Noder: bydd hyd y cwrs yn amrywio rhwng 1 - 3 diwrnod gan ddibynnu ar y Darparwr. Rhoddir tystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Cyfle i ddarparu’r cynnyrch neu’r gwasanaethau mae eich cwsmeriaid yn chwilio amdanynt drwy fynychu ein cwrs Marchnata eich Busnes. Bydd y cwrs hwn yn eich cynorthwyo i ddeall marchnata, bodloni gofynion eich cwsmeriaid a gwneud eich busnes yn llawer mwy effeithiol a phroffidiol. Bydd y cwrs yn trafod sgiliau marchnata sylfaenol ac yn eich helpu i gynllunio ymgyrch. Byddwch yn trafod y meysydd canlynol: beth yw marchnata, anghenion y cwsmer, dadansoddiad SWOT, y 4 P, proffilio cwsmeriaid, lleoli eich hun ar y farchnad, brandio a chyflwyno dulliau marchnata arloesol.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall Agriconnectors, Really Pro Ltd a Simply the Best Training Ltd gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.