17 Mawrth 2021

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae acwaponeg yn cyfuno strategaethau dyframaethu a hydroponeg
  • O ran egwyddor, dylai acwaponeg gynnig dull mwy cynaliadwy o gynhyrchu bwyd
  • Cyfyngedig yw’r data masnachol am acwaponeg ac mae ceisio sicrhau’r cynnyrch mwyaf posibl o system fiolegol gymhleth lle mae gan bob agwedd alwadau gwahanol yn her
  • Gallai galw cynyddol am gorgimychiaid ym marchnad y Deyrnas Unedig hwyluso mwy o ymchwil ar gynhyrchu acwaponig cynaliadwy gyda rhywogaethau dŵr croyw yn cynnig yr opsiynau lleiaf cymhleth, o gofio’n dealltwriaeth gyfredol o acwaponeg.

 

Beth yw acwaponeg?

Wrth ystyried "bwyd y dyfodol", mae llawer yn credu y bydd lleihau pellteroedd cludiant a darparu bwyd lleol mewn ardaloedd trefol yn allweddol i gynnal y cyflenwad a’r galw a gwneud hynny'n fwy cynaliadwy. Am y rheswm hwn, mae mwy o’r dull ffermio amgen sy'n isel o ran adnoddau, yn arbed lle ac yn gydnaws â’r dref, ac ymchwil iddo, wedi’u gweld.

Ffigur 1 Nifer y cyhoeddiadau yn y 10 mlynedd diwethaf o chwilio am “vertical farming” ar y We wyddonol

 

Mae’r technolegau/strategaethau sy'n gysylltiedig â hyn yn cynnwys ffermio fertigol dan do (a all gynnwys gwahanol gyfryngau twf, yn fwyaf cyffredin is-haenau, dŵr/hydroponeg neu aer) ac acwaponeg (cyfuniad o organebau dyfrol, bacteria a phlanhigion i greu system hunan-gylchu heb fawr o fewnbwn). Mae systemau o'r fath yn tueddu i weithio ar egwyddorion cydymddibyniaeth a symbiosis drwy gysylltu gwe fwyd ecolegol i roi manteision cylchu i bob rhan o'r we. Un o brif elfennau’r systemau hyn yw eu bod yn "amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig" (CEA) lle mae'r natur dan do yn caniatáu cylchoedd cynhyrchu cyson nad ydyn nhw’n dod o dan ddylanwad amodau amgylcheddol lleol a thymhorol, er bod y mewnbynnau ynni yn costio mwy yn gyffredinol. Yn y bôn, mae acwaponeg yn gyfuniad o ddyframaethu a hydroponeg, lle mae ysgarthiadau pysgod ar gael fel gwrteithiau i’w defnyddio gan y planhigion. Wedyn, mae bacteria buddiol yn helpu i droi amonia niweidiol a gwenwynig posibl yn ysgarthiadau’r pysgod yn nitradau, drwy broses nitradu, i'w defnyddio gan y planhigion ac mae dŵr di-amonia yn cael ei ailgylchu'n ôl i'r pysgod. At hynny, mewn rhai systemau sy'n seiliedig ar is-haenau, gellir ymgorffori mwydod mewn strategaeth “fermiponeg” lle mae'r rhain yn diraddio deunydd gwastraff o’r planhigion ymhellach ac yn darparu maetholion i'r planhigion ac mewn rhai systemau gellid eu defnyddio i ategu bwyd y pysgod.

 

Dyma bedair prif gydran system acwaponeg:

  1. Trawsnewidydd biomas – tanc lle mae pysgod/rhywogaethau dyfrol yn tyfu.
  2. Prosesydd gwastraff – yn cymryd dŵr ac yn hidlo gwastraff solet (ysgarthiadau pysgod ac unrhyw fwyd heb ei fwyta). Mae ~40% o'r carbon a gyflenwir yn y bwyd yn cael ei wahanu fel "llaid”.
  3. Trawsnewidydd erobig – bio-hidlydd sy'n cynnwys bacteria i ocsideiddio amonia (sy'n wenwynig) yn nitradau y gall system y planhigion eu defnyddio.
  4. Trawsnewidydd ffototroffig (biomas planhigion) – gwelyau i dyfu planhigion ynddynt. Mae'r rhain yn cymryd maetholion o'r gwastraff pysgod ac yn sefydlogi ac yn puro'r dŵr sy'n cael ei ailgylchu.

