1. Trosolwg

Mae ymgymryd â masnachfraint yn opsiwn sy'n werth ei ystyried i unrhyw un sy'n awyddus i redeg busnes ond nad oes ganddo syniad penodol ar gyfer busnes neu y mae'n well ganddo'r sicrwydd sy'n gysylltiedig â chysyniad sefydledig.

Gall y fasnachfraint gywir roi dechrau da i chi. Yn hytrach na dechrau busnes cwbl newyddrydych yn defnyddio syniad am fusnes sydd eisoes wedi'i brofi. Yn nodweddiadol, byddwch yn masnachu o dan enw brand y busnes sy'n cynnig y fasnachfraint i chi, a byddant hwy yn rhoi cymorth a chefnogaeth i chi.

Mae gan fasnachfreintiau llwyddiannus gyfradd methiant llawer is na busnesau cwbl newydd. Fodd bynnag, bydd dal angen i chi weithio'n galed i sicrhau llwyddiant y fasnachfraint ac mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi aberthu rhai o'ch syniadau chi eich hun ar gyfer busnes er mwyn bodloni telerau'r masnachfreiniwr.

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i benderfynu a yw masnachfreinio yn briodol i chi. Mae'n dangos sut y gallwch ddod o hyd i'r fasnachfraint briodol, ac yn amlygu'r materion allweddol y mae angen i chi eu hystyried.

2. Beth yw masnachfreinio?

Gall y term 'masnachfreinio' ddisgrifio mathau gwahanol iawn o drefniadau busnes. Mae'n bwysig deall yn union beth sy'n cael ei gynnig i chi.

Masnachfraint ar ffurf busnes

Dyma'r math mwyaf cyffredin o fasnachfreinio. Bydd masnachfraint go iawn ar ffurf busnes yn digwydd pan fydd perchennog busnes (y masnachfreiniwr) yn rhoi trwydded i berson neu fusnes arall (deiliad y fasnachfraint) i ddefnyddio ei syniad busnes - yn aml mewn ardal ddaearyddol benodol.

Bydd deiliad y fasnachfraint yn gwerthu cynnyrch neu wasanaethau'r masnachfreiniwr, yn masnachu o dan nod masnach neu enw masnach y masnachfreiniwr, ac yn elwa ar gymorth a chefnogaeth y masnachfreiniwr.

Yn gyfnewid am hyn, bydd deiliad y fasnachfraint fel arfer yn talu ffi gychwynnol i'r masnachfreiniwr ac wedyn canran o'r refeniw gwerthu.

Deiliad y fasnachfraint fydd yn berchen ar yr allfa a redir ganddo. Ond bydd y masnachfreiniwr yn cadw rheolaeth dros y ffordd y caiff cynhyrchion eu marchnata a'u gwerthu a sut y defnyddir ei syniad busnes.

Ymhlith y busnesau adnabyddus sy'n cynnig masnachfreintiau o'r math hwn mae Prontaprint, Dyno-Rod a McDonald's.

Mathau eraill o drefniant

Weithiau cyfeirir at wahanol fathau o gydberthnasau gwerthu fel masnachfraint hefyd. Er enghraifft:

  • dosbarthwyr a delwriaethau - byddwch yn gwerthu'r cynnyrch ond ni fyddwch fel arfer yn masnachu o dan enw'r fasnachfraint. Bydd mwy o ryddid gennych o ran sut y byddwch yn rhedeg y busnes
  • asiantaeth  - byddwch yn gwerthu'r nwyddau neu'r gwasanaethau ar ran y cyflenwr.
  • trwyddedai - bydd trwydded gennych yn rhoi'r hawl i chi wneud a gwerthu cynnyrch y trwyddedwr. Fel arfer ni fydd unrhyw gyfyngiadau o ran sut y byddwch yn rhedeg eich busnes.

Marchnata aml-lefel

Mae rhai busnesau yn cynnig masnachfreintiau sydd mewn gwirionedd yn gweithredu ar sail gynlluniau marchnata aml-lefel. Dyma lle bydd dosbarthwyr hunangyflogedig yn gwerthu nwyddau ar ran gweithgynhyrchwr. Byddwch yn cael comisiwn ar unrhyw werthiannau a wnewch, a hefyd ar werthiannau a wneir gan ddosbarthwyr eraill a gaiff eu recriwtio gennych.

