Berea, Tŷ Ddewi

Prosiect Safle Ffocws: Archwilio Technegau i Greu Compost Rhagweladwy

Nodau'r prosiect: 

  • Mae’r prosiect yn anelu at ddatblygu system sy’n compostio’n sydyn i ddarparu maeth ar gyfer llysiau, yn seiliedig ar dail a gynhyrchir ar y fferm.
  • Cynhyrchu tail cynaliadwy a rhagweladwy wedi’i gompostio mor sydyn a mor effeithlon â phosib gan annog y perfformiad gorau posib o adnoddau’r fferm.
  • Bydd lefelau N, P, K, Mg a pH rhagweladwy o fantais enfawr i fwydo manwl gywir ar gyfer cynhyrchiant llysiau lled-ddwys gan gynnwys cnydau wedi'u diogelu a'u tyfu yn y pridd yng Nghaerhys.
  • Bydd tail seiliedig ar wellt o'r siediau lle y cedwir y fuches sugno yn cael ei bentyrru dan darpolin a’i droi pan fo’r tymheredd mewnol yn cyrraedd 60 gradd C. Pan fo’r pentwr yn cyrraedd tymheredd dan 30 gradd C yn gyson am 10 diwrnod, gellir ystyried bod y broses gompostio a diraddio wedi’i gyflawni, ac ni fydd angen troi mwyach. Wedi 14 diwrnod ychwanegol er mwyn caniatáu’r cyfnodau trawsnewid ac aeddfedu, bydd y compost yn cael ei samplu i ganfod y cynnwys o ran maeth.
  • Bydd astudiaeth waelodlin o'r Rhaglen Rheoli Maeth yn dangos yr arfer gorau o ran paru gofynion y pridd er mwyn ategu at dyfu gwahanol gnydau llysiau ac yn cynorthwyo i ganfod cyfraddau gwasgaru compost priodol. 

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Cefnllan
Neil Davies Cefnllan, Llangamarch, Powys Meysydd allweddol yr
Pendre
Tom a Beth Evans Pendre, Llanfihangel-y-Creuddyn, Aberystwyth
Moor Farm
Andrew Rees Moor Farm, Castell Gwalchmai, Hwlffordd Prif Amcanion