Er bod y datblygiadau cyntaf mewn acwaponeg wedi digwydd mor bell yn ôl â’r 1970au, mae allbwn diwydiannol ar raddfa fawr yn dal yn isel gyda ffigurau diweddar yn awgrymu mai dim ond 2% o'r holl ffermydd dyframaethu yn yr UD oedd yn ffermydd acwaponeg ac roedd y mentrau hyn yn fach (75% â gwerthiant llai na $25,000). Fel sector bach sy'n datblygu, mae'n anodd dod o hyd i ddata ar arbedion effeithlonrwydd ac allbynnau, ac eithrio ar ffurf modelau o’r hyn a ragwelir. Gall acwaponeg ddigwydd ar draws gwahanol raddfeydd, o lefelau hobi bach i systemau lled-fasnachol ar raddfa fach a hyd at systemau masnachol mawr. Mae amryw o systemau acwaponeg yn bodoli sy'n defnyddio gwahanol gyfuniadau o egwyddorion dyframaethu ac egwyddorion tyfu planhigion (gweler tabl 1). O fewn y gwahanol systemau hyn, un agwedd allweddol yw a yw’r systemau wedi'u cysylltu neu heb eu cysylltu, lle mae ‘wedi’u cysylltu’ yn golygu system gaeedig lle mae'r unig ffynhonnell maetholion yn y system i’w chael yn y bwyd pysgod a ‘heb eu cysylltu’ yn golygu unedau dyframaethu ac unedau hydroponig yn cael eu rheoli ar wahân lle mae’r maetholion a’r rheolaeth dros y dŵr yn cael eu hychwanegu.

 

Tabl 1. Systemau acwaponeg, y marchnadoedd a ddefnyddir, yr egwyddorion magu pysgod a’r prif egwyddorion tyfu planhigion, lle DWC = tyfu mewn dŵr dwfn ac NFT = techneg ffilm maetholion, allan o Palm et al., (2018)

System acwaponeg

Marchnadoedd

Egwyddor magu pysgod

Prif egwyddor tyfu planhigion

Acwaponeg agored

Gartref/gwerthu’n uniongyrchol

Swp

Hydroponeg ac wedi’i seilio ar is-haenau

Systemau domestig (bach/hobi/gardd gefn – cysylltiedig)

Gartref/gwerthu’n uniongyrchol

Swp

DWC, NFT, trai-llif, gwely cyfrwng

Acwaponeg arddangos (e.e. waliau byw – cysylltiedig)

Addysg, arddangos

Swp

DWC, NFT, trai-llif, gwely cyfrwng, aeroponig, fertigol

Acwaponeg fasnachol a ffermio acwaponeg

Systemau bach/lled-fasnachol (cysylltiedig neu beidio)

Manwerthu/cyfanwerthu

Swp/cyfnodol

DWC, NFT, trai-llif, diferu, aeroponig, fertigol, is-haenau/pridd

Systemau graddfa fawr (cysylltiedig neu beidio)

Cyfanwerthu

Cyfnodol

NFT â rheolaeth maetholion lawn, is-haenau/pridd

Swp = magu un boblogaeth o bysgod neu un grŵp oedran o bysgod

 

Cyfnodol = magu mwy nag un grŵp oedran o bysgod gan ddwysáu’r gwaith cynhyrchu pysgod dros y flwyddyn gyfan

     

Dywedir bod y cyfyngiadau yn natblygiad presennol systemau acwaponeg yn ymwneud i raddau helaeth â’r diffyg cost-effeithlonrwydd yn y technolegau a’r strategaethau presennol (ar hyn o bryd gall magu pysgod o dan do fod 2-3 gwaith yn ddrutach na phyllau yn yr awyr agored) a’r galluoedd technegol. Mae hyn yn cysylltu ag anawsterau o ran sicrhau cyllid busnes drwy fanciau a hefyd anhawster addasu deddfwriaeth genedlaethol i hwyluso rhwyddineb datblygiad acwaponeg. At hynny, er mwyn sicrhau'r enillion masnachol gorau, mae angen sefydlu marchnadoedd penodol lle gosodir mwy o werth ar acwaponeg a allai fod drwy gysyniadau cynhyrchu adnewyddadwy neu pa mor hawdd yw cyflenwi cynnyrch ffres (heb ei rewi). Hefyd, fel y nodir yn yr adran cyfyngiadau isod gall pathogenau lyffetheirio systemau masnachol yn ddifrifol a hyd nes bod strategaethau rheoli cadarn wedi’u datblygu mae’n debyg y bydd hyn yn peri pryder i’r sawl sy’n ystyried mabwysiadu’r dull.

 

Pam y gallai fod yn wych?

Y brif neges sy'n cael ei phortreadu mewn acwaponeg yw bod iddi, o'i chymharu â dyframaethu, lai o bryder/dim pryder o ran gwastraff (er bod gwastraff llaid bob amser yn cael ei gynhyrchu ac y dylid ystyried sut i’w reoli’n benodol, gweler isod) ac, o'i chymharu â hydroponeg, mae iddi lai o bryderon o safbwynt mewnbwn maetholion. Gan hynny, dylai hyn wneud systemau acwaponeg yn llawer mwy deniadol yn ystod ein symudiad presennol tuag at gynaliadwyedd wrth gynhyrchu bwyd.

Mae gan acwaponeg y potensial i ddefnyddio mannau trefol sydd heb eu defnyddio fel arall, a hynny ar ffurf acwaponeg ar ben to yn y dref. Mewn systemau o'r fath, mae'r cyflenwad golau yn naturiol yn hytrach nac ategol (fel mewn llawer o systemau ffermio fertigol dan do) sy’n lleihau’r gofynion ynni. Ond, nid yw manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cymharol systemau o'r fath dros hydroponeg uniongyrchol ar ben to neu ddatblygu ynni adnewyddadwy drwy baneli haul yn glir o fewn rhychwant yr astudiaeth hon. Er hynny, mewn astudiaeth LCA gymharol uniongyrchol, awgrymir bod acwaponeg yn perfformio'n well na hydroponig o ran effeithiau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd gyda bron hanner yr effeithiau mewn rhai astudiaethau (yn rhannol oherwydd gwerthoedd cynnyrch uwch ar ddiwedd y gadwyn mewn acwaponeg).

Mae acwaponeg ddeallus yn integreiddio technolegau manwl gywir i optimeiddio’r amodau a darparu rheolaeth dda o fewn system gymhleth. Gall systemau o'r fath gael amrywiaeth o synwyryddion i leihau'r angen am lafur, gan gynnwys: synwyryddion dwysedd dŵr, synwyryddion lleithder/tymheredd, synwyryddion pH a synwyryddion golau i awtomeiddio'r amodau gorau ar gyfer twf planhigion a physgod. At hynny, mae dadansoddi ymddygiad drwy dechnolegau delwedd neu symud sy'n gysylltiedig â dysgu peirianyddol eisoes wedi'u hasesu ar gyfer systemau corgimychiaid a systemau dyframaethu pysgod. Gallai monitro o'r fath helpu i wella effeithlonrwydd o ran mewnbynnau a gwastraff ynni sy'n aml yn uchel ac yn gostus mewn systemau ffermio dan do.

Gallai cysylltu gofynion ynni systemau sy'n seiliedig ar acwaponeg â ffynonellau mwy adnewyddadwy gynnig manteision tuag at ffermio cynaliadwy, ac mae sawl papur yn nodi bod cynhyrchu ynni o'r haul a'r gwynt wedi’u defnyddio, tra bod eraill yn dangos bod systemau’n ymgorffori unedau treulio anaerobig ar y fferm neu gynhyrchwyr gwres a phŵer cyfun sy'n defnyddio gwastraff y fferm neu hyd yn oed wastraff anfwytadwy o blanhigion acwaponeg a gwastraff llaid ei hun fel porthiant a allai fod yn ateb ymarferol ar gyfer acwaponeg ar raddfa lai. I raddau helaeth, mae'r gwastraff llaid hwn naill ai'n cael ei dynnu'n uniongyrchol yn y cyflenwad dŵr a gall weithredu fel halogydd neu yn cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell tail ar briddoedd.

