South Caernarfon Creameries
Mae Hufenfa De Arfon, a sefydlwyd ym 1937, yn fenter gydweithredol yng ngogledd-orllewin Cymru. Gyda 152 o gynhyrchwyr llaeth yn gydberchnogion ar y cwmni, mae’r hufenfa’n prosesu llaeth yn gynnyrch llaeth amrywiol, gan gynnwys tua 15 o wahanol gawsiau yn amrywio o gaws Cheddar mwyn i aeddfed, a chawsiau Prydeinig traddodiadol. Mae brand Dragon yn rhan sylweddol o'u busnes, yn darparu ar gyfer cwsmeriaid Cymreig ac yn cynhyrchu detholiad eang o gynhyrchion wedi’u brandio ar...