Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - Cardiff Monitor Farm Arable Business Group
Mae'r adroddiad canlynol wedi ei ysgrifennu gan y ffermwyr a'r coedwigwyr a gymerodd ran yn yr ymweliadau. Eu barn hwy eu hunain yn unig sydd wedi'i gynnwys.
Cardiff Monitor Farm Arable Business Group
Aberdeenshire
28th-30th Mehefin 2016
1 Cefndir
Mae’r Grŵp Busnes Tir Âr hwn a sefydlwyd yn 2014 yn canolbwyntio o amgylch Fferm Monitro Caerdydd, Penmark Place Farm (Julian Radcliffe). Mae pawb a fynychodd y daith astudio yn gyfranogwyr gweithredol yng ngweithgaredd meincnodi’r grŵp.
A yw cylchdroi sefydlu cnwd drwy ddefnyddio, er enghraifft, technoleg draws slot mewn ardaloedd ymylol megis gogledd ddwyrain yr Alban a Chymru yn gam rhy bell neu beidio?
A yw datblygu’r dulliau sefydlu mwy traddodiadol o leihau’r amgylchedd busnes cyfredol, gan roi sylw at fanylder o ran amseroldeb a rheolaeth pridd a chnydau yn well opsiwn er mwyn cynyddu proffidioldeb yn yr ardaloedd ymylol hynny?
A yw’r naill ddull yn ddigon i wrthweithio’r straen fasnachol a roddir ar gynhyrchwyr grawnfwyd ar hyn o bryd ac a oes angen i’r busnesau fabwysiadu strwythur busnes cymysg neu arallgyfeiriedig?
Mae Grwpiau Busnes Tir Âr yn rhannu eu data meincnodi unigol yn ffordd ddelfrydol o hwyluso cyfnewid gwybodaeth rhwng y tyfwyr sy’n cymryd rhan i drafod ac ateb y cwestiynau hyn. Bydd y gallu i ymweld ag ardal gydag amgylchedd unigryw debyg ac archwilio eu profiadau ymarferol o ymdopi â’r amgylchedd yn ysgogi trafodaeth. Bydd hyn yn darparu gwybodaeth ymarferol a ellir ei ddefnyddio o fewn eu busnesau eu hunain.
2 Amserlen
2.1 Diwrnod 1
Alan Grant, Skillymarno, Strichen
Fferm deuluol yn tyfu tua 300ha o gnydau cyfunadwy gan ddefnyddio system draddodiadol. Maent hefyd yn ymgymryd ag ychydig o waith contractio yn ogystal â menter dofednod. Roedd sylw at fanylder, sef yr allwedd i lwyddiant y busnes, yn amlwg iawn wrth fynd o gwmpas y fferm.
I’r perchennog, Alan Grant, mae manylrwydd a mesuriad yn rhan o’i ymarfer dyddiol. Er mwyn cyfiawnhau ei ddymuniad i berchen offer chwistrellu mwy o faint, mae’n ymgymryd â gwaith contractio gan chwistrellu 3000 erw bob blwyddyn.
Yn ogystal â hyn, mae’r fferm yn rhan o fenter beiriannau ar y cyd gyda dwy fferm gyfagos er mwyn ymladd yn erbyn costau sy’n fythol gynyddol. Roedd cryfderau eraill eu menter ar y cyd unigol yn cynnwys sgiliau ategol, sy’n eu galluogi i ganolbwyntio ar y gwaith y maent yn fwyaf hyfedr ynddo; buddsoddiad cyfalaf tipyn llai; annog y ffermwyr sy’n cymryd rhan i wneud mwy o ymdrech o ran cynllunio a chyllidebau; a’u galluogi i drin offer mwy o faint a mwy datblygedig. Fodd bynnag, mae’n gofyn ildio rheolaeth ac amseroldeb.