 

Y cyfyngiadau presennol

Y cyflenwad maeth i’r pysgod yw prif sbardun system acwaponeg ac yn aml mae'n ffactor cyfyngol yn y broses ailgylchu o ran ansawdd y maetholion yn ysgarthiadau’r pysgod yn seiliedig ar y porthiant a fewnbynnir. Gellir gweld hyn am fod angen i acwaponeg fodern fasnachol-lwyddiannus reoli lefelau maetholion y planhigion yn benodol ac yn aml yn gorfod ategu'r rhain â gwrteithiau/maetholion ychwanegol sy'n ddiffygiol yn y gwastraff sy’n dod o’r pysgod. Un enghraifft glir o hyn yw sut mae diffiniad acwaponeg wedi newid yn y llenyddiaeth dros amser, o:

“lle mae'r rhan fwyaf o'r maetholion sydd eu hangen ar gyfer twf planhigion yn deillio o wastraff sy'n deillio o fwydo pysgod”

 i:

“lle mae'r rhan fwyaf (> 50%) o’r maetholion sy'n cynnal y twf planhigion gorau yn deillio o wastraff sy'n tarddu o fwydo'r organebau dyfrol”

Gall rheolaeth maeth hefyd gael ei llesteirio gan y gallu i asesu cynnwys maetholion yn gywir mewn modd byw, i asesu pa faetholion sy'n brin yn ysgarthiadau’r pysgod ac sy'n golygu bod angen ychwanegion er mwyn sicrhau’r twf mwyaf effeithlon a chynhyrchiol yn y planhigion. Mae llawer o’r technegau cyfredol ar gyfer asesu lefelau maetholion o'r fath yn gofyn am echdynnu samplau ac ychwanegu adweithyddion. Ond, er mwyn sicrhau cywirdeb gwirioneddol, gall canfod electrocemegol dargludol fod yn bosibilrwydd dadansoddi byw y gellir ei wella drwy addasu â nanoddefnyddiau modern. Ochr yn ochr â hyn, efallai y bydd gan y datblygiadau diweddar mewn synwyryddion ffeibr optegol rôl bosibl o ran gwella cywirdeb rheolaeth maetholion yn y dyfodol. Nodwyd lefelau maeth fel cyfyngiad (yn enwedig ffosfforws mewn planhigion) mewn astudiaethau diweddar sy’n dweud y byddai datgysylltu dyframaethu a hydroponeg oddi wrth gylch acwaponeg integredig yn fwy effeithlon o ran cyflawni'r lefelau cynhyrchu uchaf ym mhob sector ar wahân.

I roi’r amodau cywir ar gyfer cnydau a physgod, mae angen rheoli'r amgylchedd. Mewn ardaloedd tymherus, mae hyn yn golygu tyfu mewn tai gwydr er mwyn lleihau'r gofynion ynni wrth gynnal tymheredd uwch er mwyn i’r planhigion a’r pysgod dyfu’n well gydol y flwyddyn. Mae papurau wedi nodi bod rhanbarthau â hinsawdd sefydlog fel Ynysoedd Virgin yn y Caribî neu’r Ynysoedd Dedwydd yn caniatáu llai o fewnbwn ynni am fod y planhigion yn gallu cael eu tyfu yn yr awyr agored mewn golau haul uniongyrchol tra bod y pysgod yn cael eu cysgodi i gynnal y tymheredd gorau posibl. Mewn rhanbarthau sy'n newid rhwng hinsawdd boeth ac oer, mae'n debygol y bydd angen mwy o ynni yn ystod misoedd yr haf i oeri tai gwydr ac yna eto mewn misoedd oerach i’w cynhesu, felly mae hyn yn ystyriaeth bwysig (gweler tabl 2). Er hynny, mae technolegau'n bodoli a allai helpu i hwyluso hyn mewn modd mwy amgylcheddol (gan gynnwys gwresogi solar a chyfnewidyddion gwres). Mae trosolwg o nifer o LCAs yn awgrymu bod rhyw 81% o'r ynni a ddefnyddir mewn systemau acwaponeg yn cael ei ddefnyddio i bwmpio dŵr ac i oleuo tra bod 19% yn cael ei ddefnyddio i gynhesu dŵr ac aer.

