Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw pobl anabl yn cael eu hanablu gan eu nam corfforol a/neu synhwyraidd, anhawster dysgu neu broblem iechyd meddwl neu drwy fod yn niwroamrywiol neu drwy ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain ond gan rwystrau y maent yn eu hwynebu oherwydd ffactorau agweddol, cymdeithasol a/neu amgylcheddol (Model Cymdeithasol o Anabledd).
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio anabledd fel: 'Nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.'
A ydych yn ystyried eich hun naill ai'n bodloni'r diffiniad Model Cymdeithasol o Anabledd, y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio, a/neu'r diffiniad yn Neddf Cydraddoldeb 2010?