Tudweiliog, Pwllheli, Gwynedd

Prosiect Safle Ffocws: Budd a chost semen â’i ryw wedi’i bennu ar fuches sy’n lloia mewn bloc yn y gwanwyn

Nod y prosiect: 

Mae’r defnydd o semen â’i ryw wedi’i bennu mewn buchesi sy’n lloia yn ystod y gwanwyn ac yn cael eu cadw mewn systemau seiliedig ar borfa wedi bod yn gyfyngedig (neu heb ei ddefnyddio o gwbl) ers ei lansio ym 1995. Mae hyn yn rhannol oherwydd yr angen i ganolbwyntio ar sicrhau’r nifer delfrydol o ddiwrnodau hyd at ddod yn gyflo a chyflawni cyfnod lloia tynnach sy’n para 6-8 wythnos, sy’n allweddol yn achos system pori cylchdro. Felly, mae canfyddiad cyffredin o gyfraddau beichiogi is wrth ddefnyddio semen â’i ryw wedi’i bennu yn golygu bod y defnydd ohono wedi bod yn gymharol isel mewn systemau y mae llawer o’u dangosyddion perfformiad allweddol yn ymwneud â ffrwythlondeb. Bydd yr astudiaeth o gost a budd hwn yn ymchwilio i rôl bosibl semen â’i ryw wedi’i bennu o fewn system sy’n cadw buches sy’n lloia yn y gwanwyn ar borfa.

 

Beth fydd yn digwydd:

Bydd y safle ffocws, Cefnamlwch, yn paru 80 o heffrod gwasod wedi’u rhannu yn ddau griw. Caiff 40 eu paru â tharw Jersey confensiynol $BW uchel (neu darw croesfrid) a chaiff y 40 arall eu paru â semen tarw Jersey y mae ei ryw wedi’i bennu (neu semen tarw croesfrid y mae ei ryw wedi’i bennu). Caiff grwpiau eu dewis ar hap i alluogi’r math o semen i gael ei ddosbarthu’n deg fel y byddai’n digwydd yn unol â phrotocolau semen arferol.

Caiff pob un o’r 80 heffer a gaiff darw potel eu cydamseru hefyd i sicrhau bod y broses o ganfod heffrod sy’n gofyn tarw a’u semenu yn haws, a bydd gweithiwr tarw potel proffesiynol amser llawn yn gyfrifol am y gwaith semenu, a bydd yn ymweld â’r fferm yn ddyddiol. Ar ôl i’r cyfnod paru ddod i ben, caiff tîm o deirw eu troi at yr heffrod i sicrhau y bydd unrhyw heffrod na fydd yn dod yn gyflo y tro cyntaf yn cael cyfle i feichiogi cyn gynted ag y bo modd.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Cefnllan
Neil Davies Cefnllan, Llangamarch, Powys Meysydd allweddol yr
Pendre
Tom a Beth Evans Pendre, Llanfihangel-y-Creuddyn, Aberystwyth
Moor Farm
Andrew Rees Moor Farm, Castell Gwalchmai, Hwlffordd Prif Amcanion