Nodiadau Canllaw Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc
Dyma grant dewisol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol hyd at £2,000 i helpu pobl ifanc dan 25 oed i ddechrau busnes, dechrau menter gymdeithasol, dod yn hunangyflogedig, dod yn weithiwr llawrydd neu ddod yn entrepreneur cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y grant hwn yn ychwanegol at gymorth sefydlu busnes arall a gynigir drwy Syniadau Mawr Cymru, a gyflwynir fel rhan o’r Gwarant i Bobl Ifanc.Os ydych dros 25 oed, cyfeiriwch at y Grant Rhwystrau i Ddechrau Busnes i bobl 25 oed a throsodd Dechrau a Chynllunio Busnes | Drupal (gov.wales)
DIBEN Y GRANT
Diben y grant yw annog a galluogi pobl ifanc dan 25 oed i gychwyn busnes, dechrau menter gymdeithasol, dod yn hunangyflogedig, dod yn weithiwr llawrydd neu ddod yn entrepreneur cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y grant yn targedu pobl ifanc sy’n ddi-waith neu nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant.
SYNIADAU MAWR CYMRU (RHAN O BUSNES CYMRU)
Mae Syniadau Mawr Cymru (rhan o wasanaeth Busnes Cymru) yn darparu cymorth wedi’i deilwra ar gyfer pobl ifanc. Gall y gwasanaeth eich helpu i ddysgu am fusnes a’ch paratoi ar gyfer dechrau eich busnes eich hun. Wrth baratoi ar gyfer busnes, bydd y gwasanaeth yn asesu eich anghenion ac yn darparu pecynnau cymorth wedi’u teilwra, gan gynnwys mynediad at adnoddau ar-lein, gweithdai busnes a gweminarau, cynghorydd busnes enwebedig, mynediad at gyngor arbenigol a mentoriaid. Yn ogystal â gweithio gyda chi ar gynllun gweithredu busnes a chynllun diagnostig ar gyfer busnes, gall ein cynghorwyr hefyd ddarparu cyngor ariannol wedi’i dargedu i’ch helpu i asesu hyfywedd y syniad busnes a chyfeirio at gymorth arall y gallech elwa ohono.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Ein Cefnogaeth | Busnes Cymru - Syniadau Mawr (llyw.cymru)
PWY ALL YMGEISIO?
Meini Prawf Cymhwysedd
Mae grant o hyd at £2,000 ar gael i helpu pobl ifanc dan 25 oed sy’n byw neu’n dychwelyd i Gymru i ddod yn hunangyflogedig. Bydd angen i’r achos busnes ddangos bod ganddo’r potensial i ddod yn brif ffynhonnell incwm.
Gofynnir i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o’u statws presennol a bodloni un o’r meini prawf canlynol:
- Person ifanc sy’n ddi-waith a / neu nad yw mewn addysg neu hyfforddiant
- Person ifanc sy’n gweithio’n rhan amser (o dan 16 awr) ar hyn o bryd ac sy’n bwriadu bod gweithio’n hunangyflogedig amser llawn.
- Person ifanc sy’n dal mewn addysg ond sy’n bwriadu bod yn hunangyflogedig o fewn 3 mis i gwblhau eich cwrs. Gallwch gofrestru gyda Syniadau Mawr Cymru i gael pecyn cymorth busnes wedi’i deilwra a gwneud cais am y grant ar ôl cwblhau astudiaethau.
Bydd angen gwarantwr neu warcheidwad ar berson ifanc 16-18 oed i gael mynediad at ragor o gymorth ar gyfer hunangyflogaeth os yw’n barod i wneud cais am y Grant Sefydlu. Y rheswm am warantwr neu warcheidwad yw bod pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yn wynebu mwy o rwystrau rheoleiddiol fel cael gafael ar gyllid, cyfrifon banc a chredyd. Bydd disgresiwn yn cael ei ddefnyddio, a bydd penderfyniad yn cael ei wneud fesul achos.
Efallai y bydd unigolyn ifanc rhwng 16 a 18 oed yn ystyried cymorth drwy Twf Swyddi Cymru Plws | Cymru’n Gweithio (llyw.cymru) i ddarparu rhagor o hyfforddiant a datblygiad i wella’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen i gael swydd (gan gynnwys hunangyflogaeth neu hyfforddiant pellach); cyn gwneud cais am y grant sefydlu.
Gwybodaeth Gysylltiedig am y Grant
Bwriad y grant hwn a’r cymorth busnes cysylltiedig yw helpu’r bobl ifanc hynny sydd o dan 25 oed.
- Bydd angen i ymgeiswyr lenwi dogfen datganiad o diddordeb. Mae modd cael gafael ar hwn o dudalen we’r Grant Sefydlu i Bobl Ifanc, Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc | Busnes Cymru (gov.wales).
- Ar ôl i’r Datganiad o Ddiddordeb ddod i law, bydd tîm gweinyddu Syniadau Mawr Cymru yn cysylltu â’r ymgeiswyr ac yn cofrestru gyda’r Gwasanaeth.
Rhaid i ymgeiswyr gofrestru gyda gwasanaethau Syniadau Mawr Cymru (rhan o Busnes Cymru) i gael gafael ar becyn cymorth cyn dechrau wedi’i deilwra (1 i 1 cymorth a gweminarau) am o leiaf 6 awr i ddangos ymrwymiad i ddatblygu busnes. Os yw ymgeiswyr eisoes yn gweithio gyda darparwr cymorth busnes (hy Busnes Cymru, Hybiau neu Busnes Cymdeithasol Cymru) bydd yr oriau hyn yn cael eu cynnwys. - Bydd y cynghorydd enwebedig yn trafod y syniad busnes ac yn asesu parodrwydd ar gyfer dechrau busnes cyn rhyddhau’r ffurflen gais lawn ar gyfer y Grant. Bydd yr ymgynghorydd yn parhau i ddarparu cymorth parhaus i lenwi ffurflen gais a deall Telerau ac Amodau’r Dyfarniad Grant.
- Mae angen i ymgeiswyr ddatgan nad oes ganddyn nhw unrhyw ffynonellau cyllid eraill (neu ffynonellau cyfyngedig) neu nad ydynt yn gallu cael gafael ar unrhyw gyllid dechrau busnes arall neu eu bod on dyn gallu cael gafael ar rywfaint o gyllid er mwyn cynorthwyo i sefydlu’r busnes neu gostau rhedeg y busnes.
- Bydd y cais yn cael ei gyflwyno i Busnes Cymru i’w adolygu a’i ystyried yn annibynnol. Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau, yn ogystal â chynllun busnes, o leiaf bythefnos cyn dechrau’r busnes. Ni ellir dyfarnu grantiau ar ôl i’r busnes ddechrau masnachu.
- Bwriad y grant yw cynorthwyo unigolion yn y cam cyn cychwyn i sefydlu busnes drwy gyfrannu tuag at gostau hanfodol dechrau’r busnes (rhaid cynnwys manylion y costau yn y ffurflen gais).
- Dim ond ar gyfer gwariant refeniw mae'r grant. Mae hyn yn golygu mai gwariant a fydd yn ymddangos ar eich Cyfrif Elw a Cholled yn unig sy’n gymwys.
Gall gwariant cymwys gynnwys y canlynol:
- Cefnogaeth arbenigol – ffioedd ymgynghori, TGCh, allforio, marchnata, methodoleg ddarbodus ac ati.
- Cyngor cyfreithiol/proffesiynol
- Costau hyfforddi
- Offer cysylltiedig â busnes (hyd at werth o £1,000) – Pan nad yw’n cael ei ystyried yn gost cyfalaf drwy ymddangos ar fantolen y cwmni
- Costau gweithredu – sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gweithgaredd busnes
- Nodwch os gwelwch yn dda nad yw’r rhestr hon yn un gynhwysfawr a mae ceisiadau'n cael eu harfarnu fesul achos.
- Noder: Nid yw’r grant ar gyfer cefnogi tynnu arian personol (incwm) o’r busnes.
- Mae’r ymgeisydd yn bwriadu gwneud y busnes yn brif ffynhonnell incwm a / neu gyflogaeth, neu’n gweithio tuag at hynny.
- Bydd gofyn i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth bod y cwmni wedi dechrau masnachu, o fewn 3 mis ar ôl derbyn y gronfa grant ee copi o’r anfoneb gyntaf ac wedi cymryd camau i gofrestru’r busnes ar gyfer yr endid o’i ddewis (ee statws cyfyngedig y cwmni / hunangyflogaeth gyda CThEM). Cesglir hwn ar ôl y dyddiad cychwyn.
- Dim ond un cais a dderbynnir gan bob busnes.
- Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno gan yr unigolyn sy’n gwneud cais am y grant ac nid gan asiantau sy’n gweithredu ar ei ran.
- Bydd angen i ymgeiswyr ddatgan unrhyw gymorth ariannol arall a chyfredol gan y Llywodraeth neu Awdurdodau Lleol dros y 3 blynedd ariannol diwethaf.
- Nid yw'r unigolion hynny sydd wedi derbyn cylchoedd blaenorol o'r grantiau Rhwystrau i Ddechrau Busnes yn gymwys ar gyfer y grant hwn.
- Cytuno i ddarparu diweddariadau cynnydd parhaus (archwiliadau iechyd yn cael eu cynnal ar ôl 6 mis ac ar ôl 12 mis gan eich darparwr cymorth busnes) a gwybodaeth fonitro ar ôl derbyn y cyllid am hyd at 3 blynedd.
- Rydym am annog pob entrepreneur newydd i ystyried eu cyfrifoldebau busnes. Fel rhai sy’n derbyn buddsoddiad cyhoeddus, gofynnir i ymgeiswyr adolygu eu harferion busnes o ran cynaliadwyedd a chydraddoldeb. Mae manylion am hyn ar gael yn yr Addewid Twf Gwyrdd a’r Addewid Cydraddoldeb a’r cymorth arbenigol sydd ar gael gan Busnes Cymru i’ch cefnogi i gofrestru.
Categorïau Busnes nad oes modd ei cefnogi
Busnesau sy’n gysylltiedig â hyrwyddo safbwyntiau crefyddol neu wleidyddol arbennig; hapchwarae; pornograffi; cynnig gwasanaethau rhywiol o unrhyw fath; unrhyw weithgareddau anghyfreithlon; ac unrhyw fusnesau y tybir eu bod yn ‘newydd a dadleuol’ gan Lywodraeth Cymru.
FAINT O ARIAN ALLWCH CHI YMGEISIO AMDANO?
Mae grant o hyd at £2000 ar gael i bob busnes (dim ond un cais fesul busnes a ganiateir). Os oes angen, gellir talu mewn 2 randaliad.
Mae angen i ymgeiswyr gadarnhau nad oes ganddyn nhw, heb gefnogaeth y grant, unrhyw ffynonellau cyllid na ffynonellau cyfyngedig o gyllid i’w helpu nhw i ddechrau eu busnes.
Bydd Busnes Cymru yn defnyddio disgresiwn ar gyfer dyfarniadau grant ar sail y dystiolaeth o angen a amlinellir yn yr achos busnes a’r cais. Os cymeradwyir cais, gwneir taliad i gefnogi costau refeniw cyn i’r busnes ddechrau masnachu (cyn dechrau).
Nid ydym yn rhagweld y bydd pob ymgeisydd yn gwneud cais am y gwerth uchaf. Dim ond am y swm o gyllid sydd ei angen i ddechrau eu busnes y dylai ymgeiswyr wneud cais. Bydd hyn yn ein galluogi i gefnogi cynifer o unigolion â phosibl i ddechrau busnes drwy'r gronfa grant hon.
SUT I WNEUD CAIS
- Rhaid i ymgeiswyr lenwi’r ffurflen Datganiad o Diddordeb a’i chyflwyno drwy wefan Syniadau Mawr Cymru; Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc | Busnes Cymru (gov.wales). Ar ôl inni dderbyn a chadarnhau’r Datganiad o Ddiddordeb, bydd gweinyddwr Syniadau Mawr Cymru yn cysylltu â chi i gofrestru ar raglen Syniadau Mawr Cymru.
- Disgwylir i bob ymgeisydd gymryd rhan yn y cymorth paratoi cyn dechrau a chwblhau achos busnes gyda’ch cynghorydd busnes. Ar ôl i chi gwblhau’r cymorth paratoi cyn dechrau, bydd Busnes Cymru yn anfon y ffurflen gais am grant atoch chi.
