Rhos y Madoc, RHIWabon

Prosiect Safle Ffocws: Mesurau Ataliol i Wella Iechyd Lloi

Nodau'r prosiect: 

  • Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio at atal clefydau mewn lloi a stoc ifan, gan edrych ar arfer dda a dulliau rheoli er mwyn lleihau clefydau resbiradol.
  • Bydd y prosiect yn anelu at adnabod arwyddion cynnal clefydau resbiradol mewn lloi ifanc, gan alluogi’r ffermwr i atal yr achos rhag datblygu’n glefyd a all beryglu bywyd.
  • Bydd y broses magu lloi a’r adeiladau presennol yn cael eu dadansoddi a bydd cynllun yn cael ei drafod er mwyn cynyddu iechyd a chynhyrchiant y lloi. Bydd cynlluniau i ehangu ac adeiladu uned fagu lloi newydd yn cael ei ddylunio gan ystyried dŵr, draeniad, drafft a rheoli gwynt i greu cyfleusterau iach ac effeithlon i fagu lloi.
  • Bydd tagiau canfod haint yn cael eu defnyddio fel dull rheoli i leihau clefydau. Bydd pob llo benyw newydd anedig yn cael tag canfod haint, a fydd yn cofnodi gwres yr anifail bob 15 munud. Bydd unrhyw gynnydd mewn tymheredd yn seinio larwm, gan alluogi canfyddiad ac ymyrraeth gynnar i unrhyw broblem iechyd.
  • Bydd lloi’n cael eu pwyso bob mis er mwyn cymharu sut all gwelliant mewn amgylchedd a rheolaeth effeithio ar dwf a pherfformiad.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Dolygarn
James Powell Dolygarn, Llanbadarn Fynydd, Llandrindod Wells
Bryn
Huw a Meinir Jones Bryn, Ferwig, Aberteifi Meysydd allweddol yr
Marian Mawr
Aled Morris Marian Mawr, Dyserth, Rhyl Prif Amcanion Gwella