Byddwch yn ymwybodol y gallai rhai cynlluniau marchnata aml-lefel fod yn anonest neu'n anghyfreithlon.

3. Manteision ac anfanteision masnachfreinio

Gall prynu masnachfraint fod yn ffordd gyflym o sefydlu eich busnes eich hun heb ddechrau o'r dechrau. Ond mae nifer o anfanteision hefyd.

Manteision

  • bydd eich busnes yn seiliedig ar syniad sydd eisoes wedi'i brofi. Gallwch edrych ar lefelau llwyddiant masnachfreintiau eraill cyn ymrwymo eich hun
  • gallwch ddefnyddio enw brand a nodau masnach cydnabyddedigByddwch yn cael budd o unrhyw hysbysebu neu waith hyrwyddo a wneir gan berchennog y fasnachfraint - y 'masnachfreiniwr'
  • bydd y masnachfreiniwr yn rhoi cymorth i chi - a fydd fel arfer yn cynnwys hyfforddiant, help i sefydlu'r busnes, llawlyfr yn dweud wrthych sut i redeg y busnes a chyngor parhaus
  • fel arfer bydd gennych hawliau neilltuedig yn eich tiriogaeth. Ni fydd y masnachfreiniwr yn gwerthu unrhyw fasnachfreintiau eraill yn yr un diriogaeth
  • efallai y bydd yn haws cael cyllid  i'r busnes. Weithiau mae banciau yn fwy tebygol o roi benthyg arian i brynu masnachfraint ag enw da
  • gallwch gael budd o gyfathrebu a rhannu syniadau gyda deiliad masnachfreintiau eraill yn y rhwydwaith a chael cymorth ganddynt
  • bydd cydberthnasau eisoes wedi'u sefydlu â chyflenwyr

Anfanteision

  • efallai y bydd y costau yn uwch nag y byddwch yn ei ddisgwyl. Yn ogystal â chostau cychwynnol prynu'r fasnachfraint, byddwch yn talu ffioedd gwasanaeth rheoli parhaus ac mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi gytuno i brynu cynhyrchion gan y masnachfreiniwr
  • bydd cytundeb y fasnachfraint fel arfer yn cynnwys cyfyngiadau ar y ffordd y gallwch redeg y busnes. Efallai na fyddwch yn gallu gwneud newidiadau i weddu i'ch marchnad leol
  • gallai'r masnachfreiniwr fynd i'r wal
  • gallai masnachfreintiau eraill roi enw drwg i'r brand, felly mae'n rhaid i'r broses recriwtio fod yn drylwyr
  • gallech ei chael hi'n anodd gwerthu eich masnachfraint - dim ond i rywun a gymeradwyir gan y masnachfreiniwr y byddwch yn gallu ei gwerthu
  • rhennir pob elw (canran o'r gwerthiant) fel arfer gyda'r masnachfreiniwr

4. A ddylwn i brynu masnachfraint?

Gall prynu masnachfraint fod yn ffordd gyflym o sefydlu eich busnes eich hun heb ddechrau o'r dechrau. Ond mae nifer o anfanteision hefyd.

Manteision

  • bydd eich busnes yn seiliedig ar syniad sydd eisoes wedi'i brofi. Gallwch edrych ar lefelau llwyddiant masnachfreintiau eraill cyn ymrwymo eich hun
  • gallwch ddefnyddio enw brand a nodau masnach cydnabyddedigByddwch yn cael budd o unrhyw hysbysebu neu waith hyrwyddo a wneir gan berchennog y fasnachfraint - y 'masnachfreiniwr'
  • bydd y masnachfreiniwr yn rhoi cymorth i chi - a fydd fel arfer yn cynnwys hyfforddiant, help i sefydlu'r busnes, llawlyfr yn dweud wrthych sut i redeg y busnes a chyngor parhaus
  • fel arfer bydd gennych hawliau neilltuedig yn eich tiriogaeth. Ni fydd y masnachfreiniwr yn gwerthu unrhyw fasnachfreintiau eraill yn yr un diriogaeth
  • efallai y bydd yn haws cael cyllid  i'r busnes. Weithiau mae banciau yn fwy tebygol o roi benthyg arian i brynu masnachfraint ag enw da
  • gallwch gael budd o gyfathrebu a rhannu syniadau gyda deiliad masnachfreintiau eraill yn y rhwydwaith a chael cymorth ganddynt
  • bydd cydberthnasau eisoes wedi'u sefydlu â chyflenwyr

Anfanteision

  • efallai y bydd y costau yn uwch nag y byddwch yn ei ddisgwyl. Yn ogystal â chostau cychwynnol prynu'r fasnachfraint, byddwch yn talu ffioedd gwasanaeth rheoli parhaus ac mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi gytuno i brynu cynhyrchion gan y masnachfreiniwr
  • bydd cytundeb y fasnachfraint fel arfer yn cynnwys cyfyngiadau ar y ffordd y gallwch redeg y busnes. Efallai na fyddwch yn gallu gwneud newidiadau i weddu i'ch marchnad leol
  • gallai'r masnachfreiniwr fynd i'r wal
  • gallai masnachfreintiau eraill roi enw drwg i'r brand, felly mae'n rhaid i'r broses recriwtio fod yn drylwyr
  • gallech ei chael hi'n anodd gwerthu eich masnachfraint - dim ond i rywun a gymeradwyir gan y masnachfreiniwr y byddwch yn gallu ei gwerthu
  • rhennir pob elw (canran o'r gwerthiant) fel arfer gyda'r masnachfreiniwr

5. Dod o hyd i wybodaeth am fasnachfreintiau posibl

Fel gydag unrhyw fenter busnes newydd, bydd angen i chi ystyried yn ofalus a ydych yn meddu ar y sgiliau a'r agwedd briodol i redeg masnachfraint lwyddiannus. Bydd angen i chi ystyried i ba raddau rydych yn mwynhau rheoli pobl, gwerthu i'r cyhoedd neu weithio ar eich pen eich hun - gan eu bod yn rhai o ofynion cyffredin mathau gwahanol o fasnachfraint. Bydd y dudalen hon yn eich helpu i benderfynu a yw masnachfreinio yn iawn i chi a pha fath o fasnachfraint sydd fwyaf addas i'ch cryfderau.

Aseswch eich hun

  • bydd yn rhaid i chi fod yn barod i werthu a bydd angen dawn entrepreneuraidd arnoch. Mae masnachfraint yn rhoi glasbrint busnes i chi - ond ni fydd yn awtomatig yn rhoi cwsmeriaid i chi
  • bydd angen i chi weithio'n galed, fwy na thebyg am oriau hir. A yw'r ymroddiad angenrheidiol gennych?
  • gall rhedeg eich busnes eich hun fod yn straen. Meddyliwch sut rydych yn ymateb i bwysau
  • efallai mai eich rheswm dros ddechrau busnes yw eich bod am fod yn fos arnoch chi eich hun. Os felly, a fyddech yn fodlon â'r cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â threfniant masnachfraint?
  • ar y llaw arall, efallai y byddwch am gyfyngu eich risg. Efallai y byddwch yn fwy cyfforddus â masnachfraint nag yn dechrau busnes cwbl newydd

Y fasnachfraint gywir i chi

  • a ydych yn hoffi gwaith swyddfa? Neu a fyddai'n well gennych fusnes sy'n golygu llafur corfforol neu ddefnyddio sgil benodol?
  • a ydych yn hapus yn gweithio ar eich pen eich hun? Neu a fyddech yn dda yn recriwtio, hyfforddi a rheoli cyflogeion?
  • a ydych yn hoffi ymdrin ag aelodau o'r cyhoedd? Neu a fyddai'n well gennych fasnachfraint sy'n golygu gwerthu i gwsmeriaid busnes?
  • a ydych yn wan o ran rhai sgiliau busnes penodol megis cyllid? A allwch ddod o hyd i fasnachfraint sy'n cynnig y cymorth sydd ei angen arnoch yn y meysydd hynny?

6. Asesu cyfle i brynu masnachfraint

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gyfleoedd posibl i brynu masnachfreintiau o amrywiaeth o ffynonellau.

Mae gwefan Cymdeithas Masnachfreintiau Prydain (BFA) yn fan cychwyn defnyddiol. Yn ogystal â chynnig canllawiau a seminarau ar fasnachfreinio, mae'n darparu gwybodaeth gyswllt am gyfleoedd masnachfreinio holl aelodau BFA - masnachfreintiau newydd a masnachfreintiau sy'n bodoli eisoes sy'n cael eu hailwerthu.

Dewch o hyd i aelodau a allai fod yn cynnig masnachfreintiau newydd ar wefan BFA.

Caiff masnachfreintiau eu hysbysebu ac ysgrifennir amdanynt mewn amrywiol bapurau newydd cenedlaethol.