- Rhaid anfon y ffurflen gais wedi’i llenwi ynghyd ag achos busnes dros e-bost i'r cyfeiriad a ddarperir ar y ffurflen gais i’w hasesu a chynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy.
- Rydyn ni’n ceisio ateb a chydnabod bod y cais wedi cyrraedd o fewn 5 niwrnod gwaith.
- Mae’r Grant Sefydlu i Bobl Ifanc yn agored i Ddatganiadau o Ddiddordeb o 12 Gorffennaf 2022 ymlaen a bydd ffurflen gais yn cael ei rhyddhau ar ôl cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy cychwynnol a chyflawni’r gofynion cymorth busnes bach. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 31 Mawrth 2024. Fodd bynnag, os bydd yr arian wedi’i ddyrannu cyn y dyddiad hwn, bydd y cynllun yn cau.
- Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cyn ymgeisio neu os oes gennych chi unrhyw bryderon na allwch chi gymryd rhan yn y broses ymgeisio neu gynllunio busnes oherwydd rhesymau meddygol, technegol, neu ofalu, cysylltwch â Syniadau Mawr Cymru i drafod ffyrdd i'ch helpu.
- Os oes angen unrhyw un o'r wybodaeth hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd i'w ddarllen, recordiad sain neu braille:
- defnyddio'r ffurflen cysylltu â ni
- ffoniwch: 03000 6 03000
CANLLAWIAU YNGLYN A LLENWI'R FFURFLEN
Adran 1 – Gwybodaeth amdanoch chi
Mae’r rhan hon yn gofyn am wybodaeth amdanoch chi, ‘yr ymgeisydd’. Sicrhewch fod yr holl wybodaeth yn gywir os gwelwch yn dda.
Y dystiolaeth sydd ei hangen – byddwn angen dau fath o ddull adnabod er mwyn gwirio eich hunaniaeth:
- Pasbort/Trwydded Yrru/Dull adnabod ffotograffig dilys
- Prawf o’ch cyfeiriad wedi’i ddyddio o fewn y tri mis diwethaf.
Adran 2 – Eich Amgylchiadau Cyfredol
Amlinellwch eich amgylchiadau presennol ac unrhyw heriau y gallech fod wedi’u hwynebu ar eich taith hyd yma. Llenwch yr adran hon mewn cymaint o fanylder â phosibl er mwyn inni allu deall pam fod angen cymorth arnoch o’r gronfa hon.
Adran 3 – Gwybodaeth am Eich Busnes Newydd Arfaethedig
Darparwch fanylion os gwelwch yn dda ynglŷn â’ch busnes newydd – enw arfaethedig, math o fusnes a’ch dyddiad dechrau arfaethedig. Bydd gofyn i chi hefyd anfon eich achos busnes gyda’ch ffurflen gais wedi’i llenwi.
Adran 4 - Cyllid
Rhowch wybod inni os gwelwch yn dda faint o gyllid yr ydych chi’n ymgeisio amdano. Gallwch chi ymgeisio am uchafswm o £2,000. Os ydych am i’r grant gael ei dalu mewn 2 randaliad, yna rhowch wybod inni ar y ffurflen gais. Rydym ni angen gwybod ar gyfer beth yr ydych chi’n bwriadu defnyddio’r grant a byddwch chi angen cwblhau dadansoddiad o’r hyn sydd ei angen, y costau a pham mae angen yr ‘eitem’ arbennig hon. Os oes mwy na 5 eitem, dylech eu grwpio’n briodol.
Yn ogystal, byddem yn hoffi gwybod a ydych chi’n bwriadu cyflogi unrhyw staff, ac os byddwch chi’n cyflogi, darparwch fanylion ynglŷn â’r mathau o swyddogaethau a fyddan nhw.
Rydym ni angen asesu beth fydd effaith y grant hwn, a pha wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud i’ch helpu chi ddechrau eich busnes.
Adran 5 – Manylion Banc
Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio er mwyn talu’r Grant i chi. Sicrhewch os gwelwch yn dda fod manylion banc cywir yn cael eu darparu. Bydd manylion banc anghywir yn arwain at beidio â thalu’r grant neu bydd oedi wrth ei dalu.
Mae angen gwarantwr ar bobl ifanc 16 – 18 oed. Dylai’r gwarantwr roi ei fanylion banc personol a llofnodi’r datganiad yn adran 7.
