11 Tachwedd 2021
Ysgrifennwyd gan Rhys Williams, Precision Grazing Ltd
Mae'r gwaith paratoi ar gyfer y gwanwyn yn mynd rhagddo ers tro ar lawer o ffermydd glaswelltir yng Nghymru. Mae prisiau dwysfwyd a phorthiant yn codi, sy’n golygu y bydd sicrhau cyflenwad da o laswellt yn gynnar yn y gwanwyn yn cael mwy o effaith nag erioed ar reoli costau a gwella elw net pob fferm laswelltir.
Mae sawl budd o ddechrau’r tymor pori gyda gorchudd fferm cyfartalog iach. Mae'r manteision hyn yn cynnwys:
- Mynediad i borthiant o ansawdd uchel iawn (ME>11 a Protein>20) ar adeg o'r flwyddyn pan fo gofynion da byw ar eu huchaf, sydd o bosibl yn dileu'r angen am borthiant wedi’i brynu.
- Gwneud y mwyaf o’r egwyddor 'glaswellt yn tyfu glaswellt', sy'n golygu mai’r mwyaf o arwynebedd dail sydd ar gael i ddal goleuni’r haul yn y gwanwyn, y mwyaf y bydd yn tyfu; mae hyn yn lleihau'r angen am fewnbwn gwrtaith.
- Mae’r glaswellt a arbedwyd dros y gaeaf yn sbarduno’r tymor tyfu i gychwyn yn gynnar yn y gwanwyn – sydd eto'n lleihau’r angen i ddefnyddio gwrtaith.
- Mae mynediad i laswellt yn gynnar yn y gwanwyn hefyd yn rhoi cyfle i droi stoc ar borfa yn gynnar. Byddai hyn yn lleihau costau cadw dan do a chostau eraill sy'n gysylltiedig â'r gaeaf, ac yn helpu da byw sy’n cael eu cadw dan do i symud ar borfa yn gynnar.
Y cylchdro olaf
Dylai'r gwaith cynllunio ar gyfer y gwanwyn ar ffermydd bîff a defaid ddechrau ddiwedd yr haf. Dylid adeiladu gorchuddion glaswellt i baratoi ar gyfer y cylchdro olaf; dyma gyfnod pori olaf y flwyddyn, a fydd yn sefydlu'r tymor pori canlynol. Dylid cynllunio'r cylchdro olaf mewn ffordd sy'n caniatáu cyfnod gorffwys digonol yn y gaeaf, gan wneud yn siŵr bod y borfa’n cael ei bori’n dda ac nad oes unrhyw ddeunydd marw ar ôl er mwyn sicrhau y bydd y glaswellt sy'n bresennol yn y gwanwyn yn ddeiliog ac o ansawdd uchel.
Mae amseru'r cylchdro olaf yn cael ei bennu gan gyfnod gorffwys y gaeaf ar y fferm. Mae hyn yn dibynnu'n bennaf ar hinsawdd y fferm, ffrwythlondeb pridd a chyfansoddiad y borfa. Ar gyfartaledd, dylai ffermwyr yng Nghymru anelu at gyfnod gorffwys o 120 diwrnod; mae hyn yn golygu bod angen i’r caeau sy’n cael eu pori ddechrau mis Tachwedd orffwys tan ddechrau mis Mawrth.
Dylai da byw gael eu gosod i’r nifer lleiaf o grwpiau y mae’r system yn ei ganiatáu a dylid eu cylchdroi o amgylch y fferm. Bydd caeau’r cylchdro olaf yn cael eu pori yn yr un drefn ag y byddant yn cael eu pori yn y cylchdro agoriadol yn y gwanwyn. Mae hyn yn golygu na fyddai caeau sy'n cael eu pori ar ddiwedd y cylchdro olaf ym mis Rhagfyr yn cael eu pori tan fis Ebrill.
Caiff pori da a glân ei gyflawni orau drwy sicrhau cyfnodau pori byr a phori ‘ar amser’. Ni ddylai’r cyfnod y mae da byw yn pori ardal yn ystod y cylchdro olaf fod yn fwy na phedwar diwrnod. Po fyrrach yw'r cyfnod pori, glanach yw’r pori ac uchaf yw'r defnydd.
Mae gan ffermwyr sawl opsiwn i ddarparu’r cyfnod gorffwys dros y gaeaf, sy'n cynnwys cnydau porthiant, eu cadw dan do, ardaloedd aberthu a phori oddi ar y fferm – pob un â'u manteision a'u hanfanteision. Bydd angen i bob ffermwr benderfynu pa opsiwn sy'n gweddu orau i'w fferm a'u system.
Mae gwella'r defnydd a wneir o laswellt yn flaenoriaeth yn fferm ddefaid arddangos Cyswllt Ffermio, Pendre, Llanfihangel-y-Creuddyn, ger Aberystwyth. Mae'r ffermwr Tom Evans wedi gweld enillion sylweddol o weithredu system bori gylchdro ar ei floc 19ha. Mae Tom yn gweithio'n agos gyda Precision Grazing Ltd, ac mae ganddo gynlluniau ar waith i sefydlu tymor llwyddiannus arall o dyfu glaswellt.