Gallwch ddod o hyd i fanylion defnyddiol ar fasnachfreintiau ar wefannau fel whichfranchise.com a Franchiseinfo. Gallwch ddod o hyd i restrau eraill gan ddefnyddio peiriant chwilio  a chwilio am dermau fel 'franchise', 'franchise opportunity' neu 'franchise directory'.

Gall mynychu arddangosfa masnachfreintiau hefyd fod yn ffordd dda o gael gweld beth sydd ar gynnig.

Ond byddwch yn ofalus. Gall cyfleoedd a gaiff eu hysbysebu i brynu masnachfreintiau - yn arbennig cynlluniau marchnata aml-lefel - fod yn gyfleoedd heb eu profi, yn anonest neu hyd yn oed yn anghyfreithlon. Aseswch y cyfle masnachfreinio yn ofalus a gwnewch yn siŵr bod y busnes sy'n cynnig y fasnachfraint yn aelod o'r BFA.

7. Costau masnachfraint

Er mwyn asesu a yw masnachfraint yn gyfle busnes cadarn, bydd angen i chi ystyried:

  • beth yw'r busnes a sut mae'n gweithredu
  • lleoliad  y fasnachfraint
  • llwyddiant cysyniad y fasnachfraint - nifer y masnachfreintiau yn y DU, am ba hyd y bu'r busnes yn weithredol a'i lwyddiant ariannol
  • maint a chryfder y gystadleuaeth gan fusnesau eraill yn yr un sector o'r farchnad - yn lleol ac yn genedlaethol
  • unrhyw ymchwil i'r farchnad yn dadansoddi barn y cyhoedd am frand y masnachfreiniwr (y busnes sy'n cynnig y fasnachfraint)
  • lefelau costau cychwynnol a pharhaus 
  • faint o hyfforddiant  a chymorth y byddwch yn ei gael i sefydlu a rhedeg y  busnes
  • amodau a chyfyngiadau o fewn cytundeb y fasnachfraint, gan gynnwys pa mor hir y bydd yn rhedeg ac a fyddwch yn cael dewis adnewyddu

Mwy na thebyg bydd y masnachfreiniwr yn rhoi pecyn gwybodaeth  i chi ond ni ddylech ddibynnu'n benodol arno. Holwch gwestiynau ac edrychwch am dystiolaeth i ategu ei honiadau.

Un o'r peth au mwyaf defnyddiol y gallwch ei wneud cyn penderfynu ar fasnachfraint yw ymweld â masnachfreintiau eraill a siarad â hwy. Gofynnwch i'r masnachfreiniwr am restr lawn o fasnachfreintiau cyfredol a masnachfreintiau o'r gorffennol, nid dim ond y ddwy fwyaf llwyddiannus. Mae'n bwysig ymweld â masnachfreintiau newydd a sefydledig - â lefelau gwahanol o lwyddiant - mewn cynifer o leoliadau gwahanol â phosibl. Dylai hyn roi syniad da i chi o'r heriau y byddwch yn eu hwynebu os byddwch yn penderfynu prynu masnachfraint benodol.

Manteisiwch ar ffynonellau eraill o wybodaeth a chyngor. Mae gan wefannau Cymdeithas Masnachfreintiau Prydain (BFA) a whichfranchise.com restrau cynhwysfawr o gyfreithwyr sy'n arbenigo mewn masnachfreinio yn lleol ac yn genedlaethol. Gofynnwch i'ch banc - mae gan lawer ohonynt arbenigwyr masnachfreinio. A manteisiwch i'r eithaf ar gynghorwyr eraill fel eich cyfreithiwr neu'ch cyfrifydd.

Sut y gall cynllun busnes helpu

Fel gydag unrhyw fusnes arall, bydd angen i chi lunio cynllun busnes wrth brynu masnachfraint. Bydd hyn yn eich helpu i asesu'r rhagolygon ar gyfer y busnes a nodi gwendidau posibl. Mae cynllun busnes hefyd yn hanfodol er mwyn trefnu cyllid. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllaw paratoi cynllun busnes. Dylech allu cael cymorth gyda'ch cynllun gan y masnachfreiniwr - a gall banciau ag unedau masnachfreintiau arbenigol wirio pa mor ymarferol yw eich rhagamcanion.

8. Sut i brynu masnachfraint

Wrth gyfrifo cost debygol masnachfraint, bydd angen i chi ystyried ffioedd cychwynnol a ffioedd parhaus.

Costau cychwynnol

Fel arfer bydd y masnachfreiniwr - y busnes sy'n gwerthu'r fasnachfraint i chi - yn codi ffi gychwynnol. Os bydd y masnachfreiniwr yn dibynnu'n bennaf ar gymryd canran o'ch refeniw gwerthu, yn hytrach na ffi gychwynnol, fel arfer mae'n arwydd da bod ganddo hyder yng ngwerth ei gynnyrch neu ei wasanaeth.

Fel arfer, eich costau cychwynnol mwyaf fydd eich buddsoddiad  mewn:

  • safleoedd
  • cyfarpar
  • stoc gychwynnol

Bydd angen i chi sefydlu endid busnes. Er bod cytundeb ar ffurf contract rhwng y masnachfreiniwr a deiliad y fasnachfraint, mae pob deiliad masnachfraint yn fusnes annibynnol - a'r endid busnes fydd yn ymrwymo i gytundeb y fasnachfraint. Efallai y byddwch yn dewis cwmni cyfyngedig, partneriaeth neu unig fasnachwr fel eich strwythur busnes - y bydd costau gwahanol ynghlwm wrth bob un - neu efallai y bydd gan eich masnachfreiniwr ofynion penodol. Gweler ein canllaw dewis strwythur cyfreithol ar gyfer busnes newydd.

Costau parhaus

Fel arfer byddwch yn talu canran o'r refeniw gwerthu i'r masnachfreiniwr ar ffurf ffi gwasanaeth rheoli. Fel arall, mae'n bosibl y byddwch yn talu ffi reoli sefydlog o ryw fath.

Dan delerau cytundeb y fasnachfraint, efallai y bydd yn rhaid i chi brynu stoc  gan y masnachfreiniwr. Gofynnwch faint mae'n ei godi. Efallai y bydd yn codi'r prisiau - neu efallai y bydd yn gallu eu cynnig i chi am ddisgownt oherwydd ei bŵer prynu.

Bydd yn rhaid i chi dalu'r costau busnes arferol hefyd - er enghraifft, rhent am eich adeilad, biliau cyfleustodau neu gostau unrhyw gyflogeion y byddwch yn eu cyflogi. Unwaith eto, sicrhewch fod cost realistig i'r pethau y byddwch yn talu amdanynt drwy'r masnachfreiniwr.

Edrychwch i weld hefyd a yw'r cytundeb yn cynnwys taliadau ychwanegol. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi dalu am hyfforddiant, neu gyfrannu at gost ymgyrchoedd hysbysebu cenedlaethol.

9. Awgrymiadau ar gytundebau masnachfraint

Mae cytundeb y fasnachfraint yn allweddol. Peidiwch â llofnodi unrhyw gytundeb, na thalu unrhyw ffioedd na blaendal, hyd nes y byddwch wedi cael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr masnachfraint profiadol a achredwyd gan Gymdeithas Masnachfreintiau Prydain.  Gofynnwch am gontract enghreifftiol iddo fwrw golwg drosto.

Meysydd a gwmpesir gan gytundeb nodweddiadol

  • hyd - am ba hyd y mae'r fasnachfraint yn para? A fyddwch yn cael dewis ei adnewyddu, ac ar ba delerau?
  • tiriogaeth - pa ardal a gwmpesir gan eich masnachfraint? A oes gennych hawliau neilltuedig i werthu o fewn yr ardal honno?
  • ffioedd  - pa ffi gychwynnol y byddwch yn ei thalu? Pa ganran o'r refeniw gwerthu y byddwch yn ei thalu? A fyddwch yn talu ffi reoli reolaidd - ac os felly, beth a gwmpesir gan y ffi hon? A fydd yn rhaid i chi dalu costau eraill? Sut y caiff y costau eu cyfrifo?
  • cymorth - faint o help a gewch wrth ddechrau'r busnes? Pa gymorth parhaus a gewch?
  • cyfyngiadau  - pa gyfyngiadau sydd ar yr hyn a ganiateir i chi ei wneud a sut mae'n rhaid i chi redeg y busnes?
  • gadael - beth fydd yn digwydd os na allwch barhau â'r busnes am ryw reswm - o ganlyniad i salwch efallai? Beth fydd yn digwydd os byddwch am werthu eich masnachfraint?