Peter Chapman, South Redbog, Stichen
Fferm deuluol yn tyfu tua 300ha o gnydau cyfunadwy. Maent yn treialu amaethu tir yn llai aml yn anffurfiol a chymysg yw’r canlyniadau. Maent yn rhedeg mentrau dofednod a bîff yn ogystal â thyrbinau gwynt. Bûm yn lwcus i gael cwmni’r gwyddonwr pridd, Blair Mackenzie. Nid oedd y lleiniau lle oedd y tir yn cael ei drin cyn lleied â phosib yn ffynnu o’u cymharu â’r tir wedi ei droi, gyda llai o reolaeth dros chwyn yn yr ardal hon.
Lefelau iechyd pridd/deunydd organig uchel yn South Redbog oedd canolbwynt dull ffermio Peter ac maent wedi arwain at gynnyrch uwch ar y fferm. Roedd pridd South Redbog yn debyg iawn i bridd nifer o aelodau’r grŵp trafod. Trafodom y manteision o drin y pridd yma gyda llawer o’r grŵp yn gytûn ei fod yn cynyrchu mwy o faetholion o fewn y pridd.
Yn eu cyfarfoddydd, mae’r grŵp eisoes wedi archwilio’r manteision posib o fabwysiadu strategaeth dim trin. Fe bwysleisiodd Peter ni ddylid gwneud penderfyniad i fabwysiadu dull dim trin er mwyn gwella iechyd y pridd; dylai’r pridd fod yn ddigon iach cyn mabwysiadu’r strategaeth.
Dangosodd trafodaeth bellach ynglŷn â defnydd profi pridd bod math y pridd yn cael tipyn o effaith ar sut y dylid dehongli’r canlyniadau, gan wneud hi’n hanfodol bod ffermwyr yn gwybod lle cymerwyd y samplau pridd a beth oedd gwead y pridd.
2.2 Diwrnod 2
Andrew Booth, Booth Farms, Savock Farm
Mae Andrew a George Booth, o Savock Farm yn Aberdeenshire, yn tyfu 1000ha o gnydau cyfunadwy ac yn cadw buches o 100 o wartheg bîff ar ddwy fferm yn ogystal â rhedeg siop fferm lwyddiannus. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae maint y fferm wedi tyfu o 300ha i 1000ha. Ffocws yr ymweliad oedd costau sefydlog y busnes; a yw costau sefydlog a chostau cynhyrchu yn newid COPs (crop output production) wrth ehangu neu a ydych chi’n gweithio heb angen?
Maent yn wynebu heriau ar ffurf tir trwm, anfaddeugar a sychu grawn heb sychwr. Gyda 30% o’r fferm wedi cael ei fapio gan ddefnyddio technoleg GPS, maent wedi dechrau buddsoddi mewn ffermio manwl gywir. Mae Andrew a George yn edrych i wella marchnata a sicrhau dyfodol eu busnes.
Wrth ystyried arbed arian yn erbyn risg busnes daethpwyd i’r casgliad y gellir cyflawni arbediad ariannol ond bod gormod yn gallu eich gadael heb yr hyn yr ydych ei angen i wneud y gwaith. Os ydych yn lleihau trosglwyddiadau mewn ymdrech i arbed arian, byddwch yn barod am lai o oriau ar gyfer staff, rhywbeth all fod yn gadarnhaol neu’n negyddol yn ôl y grŵp; gellir lleihau’r oriau a weithir ar fferm deuluol, ond gall lleihau oriau’r gweithlu arwain at euogrwydd. Yn y bôn, efallai mai elw yw’r brenin ond nid dan unrhyw amodau. Swydd sylfaenol ffermwyr yw cael dealltwriaeth lawn o’u costau cynhyrchu.
