Dyma gwrs hyfforddi achrededig undydd gydag asesiad ar y diwedd. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Cwrs hanfodol os ydych chi'n gweithio gyda bwyd a diod. Hefyd, bydd angen i chi wneud cwrs hyfforddi hwn os ydych chi'n cynhyrchu ac yn trin wyau i'w gwerthu. Bydd y cwrs yn gymorth i chi ddeall y termau cyffredin ym maes hylendid bwyd. Deall effaith afiechydon sy'n cael eu cario mewn bwyd. Gwybodaeth am gyfraith a deddfwriaeth bwyd. Gwybod sut mae modd atal a rheoli halogiad. Deall sut i storio a chadw bwyd. Gwybod am bwysigrwydd hylendid personol. Deall sut i gadw safleoedd ac offer yn lân. Deall egwyddorion HACCP.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall Dysgu Bro Ceredigion gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.