Mae plâu pysgod a phlanhigion bob amser yn anhawster, ynghyd ag unrhyw beth a allai beri gofid i gydbwysedd y meicrobau buddiol a ymgorfforir. Mewn systemau llai, gall y rhain fod yn llai o risg gan fod y colledion a achosir a'r gwaith i ailosod stociau bach er mwyn tynnu'r halogyn/pla yn llai llafurus a drud. Ond, mewn systemau mwy, gallai hyn olygu bod angen rheoli tramwy ac offer amddiffynnol personol yr holl staff dan sylw yn ofalus er mwyn atal colledion trychinebus yn sgil plâu/clefydau. At hynny, gallai rhai triniaethau cemegol a allai gael gwared ar blâu planhigion fod yn wenwynig i bysgod ac felly i raddau helaeth mae'n well cael rheolaethau integredig i reoli plâu. Er hynny, mae’r ddeddfwriaeth bresennol (ar wahân i'r Unol Daleithiau) yn atal planhigion sy'n cael eu tyfu drwy hydroponeg (fel sy'n wir am y rhan fwyaf o systemau acwaponeg) rhag bod yn gymwys ar gyfer ardystiad organig (sy’n dileu ffynhonnell bosibl ar gyfer refeniw gwell) er gwaethaf y ffaith y gall systemau yn aml yn defnyddio llai byth o gemegolion na systemau organig heb greu fawr ddim effaith amgylcheddol os cân nhw eu rhedeg yn gywir.

 

Tabl 2. Potensial Cynhesu Byd-eang (GWP) 1kg o gynnyrch a dyfir drwy CEA ar draws rhanbarthau Chen et al., (2020)

Y system gynhyrchu

Y cynnyrch

Y rhanbarth a’r tymheredd blynyddol (isaf/uchaf ºC; wedi’i addasu ar sail Weather Spark)

GWP

(cyfartal a kg CO2)

Cyfeiriad

Acwaponeg

Tilapia a chwe rhywogaeth o lysiau

Indiana, UDA; −2/14 (Mawrth)

104

Astudiaeth gyfredol

Hydroponeg

Saith rhywogaeth o lysiau

Indiana, UDA; −2/14 (Mawrth)

152

Astudiaeth gyfredol

Acwaponeg fasnachol

Tilapia, basil

Ynysodd Virgin UDA; 22/31

8.64

(Boxman et al., 2017)

Systemau dyframaethu cylchynol

Brithyllod

Toulouse, Ffrainc; 2/28

2.0

(d’Orbcastel et al., 2009)

Hydroponeg

Tomatos

Ardal y Môr Canoldir (gwanwyn i haf)*

0.0814

(Antón et al., 2005)

Hydroponeg

Tomatos

Columbia; 9/22

0.074

(Bojacá et al., 2014)

Hydroponeg

Tomatos

Sweden neu wledydd gerllaw; −3/21

3.3

(Carlsson-Kanyama, 1998)

Hydroponeg

Tomatos

Yr Eidal; 7/29

0.74

(Cellura et al., 2012)

Hydroponeg

Rhosod

Yr Iseldiroedd; 1/22

80

(Torrellas et al., 2012)

Hydroponeg

Tomatos

Gogledd Ewrop*

9.4

(Williams et al., 2006)

*Rhanbarth ac iddo sawl wlad, felly does dim amrediad tymheredd wedi’i roi

 

Cymharol brin yw’r astudiaethau sydd wedi edrych ar acwaponeg o ran enillion ar y buddsoddiad (ROI). Pan fo ymdrech wedi’i gwneud i’w hasesu, mae'r  ffigurau'n dangos bod angen rhwng chwech ac wyth mlynedd cyn i enillion gael eu gweld ac mewn llawer o achosion, dim ond os bydd defnyddwyr hefyd yn arallgyfeirio i werthu cydrannau system a ddefnyddiwyd (pympiau acwaponeg, tanciau etc) a gwerthu eu gwybodaeth fel ymgynghorwyr/cynghorwyr acwaponeg, y cyflawnir y canlyniadau economaidd gorau. Mae anawsterau'n codi hefyd o ran rhyddid gwybodaeth wrth asesu economeg acwaponeg. Yn aml, mae cwmnïau masnachol sy'n llwyddo yn diogelu eu data i gynnal eu safle blaenllaw neu’n ei bortreadu yn y golau gorau er mwyn hwyluso gwerthu eu cynnyrch neu eu gwasanaethau. Mae'r rhai sy'n methu yn enghraifft o ddata negyddol tebygol ac yn tueddu i beidio â dymuno rhannu eu methiannau.

 

Corgimychiaid ac acwaponeg

Mae’r corgimwch afon mawr Macrobrachium rosenbergii (er ei fod yn perthyn yn nes i’r cimwch) yn rhywogaeth sy’n destun llawer o ddiddordeb ac ymchwil oherwydd ei werthoedd maethol uchel, ei flas a’r galw amdano ar y farchnad, ac mae’n cael ei chynhyrchu mewn dros 35 o wledydd ledled y byd. Fel arfer caiff corgimychiaid afon eu mewnforio wedi'u rhewi am fod eu twf yn y Deyrnas Unedig yn gyfyngedig, ac am fod gwerth mewnforion ffres yn uwch. Ar y cyd â ffigurau sy'n dangos galw cynyddol am berdys a chorgimychiaid ymysg poblogaeth y Deyrnas Unedig, gyda gwerth manwerthu o £528.5 miliwn, mae'n glir pam y gallai hyn fod yn faes o ddiddordeb. Fel y dywedwyd uchod, gan fod cynaliadwyedd yn allweddol ar agenda tyfwyr bwyd, gwelwyd bod ystyriaeth eisoes yn cael ei rhoi i acwaponeg a chynhyrchu corgimychiaid afon. Fel gyda phob system, rhaid gwneud asesiadau ynghylch yr amodau twf gorau posibl ac mae astudiaethau diweddar wedi edrych ar lefelau maetholion, dwysedd stocio a lefelau hidlo. Mae cyfoeth o ddata dyframaethu penodol blaenorol ar gael hefyd y gellid ei ddefnyddio'n uniongyrchol. Mae un grŵp o ffigurau’n awgrymu cyfanswm cynnyrch o 5250–7500 kg/ha ar gyfer corgimychiaid afon mewn systemau dyframaethu tŷ gwydr wedi'u gwresogi gyda phris gwerthu o ≥$15 y kg. O'i gymharu, gwelwyd bod Tilapia Nil, sef un o'r pysgod mwyaf cyffredin mewn dyframaeth ac acwaponeg, yn cynhyrchu ~10,000 kg/ha mewn dyframaethu dwys a phrisiau gwerthu o $2-4 y kg, sy'n awgrymu'r potensial ar gyfer hyd at dair gwaith yn fwy na’r elw ar gyfer systemau corgimychiaid afon. Mae astudiaethau blaenorol hefyd wedi asesu cyd-gynhyrchu pysgod a chorgimychiaid, gan awgrymu y gall hyn wneud y gorau o gynhyrchu'r ddwy rywogaeth ac y gallai fod yn ystyriaeth ar gyfer acwaponeg yn y dyfodol. Er hynny, mae gan gorgimychiaid dŵr croyw ymddygiad a dulliau cynnal-a-chadw mwy cymhleth gan eu bod yn bwrw eu croen, ac yn ystod y cyfnod hwnnw’n bwyta llai neu'n rhoi'r gorau i fwyta (ac felly dylid atal bwydo er mwyn atal gwastraff yn ystod y cyfnodau hyn), nid ydynt yn goddef gwres isel, gallant hefyd fod yn ymosodol iawn gan fwyta’i gilydd ac felly dylid ystyried dwysedd stocio i leihau hyn ac mae’r ystyriaethau storio/cynaeafu hefyd yn fwy cymhleth na chorgimychiaid eraill er mwyn osgoi gostwng ansawdd y cig.