Maitland Mackie, Westertown, Rothienorman
Mae Mackie’s o’r Alban yn fusnes teuluol pedair cenhedlaeth sydd wedi ffermio yn Westertown, Abeerdeenshire ers 1912 ac yn cynhyrchu hufen iâ mewn cadwyn ‘sky to scoop’ ers 1986. Mae’r fferm tir âr 1500 erw sydd wedi’i hintegreiddio’n fertigol yn cefnogi buches laeth o 450 buwch sy’n darparu llaeth a hufen ffres ar gyfer eu hufen iâ llaeth.
Prif ffocws yr ymweliad fferm oedd y prosiectau arallgyfeirio ar y fferm. Mae’r fferm paneli solar newydd yn cynhyrchu trydan sy’n gyfwerth i’r swm sydd ei angen ar Mackie’s i greu 4 miliwn litr o hufen iâ. Mae fferm paneli solar 10 erw Mackie’s tua’r un maint a pum cae pêl-droed.
Hyd yma, prif ffynhonnell egni adnewyddol Mackie’s oedd ynni gwynt, sy’n cyflenwi hyd at 70% o ofynion egni’r fferm. Bydd y pedwerydd tyrbin gwynt newydd yn cynyddu cyfanswm yr ynni gwynt i gapasiti o 3.0MW.
Bu Mackie’s yn gweithio ar osod eu safleoedd biomass 400Kw yn gynharach eleni, sy’n darparu’r egni ar gyfer gwresogi’r swyddfa a chartrefi staff yn uniongyrchol.
3 Camau Nesaf
Caiff canfyddiadau’r daith astudio eu dangos ar ffurf treial ar fferm ar y fferm fonitro yn archwilio opsiynau trin tir. Mae’r Ffermwr Monitro, Julian Radcliffe, wedi rhannu cae yn Fferm Penmaerk Place i mewn i bedwar llain gyda gwahanol dechnegau sefydlu ar gyfer pob llain. Ar gyfer y pridd lôm ym Mro Morgannwg, cytunodd y grŵp mae’r amaethwr mwyaf addas oedd yr amaethwr disg a dant. Trwy’r gweithgaredd meincnodi byddwn hefyd yn cyfrifo goblygiadau cost pob techneg wahanol.
Yn anochel, trafododd y ffermwyr amrywiaeth o bynciau eraill (heblaw sefydliad y cnwd) yn ystod y gwahanol ymweliadau. Isod ceir nifer o’r negeseuon i’w cofio a bues yn eu hannog i’w rhestru yn ystod ein siwrnai adref. Byddwn hefyd yn archwilio nifer o’r rhain yn ystod ein cyfarfodydd dros y gaeaf 2016/17.
- Edrych ar wahanol opsiynau cnwd er mwyn lleihau amlygiad - ymestyn y cylchdro
- Drilio pridd cyflwr da yn unig; peidio’i orfodi oherwydd llwyth gwaith
- Dewis amrywiaethau cryf â gwrthedd da i afiechyd
- Mabwysiadu dulliau er mwyn sicrhau’r cyswllt hadau/pridd gorau posib a lleihau costau sefydlu
- Defnyddio gosodiad gwrtaith yr hydref
- Ymchwilio contractau premiwm
- Monitro’n agos nes ei fod yn sefydlog
- Rheoli gwlithod, pryfed a cholomennod
- Peidio â thyfu ar gaeau sy’n anodd eu rheoli
- Sicrhau y bydd cnydau blaenorol yn cael eu cynhaeafu’n gynnar - gwaredu gwellt?
O safbwynt cymdeithasol, a bod yn grŵp newydd sefydlu, roedd y daith astudio hon yn ddefnyddiol iawn o ran helpu sicrhau bod aelodau’r grŵp yn cyd-dynnu â’i gilydd. Mae bod yn ddigon cyfforddus i allu rhannu gwybodaeth gyda’n gilydd yn rhan hanfodol o’r gweithgaredd meincnodi.
Rydym yn hynod o ddiolchgar i Gyswllt Ffermio am ddarparu’r cyfle i fynd ar y daith hon.