Adran 6 – Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA) a Dderbyniwyd
Mae’r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes yn cael ei ddyfarnu fel cymhorthdal Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA), ac felly rydym yn gofyn ichi gyflwyno gwybodaeth am unrhyw gymorth a roddwyd o dan reoliadau de minimis yr UE, unrhyw MFA blaenorol ac unrhyw gymorthdaliadau a roddwyd fel symiau bach o gymorth ariannol (SAFA) o dan Erthyglau 364(4) neu 365(3) Cytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a'r UE yn ystod y flwyddyn gyllidol gyfredol a'r ddwy flynedd gyllidol flaenorol.
Os nad ydych chi wedi cael unrhyw gymorth – rhowch y gair ‘DIM’. Mae’n bwysig nad yw’r adran hon yn cael ei gadael yn wag.
Mae gwybodaeth am Ganllawiau Rheoli Cymhorthdal Llywodraeth y DU (gan gynnwys SAFA) ar gael yma: Canllawiau ar ymrwymiadau rheoli cymhorthdal rhyngwladol y DU - GOV.UK (www.gov.uk)
Adran 7 – Datganiad
Mae’n bwysig iawn eich bod wedi darllen y ddogfen ganllawiau hon yn ofalus a’ch bod yn deall y telerau a’r amodau sy’n gysylltiedig â’r cais hwn am Grant.
Os ydych chi’n cytuno â’r telerau a’r amodau yn y ddogfen hon ac y gallwch chi gadarnhau bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn y cais yn wir ac yn fanwl gywir, mae’n rhaid i chi wedyn roi tic yn y blwch, cynnwys unrhyw lofnodion a dyddiadau a chyflwyno eich cais drwy e-bost i'r cyfeiriad a ddarperir ar y ffurflen gais
BETH SY’N DIGWYDD AR ÔL I’R CAIS DDOD I LAW?
Ar ôl i nni gael eich ffurflen gais, bydd ein tîm yn cydnabod bod eich cais wedi cyrraedd ac yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy.
Rhaid i bob cais gael ei gymeradwyo gan gynghorydd Syniadau Mawr Cymru (i gadarnhau bod yr ymgysylltu paratoadol cyn dechrau wedi cael ei wneud, bod y syniad busnes yn ymarferol ac yn gynaliadwy, a bod yr holl gostau refeniw yn briodol ac yn gymwys ar gyfer y syniad busnes)
Rydym yn anelu i brosesu ceisiadau grant o fewn 10 niwrnod gwaith o’r gydnabyddiaeth. Bydd penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau yn cael eu gwneud yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd yn y ffurflen gais, y dystiolaeth gysylltiedig (achos busnes/ dadansoddiad o gostau refeniw a chymeradwyaeth cynghorydd) a ddarparwyd, a’r gwiriadau diwydrwydd dyladwy pellach.
Os bydd yn cael ei gymeradwyo, byddwch chi’n derbyn llythyr cymeradwyo’r grant drwy e-bost a fydd yn eich hysbysu chi bod grant wedi cael ei ddyfarnu, ynghyd â dolen at y telerau a’r amodau ar gyfer eich cofnodion eich hun. Mae’n rhaid i chi ymateb i’r cynnig hwn o fewn saith niwrnod gwaith, neu bydd y cynnig grant yn cael ei dynnu’n ôl.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr gadarnhau derbyn y llythyr cynnig drwy e-bost a Docusign. Ar ôl ei dderbyn a’i gydnabod, ein nod yw talu i’r cyfrif banc enwebedig o fewn 10 diwrnod gwaith.
Fel rhan o delerau ac amodau eich cais, byddwch yn cytuno i barhau i gael cymorth ar ôl dechrau. Bydd eich darparwr cymorth busnes yn cynnal gwiriadau iechyd ar ôl 6 mis ac ar ôl 12 mis, lle byddwn yn gofyn am dystiolaeth bod y cwmni wedi dechrau masnachu, ee copi o’r anfoneb gyntaf, tystiolaeth o ddatganiad cyfrif banc busnes a’ch bod wedi cymryd camau i gofrestru’r busnes ar gyfer yr endid o’i ddewis (ee statws cyfyngedig y cwmni / hunangyflogaeth gyda CThEM)
Bydd adolygiadau hefyd yn cael eu cynnal i sicrhau bod yr arian grant yn cael ei ddefnyddio at y dibenion a nodir yn eich cais am grant cymeradwy. Os nad yw hyn yn wir, mae Llywodraeth Cymru a/neu ei chontractwyr penodedig yn cadw'r hawliau i adennill yr arian.
Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwch yn cael e-bost yn amlinellu’r rheswm/rhesymau dros ei wrthod a bydd eich cynghorydd busnes yn trafod opsiynau cymorth eraill sydd ar gael i chi wrth ddechrau busnes. Grant dewisol yw hwn ac nid oes proses apelio.
AD-DALU GRANTIAU
Dylai ymgeiswyr nodi y gall Llywodraeth Cymru neu ei chontractwyr penodedig fynnu bod y grant yn cael ei ad-dalu’n llawn neu’n rhannol os nad yw’r arian yn cael ei ddefnyddio at y dibenion a nodir ar y ffurflen gais neu os na fodlonir y telerau ac amodau. Mae’r ymgeisydd yn ymrwymo i gytundeb fel y cyfryw a gellir gorfodi hyn drwy ofyn am brawf, ar ôl dyfarnu’r grant.
TELERAU AC AMODAU AR GYFER YMGEISWYR
1. Telir y grant hwn yn ôl disgresiwn llwyr Llywodraeth Cymru.
2. Caiff Gweinidogion Cymru neu ei gontractwyr ddal yn ôl neu adennill y cyllid mewn amgylchiadau penodol.
3. Bydd y taliad yn cael ei wneud drwy drosglwyddiad banc i’ch cyfrif banc enwebedig ar ôl casglu digon o dystiolaeth.
4. At ddibenion y Prosiect, rhaid i’r Cwmni sicrhau ei fod yn cydymffurfio â rheolau Cymorth Gwladwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd a/neu Ganllawiau Rheoli Cymhorthdal Llywodraeth y DU. Mae rhagor o fanylion am y rheolau Cymorth Gwladwriaethol penodol sy’n berthnasol ar gael yma. Mae rhagor o fanylion am Ganllawiau penodol Llywodraeth y DU ar Reoli Cymhorthdal ar gael yma. Mae’r Cwmni’n gyfrifol am sicrhau bod y grant yn cael ei ddarparu yn unol â’r meini prawf Cymorth Gwladwriaethol y dyfernir y cyllid arnynt.
5a. Er mwyn lleihau’r ystumio ar gystadleuaeth, mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn gosod cyfyngiadau ar faint o gymorth y gellir ei roi i fudiadau sy’n gweithredu mewn marchnad gystadleuol.
Mae’r cymorth a ddarperir gan Busnes Cymru yn gymorth de minimis o dan Reoliad de Minimis 1407/2013 fel y’i cyhoeddwyd yng Nghyfnodolyn Swyddogol y Cofnod Ewropeaidd dyddiedig 24 Rhagfyr 2013. Mae terfyn o €200,000 (€100,000 ar gyfer ymgymeriadau yn y sector trafnidiaeth ffyrdd) ar gyfer yr holl gymorth de minimis yn cael ei ddarparu i unrhyw un sefydliad dros gyfnod o dair blynedd (hy y flwyddyn ariannol gyfredol a’r ddwy flynedd gyllidol flaenorol) yn dod i ben. Bydd unrhyw gymorth de minimis a ddarperir i chi dan y gwasanaeth hwn yn berthnasol. Drwy gytuno i’r cyllid hwn, rydych yn ardystio y byddwch yn aros o fewn y terfynau hyn.
5b. Cymorth a ddarperir o dan ‘Cymorth Ariannol Lleiaf’ (MFA) fel y’i diffinnir gan Erthygl 364 paragraff 4 Cytundeb Masnach a Chydweithrediad y DU-UE. Mae hyn yn caniatáu darparu hyd at tua £315,000 i un actor economaidd dros unrhyw gyfnod o dair blynedd ariannol. Mae’r trothwy hwn yn cynnwys unrhyw gymorth SAFA neu gymorth de minimis yr UE a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod perthnasol, o bob ffynhonnell.