Mae gwerthu'r rhan fwyaf o’r ŵyn tew a throsglwyddo rhai mamogiaid i floc arall yn golygu bod gan fferm Pendre 190 o famogiaid yr iseldir, a 90 o ŵyn pesgi ar y fferm ddechrau mis Tachwedd. Bydd yr holl ŵyn pesgi wedi gadael yr ardal bori cyn diwedd mis Tachwedd. Byddant naill ai’n cael eu hanfon i’r lladd-dy neu yn cael eu hanfon i rywle arall i gael eu pesgi, gan adael dim ond y mamogiaid yn pori yn ystod mis Rhagfyr.
Mae ŵyna'n dechrau dan do yn fferm Pendre ganol mis Chwefror. Felly, mae’r mamogiaid bellach yng nghyfnodau cynnar beichiogrwydd. Mae mamogiaid yn fferm Pendre yn pwyso 70kg ar gyfartaledd, ac felly ar 2% o bwysau'r corff. Eu gofynion dyddiol yw 1.4kg DM/y dydd o laswellt, a chyfanswm galw’r grŵp yw 266kg DM/y dydd.
Mae Tom yn mesur ei laswellt yn fferm Pendre yn rheolaidd fel rhan o Brosiect Porfa Cymru Cyswllt Ffermio. Gorchudd cyfartalog y fferm ar ddechrau mis Tachwedd ar y bloc 19ha oedd 1950kg DM/ha. Mae'r ardal ar gyfer y cylchdro olaf yn cael ei leihau i 16ha, gan fod 2ha yn cael ei ddyrannu i'r ŵyn pesgi tan ddiwedd mis Tachwedd; mae 2ha arall eisoes wedi cael ei gau i droi’r mamogiaid ac ŵyn arno ganol mis Chwefror ar ôl ŵyna.
Ar gyfer pori glân a da, argymhellir bod porfeydd yn cael eu pori i lawr i weddillion o 1400kg DM/ha ar y cylchdro olaf. Amcangyfrifir mai 80% o’r borfa sydd ar gael sy’n cael ei defnyddio (mae hyn yn amrywio gyda'r tir a'r tywydd). O ystyried y wybodaeth uchod, a gorchudd fferm cyfartalog o 1950kg DM/ha, mae 7200kg DM o borfa ar gael – sydd, wedi'i rannu â galw’r grŵp, yn cyfateb i 27 diwrnod o borthiant.
Bydd mamogiaid ac ŵyn newydd-anedig sy’n cael eu troi allan ganol mis Chwefror yn cael tair wythnos i setlo a chryfhau cyn cael eu gosod mewn grwpiau yn barod ar gyfer y cylchdro agoriadol ym mis Mawrth. Mae'r hinsawdd, ffrwythlondeb pridd a chyfansoddiad y borfa yn fferm Pendre yn caniatáu i’r glaswellt dyfu rhywfaint yn ystod y gaeaf; felly, gellir gostwng cyfnod gorffwys y gaeaf yn fferm Pendre i 110 diwrnod. Er mwyn darparu digon o gyfnod gorffwys tan ddechrau mis Mawrth, felly dylai'r cylchdro olaf ddechrau ar 10 Tachwedd. O ystyried y 27 diwrnod o borthiant sydd ar gael, bydd angen i'r mamogiaid ddod oddi ar y llwyfan pori yn ystod ail wythnos mis Rhagfyr. Mae gan fferm Pendre gyfleusterau cadw defaid rhagorol; o ganlyniad, mae’n well gan Tom gadw’r mamogiaid dan do tan ddechrau'r tymor pori, a bwydo silwair ar lefel cynhaliaeth; bydd dwysfwyd yn cael ei gyflwyno i’r mamogiaid sy'n cario mwy nag un oen ar drothwy’r cyfnod ŵyna.
Mae'r map isod yn dangos sut mae Tom wedi isrannu Pendre er mwyn rhoi’r system pori cylchdro ar waith. Mae'r 15ha sydd ar gael ar gyfer y cylchdro olaf wedi'i isrannu'n 17 o ardaloedd pori a fydd yn darparu'r grŵp o 190 o famogiaid gydag ychydig dros ddiwrnod a hanner o bori ym mhob ardal ar gyfartaledd.
Ffigwr 1: Map o Fferm Pendre, yn dangos y cylchdro pori
Neges Allweddol: Mae wedi bod yn flwyddyn ardderchog o ran prisiau cynnyrch cig eidion a chig oen, sydd wedi lleihau effaith costau ar broffidioldeb. Fodd bynnag, gall y farchnad gref arwain at ymdeimlad ffug o ddiogelwch. Mae pris y cynnyrch allan o reolaeth y ffermwyr i raddau helaeth, a gall ddisgyn cyn gynted ag y mae wedi codi. Mae'r costau hefyd wedi codi, ac maent yn llai tebygol o ostwng na phris cynnyrch y fferm. Dylid cymryd camau i reoli costau'n well; dylai gwella’r defnydd o laswellt fod yn rhan o'r broses.