynwen Williams yn rheoli buches o 60 o wartheg sugno ac yn pesgi 120 o deirw Holstein y flwyddyn o'r fuches odro mewn ffordd ddwys, ar safle ffocws Cyswllt Ffermio ger Llanrwst, gan besgi epil ar borthiant yn unig.

Mae eu menter buches sugno yn allyrru 33.65kg o kg CO2e (cyfatebol - methan, carbon deuocsid ac ocsid nitraidd)/kg ar y bachyn.

Mae hyn cymharu â chyfartaledd o 40.68kg o CO2e ar gyfer y 600 o fentrau tebyg wedi'u meincnodi yng nghronfa ddata Calc AgRE SRUC (Scotland’s Rural College ).

Cynhaliwyd y gwaith dadansoddi gan ymchwilwyr o SAC Consulting fel rhan o astudiaeth Cyswllt Ffermio, ac mae wedi galluogi’r teulu Williams i nodi meysydd i'w gwella hefyd.

I'r fenter bîff o'r fuches odro, roedd yr allyriadau'n uwch na'r lefel gyfartalog o 
12.59 CO2e/kg ar y bachyn ar gyfer y ffermydd meincnod yn y gronfa ddata, ond mae'n parhau i gynhyrchu ôl troed carbon is fesul kg o bîff na'r system buchod sugno bîff.

Roedd wedi allyrru swm a oedd yn cyfateb â 14.48kg CO2e/kg ar y bachyn, wrth i bob anifail fwyta 271kg o borthiant a brynwyd a 4.937t o borthiant a dyfwyd ar y fferm.

Y rheswm pam yr oedd y fenter bîff o'r fuches odro yn uwch oedd oherwydd bod yr holl ffermydd meincnod yn unedau teirw bîff o'r fuches odro dan do dwys, a fferm Cae Haidd Ucha yw'r unig uned fagu bîff llaeth sy’n seiliedig ar laswellt, esboniodd Simon Travis, o SAC Consulting. 

Yn gyffredinol, mae gan systemau pesgi teirw o'r fuches odro fantais dros systemau pesgi bustych ar gyfrifiadau allyriadau carbon gan bod yn rhaid i allyriadau carbon y cylch bywyd cyflawn mewn buchesau sugno bîff, gan gynnwys yr holl anifeiliaid magu, gael eu hystyried wrth gyfrifo, dywedodd.

“Nid yw lloi bîff llaeth, y daethpwyd â nhw i mewn, yn cynnwys y faich hon o fagu,” dywedodd Mr Travis.

 

Sut y cedwir allyriadau yn isel

Gall y teulu Williams gadw allyriadau yn isel trwy sicrhau enillion pwysau byw da o borthiant a dyfir ar y fferm, esboniodd Mr Travis.

Y defnydd o silwair a dyfir ar y fferm fesul buwch fesul blwyddyn yn fferm Cae Haidd Ucha yn ystod y flwyddyn tan fis Medi 2019 oedd 8.764t pwysau ffres, gydag epil yn llwyddo i sicrhau enillion pwysau byw dyddiol o 0.75kg/dydd.

Mae cynhyrchu porthiant effeithlon yn helpu perfformiad carbon Cae Haidd Ucha. 

Ail-hadir 10% o'r fferm bob blwyddyn gyda rhygwellt ac mae'r holl dir pori parhaol yn llai na chwe blwydd oed;  mae hyn yn sicrhau bod tir pori yn parhau i fod yn gynhyrchiol ac yn sicrhau ansawdd a phwysau cnwd da.

Yn y cyfamser, mae 6.6ha o goetir yn lliniaru allyriadau trwy ddal a storio carbon yn y pridd, sef y broses o fachu carbon atmosfferig mewn coed a phridd.

Mae gwartheg o'r ddwy fenter bîff yn pori yn ystod yr haf pan gânt eu rhedeg ar system bori mewn cylchdro o badogau a ffensys trydan.

Cedwir stoc y tu mewn yn y gaeaf gan bod y fferm fynydd wedi'i lleoli ar ffiniau Eryri ac mae'r glawiad yno yn uchel, sef 2.7m/flwyddyn.

 

Meysydd i'w gwella

Mae’r teulu Williams yn dweud y bydd deall ble y caiff allyriadau eu cynhyrchu yn eu busnes yn caniatáu iddynt roi blaenoriaeth i welliannau.

Maent yn targedu rheolaeth tail a gwrtaith fel meysydd i'w gwella – gallai canllawiau GPS ar gyfer chwalu helpu i leihau eu mewnbynnau gwrtaith o'r lefel bresennol, sef 40kgN/ha.

Maent yn bwriadu gwella gwerth porthiant eu silwair hefyd trwy gynyddu'r lefelau egni a phrotein o'r lefel bresennol sef 11.5MJ/kg deunydd sych (DM) a 10.8g/kg protein crai (CP) ar gyfer silwair clamp a 10.0MJ/kg DM a 13.8g/kg CP ar gyfer silwair mewn byrnau.

 

BLWCH:  Ffeithiau am fferm Cae Haidd Ucha

  • Yn berchen ar 121ha
  • 5.6ha ar denantiaeth busnes fferm hirdymor
  • 32ha o gynefin ar Fynydd Hiraethog
  • Mae'r tir ar y prif ddaliad yn amrywio rhwng 800 troedfedd a 1,200 troedfedd
  • Defnyddir mwyafrif y tir ar gyfer silwair a phori, a cheir tua 32ha o dir pori garw
  • Gwerthir bustych o'r fuches sugno fel gwartheg stôr 450kg a heffrod yn 400kg
  • Caiff 120 o deirw Holstein wedi'u magu o'r fuches odro eu pesgi yn ddwys, a gwerthir y rhain i uned besgi pan fyddant yn 400kg, ac yn 16 mis ar gyfartaledd.

         Tabl 1:                         Allyriadau carbon yng Nghae Haidd Ucha

 

kg CO2/kg  ar y bachyn yn fferm Cae Haidd Ucha

Lefel y cyfle

Ffermydd cymharol yng nghronfa ddata  SRUC
 

kg CO2/kg  ar y bachyn

Eplesu enterig

18.08

Isel

21.19

Rheoli tail 

7.76

Isel

8.84

Gwrtaith

5.95

Canolig

5.12

Deunydd gorwedd a brynir 

0.22

Isel

0.73

Tanwydd

1.29

Isel

1.45

Arall

0.17

Isel

1.07

Cyfanswm yr allyriadau

33.65

Isel

40.68

Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio adnodd ar-lein newydd er mwyn helpu ffermwyr yng Nghymru i wneud newidiadau er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o'u busnesau.

Mae'r adnodd rhyngweithiol yn cynnig cyngor ynghylch camau cyraeddadwy y gall ffermwyr eu cymryd i leihau allyriadau, megis lleihau maint gwartheg o 700kg i 500kg, a chynyddu nifer y lloi a fegir 5%, o 80% i 85%.

Mae'r adnodd yn amlygu'r negeseuon cadarnhaol y mae ffermwyr yn eu gwneud i'r hinsawdd, megis gallu pridd ar ffermydd i storio symiau mawr o garbon, a rôl amaethyddiaeth wrth ddarparu cynefinoedd a dŵr yfed glân. 

https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/reducing-ghg-emissions


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu