Dangos dealltwriaeth o sgiliau trin a chydnabyddiaeth gyffredinol er mwyn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i’r dysgwr ar sut i reoli darpariaeth cymorth cyntaf mewn amgylchedd ffermio.
Mae’r cwrs yn ymdrin â’r canlynol:
- Nodau, swyddi a chyfrifoldebau’r swyddog cymorth cyntaf
- Asesu a rheoli digwyddiadau.
- Gallu cynnal arolwg eilaidd.
- Darparu cymorth i glaf anymatebol sy’n anadlu’n normal.
- Darparu cymorth i glaf anymatebol sydd ddim yn anadlu’n normal.
- Rhoi cymorth cyntaf i glaf sydd wedi torri esgyrn, ac sydd wedi anafu ei gyhyrau a’i gymalau.
- Darparu cymorth i glaf sydd wedi llosgi.
- Darparu cymorth i glaf sydd mewn sioc.
- Darparu cymorth i glaf sydd wedi brifo ac sy’n gwaedu.
- Darparu cymorth i glaf sy’n dioddef o wres neu oerni eithafol.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: