Mae’r clafr, sy’n cael ei achosi gan y gwiddonyn Psoroptes ovis, yn arwain at golledion economaidd mawr yn niadell y DU ac mae’n effeithio ar les defaid. Dechreuodd ymdrechion i reoli’r clefyd drwy ddeddfwriaeth ar ddiwedd y 1800au, gyda thriniaeth yn orfodol o 1928. Erbyn 1992, cafodd rheolaeth o’r clefyd ei ddadreoleiddio yn sgil y methiant i’w ddileu.
Yng Nghymru a Lloegr, mae’n ofyniad cyfreithiol o hyd i drin y ddiadell gyfan yn ogystal ag anifeiliaid heintus.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]