 

Er bod rhywogaethau eraill o gorgimychiaid yn cael eu hystyried, dim ond drwy ddarparu amgylchedd halwynog y gellir tyfu’r rhain mewn dyframaeth, sy'n ychwanegu lefel ychwanegol o gymhlethdod at systemau dyframaethu gysylltiedig, oherwydd yr angen am gnydau halwynog neu gnydau sy’n goddef halen o werth economaidd mawr. Ceir tystiolaeth o systemau o'r fath gyda phlanhigion haloffit (sy'n gallu goddef halen) sy'n dod yn ddymunol mewn bwyd i bobl a phorthiant anifeiliaid (gallai gwymon gael ei dyfu, er nad yw'n haloffit gan mai meicroalgâu yw’r rheini, ychwanegyn sy’n lleihau methan i dda byw ). Ond, mae'r rhain yng nghamau cynnar eu datblygiad. Ochr yn ochr â hyn, byddai ceisio defnyddio system heb ei chysylltu gyda chynhyrchion morol yn arwain at ofynion ynni ychwanegol wrth wahanu’r maetholion oddi wrth yr amgylchedd dŵr halwynog cyn ei ddefnyddio ar blanhigion (sydd wedyn yn creu mwy o fewnbwn dŵr a gwastraff o’i gymharu â systemau acwaponeg dŵr croyw).

 

Crynodeb

O ran egwyddor, mae'n ymddangos bod acwaponeg yn ffordd hunangynhaliol gynaliadwy iawn o gynhyrchu bwyd ag effeithiau amgylcheddol is na'r dulliau presennol. Ond, o ran cysyniad, mae wedi bod yn cylchredeg ers bron 50 mlynedd ac mae'n dal yn ddiffygiol yn y lefelau mireinio sydd eu hangen i'w gwneud mor ddeniadol â thechnegau cynhyrchu bwyd cyfredol. Er ei bod yn ddigon posibl y bydd gan y systemau gorau y potensial i gynhyrchu lefelau sylweddol o fwyd mewn ffordd fuddiol, mae'r dystiolaeth o lwyddiant gweithgynhyrchu ar raddfa fawr yn gyfyngedig, gyda'r rhan fwyaf o ddata am systemau yn gysylltiedig â mentrau llai. Mae sawl papur yn nodi'r lefelau uchel o wybodaeth benodol sydd eu hangen i redeg systemau acwaponig yn dda (gan fod arnoch angen gwybodaeth yn y bôn am ddyframaethu, hydroponeg a meicrobioleg a manylion yr holl ryngweithiadau rhwng y systemau hyn), ac felly mae hyn yn cyfyngu ar hwylustod mabwysiadu systemau o'r fath ymysg unigolion brwd. Er hynny, gallai datblygu pecynnau system awtomeiddio acwaponeg deallus helpu i leddfu rhai o'r pryderon hyn sy'n gysylltiedig â gwybodaeth, ond dim ond camau cynnar y datblygiad y mae'r rhain wedi’u cyrraedd ar hyn o bryd. Un man lle mae hi'n ymddangos bod gan acwaponeg fanteision gwirioneddol yw lle mae’r angen am ynni atodol ar gyfer gwresogi (dŵr/aer) a goleuadau (planhigion) yn llai neu lle nad oes mo’i angen. At hynny, nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn gyfredol ar gyfer byd sy'n defnyddio acwaponeg, oherwydd er gwaethaf ei allbwn hynod fuddiol i'r amgylchedd (os caiff ei rhedeg yn dda) mae wedi'i gwahardd rhag manteisio ar y prisiau uwch a geir drwy labeli organig a hynny am nad yw'n golygu tyfu planhigion mewn is-haenau pridd. O ran corgimychiaid fel elfen benodol mewn acwaponeg, fe allai'r rhain fod â photensial fel mannau a allai tyfu’n fawr yn y farchnad ac o ran y galw ymysg y defnyddwyr yn yr hinsawdd sydd ohoni. Ond, er bod amodau dyframaethu wedi'u hen sefydlu ar draws rhywogaethau morol a dŵr croyw, dim ond yn ddiweddar y mae eu hymwneud uniongyrchol ag acwaponeg wedi cael ei asesu. Gan hynny, gallai optimeiddio systemau o'r fath gymryd amser cyn i'r rhain ddod yn rhywogaeth gynhyrchu mwy hyfyw mewn acwaponeg.

 

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr