SFS

Mae tirwedd amaethyddol Cymru yn cael ei thrawsnewid yn sylweddol gyda chyflwyniad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd. Wrth i chi fel ffermwyr lywio'r daith hollbwysig hon tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a gwydn, mae cael y cymorth a'r arweiniad cywir yn bwysicach nag erioed.

Trwy ystod o wasanaethau a restrir isod, gall Cyswllt Ffermio gynnig cymorth gyda phob un o'r 12 gweithred gyffredinol - gan gynnwys cyngor un-i-un, cymorth busnes, hyfforddiant sgiliau a digwyddiadau rhwydweithio i'ch cynorthwyo i baratoi eich busnes ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Boed yn datblygu cynllun iechyd y pridd, gwella lles anifeiliaid, neu nodi ffyrdd newydd o gynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant, mae Cyswllt Ffermio yn eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus sydd o fudd i'ch fferm, eich cyllid a'r amgylchedd.

Ymunwch â ni ar y daith hon tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy i amaethyddiaeth Cymru. Archwiliwch sut y gall Cyswllt Ffermio eich cynorthwyo i gyflawni nodau'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a sicrhau hyfywedd hirdymor eich fferm.

Bydd gweithgareddau Cyswllt Ffermio fel hyfforddiant, gweithdai, dosbarthiadau meistr a chwblhau e-ddysgu yn cael eu cadw'n awtomatig i gyfrif Storfa Sgiliau unigolyn, ynghyd ag unrhyw dystysgrifau perthnasol. Mae hyn yn gwasanaethu fel cofnod o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP), y gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth ar gyfer Gweithredoedd Cyffredinol perthnasol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae ar gael i bob cleient sydd wedi darparu cyfeiriad e-bost unigryw wrth gofrestru.