6. Sylwch y gallai gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan Weinidogion Cymru gael ei datgelu o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth. Ni fyddwn yn datgelu nac yn rhyddhau unrhyw wybodaeth fasnachol sensitif a ddarperir gennych heb ymgynghori â chi ymlaen llaw, ond yn y pen draw Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu a ydynt am ddatgelu'r wybodaeth ai peidio yng ngoleuni’r holl ofynion cyfreithiol perthnasol.
7. Drwy wneud cais am y grant hwn rydych yn cytuno i dderbyn y telerau ac amodau hyn. Byddwch yn cadarnhau hyn drwy roi tic yn y blwch telerau ac amodau ar y ffurflen gais a thrwy gyflwyno’r cais.
8. Sylwch na fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud unrhyw daliadau i’r Cwmni nes eich bod wedi dychwelyd y dystiolaeth ychwanegol sy’n ofynnol fel yr amlinellir yn adran 1.
9. Bydd unrhyw gyllid a ddyfernir yn cael ei ddefnyddio dim ond at y dibenion a gymeradwywyd yn y cais yr ydych wedi'i wneud ac mewn unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo.
10. Rhaid hawlio’r cyllid erbyn 30 Mehefin 2023.
11. Rhaid i’r Cwmni ddarparu'r holl wybodaeth ynghylch ei weithgareddau neu ei weithgareddau arfaethedig ac ynghylch ei ddefnydd neu’r defnydd arfaethedig o’r holl gyllid neu unrhyw ran o’r cyllid, gan y bydd Gweinidogion Cymru angen yr wybodaeth hon o bryd i’w gilydd.
12. Mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud hi’n ofynnol i bawb sy’n derbyn cyllid sicrhau eu bod yn defnyddio polisi cyfle cyfartal fel cyflogwyr, fel defnyddwyr gwirfoddolwyr, ac fel darparwyr gwasanaethau, beth bynnag y bo’u hil, eu rhyw, eu hunaniaeth o ran rhywedd, eu tueddfryd rhywiol, eu crefydd a’u cred, eu hoed neu cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol, eu hanabledd.
13. Bydd gan Weinidogion Cymru hawl i amrywio, atal neu derfynu unrhyw ran o’r cyllid neu’r holl gyllid a/neu ei gwneud hi’n ofynnol i ran o’r cyllid neu'r holl gyllid a dalwyd eisoes gael ei ad-dalu os bydd:
i. y Cwmni’n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau, amodau neu ddarpariaethau a nodir yn y ddogfen Telerau ac Amodau hon, y Nodiadau Cyfarwyddyd ar gyfer y cais; ii. unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y Cwmni neu ar ran y Cwmni, mewn perthynas â chaffael y cynnig hwn o gyllid neu hawliad am daliad cyllid yn anghywir neu’n gamarweiniol i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn berthnasol; iii. Gweinidogion Cymru yn amau bod y Cwmni a/neu unrhyw un o’i swyddogion yn ymwneud â gweithgarwch twyllodrus.
14. Caiff Gweinidogion Cymru amrywio a/neu ddal yn ôl unrhyw ran o’r cyllid neu'r holl daliadau cyllid a/neu ei gwneud hi’n ofynnol i ad-dalu’r cyllid, ynghyd â llog o’r dyddiad talu os:
i. bydd hi’n ofynnol iddynt wneud hynny o ganlyniad i benderfyniad gan y Comisiwn Ewropeaidd neu o ganlyniad i unrhyw rwymedigaeth dan Gyfraith Gymunedol; neu
ii. yn eu barn hwy, mae angen sicrhau bod y cyllid a ddarperir yn unol â’r llythyr hwn ynghyd ag unrhyw gyllid arall a dderbyniwyd neu sy’n debygol o gael ei dderbyn tuag at y Prosiect yn Gymorth Gwladwriaethol cyfreithlon.
15. Os caiff y Cwmni ei ddirwyn i ben neu os caiff ei ddiddymu (gan gynnwys bod yn destun unrhyw orchymyn gweinyddu), neu os bydd yn mynd i sefyllfa o dderbynyddiaeth, methdaliad, yn ymrwymo i unrhyw gyfaddawd neu drefniant arall o’i ddyledion gyda’i gredydwyr neu unrhyw ddigwyddiad tebyg neu gyfatebol i unrhyw un o’r digwyddiadau a ddisgrifir yn y paragraff 15 hwn, yna bydd gan Weinidogion Cymru yr hawl i adennill ar gais y Cwmni y cyllid a dalwyd ac ni fydd unrhyw arian pellach yn ddyledus neu’n daladwy gan Weinidogion Cymru i’r Cwmni nac i unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran neu yn ei enw. Ystyrir bod unrhyw gyfeiriadau at swm yr arian a dalwyd neu sydd i’w dalu i’r Cwmni yn golygu ac yn gyfyngedig i’r gwir swm o arian a dalwyd i’r Cwmni gan Weinidogion Cymru ar yr adeg y bydd unrhyw un o’r digwyddiadau y cyfeirir atynt uchod yn digwydd.
16. Bydd y Cwmni, yn ddi-dâl, yn caniatáu i unrhyw swyddog neu swyddogion Gweinidogion Cymru neu eu cynrychiolwyr, ar unrhyw adeg resymol ymweld â'i safle a/neu archwilio unrhyw rai o'i weithgareddau a/neu archwilio'r asedau neu'r eitemau cost prosiect a brynwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, gyda'r cyllid a/neu archwilio a chymryd copïau o lyfrau cyfrifon y Cwmni ac unrhyw ddogfennau neu gofnodion eraill y mae swyddogion o'r farn eu bod yn ymwneud mewn unrhyw fodd â defnyddio cyllid gan y Cwmni. Nid yw’r amod hwn yn lleihau dim ar effaith unrhyw hawliau a phwerau statudol eraill sy’n arferadwy gan Weinidogion Cymru, neu unrhyw swyddog, gwas neu asiant sy’n berthnasol iddynt.
17. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae gan Archwilydd Cyffredinol Cymru hawliau mynediad helaeth at ddogfennau a gwybodaeth sy’n ymwneud â chyllid a ddarperir gan Weinidogion Cymru. Mae ganddo ef a’i swyddogion y pŵer i’w gwneud yn ofynnol i bersonau perthnasol sy’n rheoli neu’n dal dogfennau roi unrhyw gymorth, gwybodaeth ac esboniad y gall fod arnynt eu hangen ac i’w gwneud hi’n ofynnol i’r personau hynny fod yn bresennol ger eu bron at ddiben o’r fath. Caiff yr Archwilydd Cyffredinol a’i staff arfer yr hawl hon ar bob adeg sy’n rhesymol.
18. Bydd y Cwmni’n caniatáu i archwilwyr yr UE weld dogfennau a gwybodaeth sy’n ymwneud â chyllid ar gyfer y Prosiect. Bydd y Cwmni’n sicrhau bod pobl sy’n rheoli neu’n dal dogfennau sy’n ymwneud â’r Prosiect yn rhoi i archwilwyr yr UE unrhyw gymorth, gwybodaeth ac esboniad sydd eu hangen arnynt.
19. Os bydd y Cwmni, yn ystod y flwyddyn ariannol, neu yn ystod yr archwiliad o gyfrifon sy’n ymwneud â’r flwyddyn ariannol honno, yn dod yn ymwybodol o ddirywiad sylweddol yn ei amgylchiadau ariannol, rhaid iddo hysbysu ei Swyddog Llywodraeth Cymru ar unwaith.
20. Rhaid i’r Cwmni gydnabod, drwy gynnwys geiriad priodol (ar ddatganiadau i’r wasg) a brandio (ar gyhoeddusrwydd, deunyddiau cyfathrebu ac arwyddion), y cyfraniad a wneir i’w weithgareddau gan Weinidogion Cymru. Dylai’r Cwmni gysylltu â’i Swyddog Llywodraeth Cymru i gael rhagor o fanylion.
22. Bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud ymdrechion rhesymol i dalu hawliadau’n brydlon, ond nid ydynt yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â cholledion a briodolir i unrhyw oedi wrth dalu hawliadau neu a briodolir i unrhyw ataliad, gostyngiad neu ganslo’r cyllid.
23. Rhaid i chi beidio â defnyddio’r cyllid a ddarperir at ddibenion pleidiol wleidyddol; (2) hyrwyddo safbwyntiau seciwlar, crefyddol neu wleidyddol penodol; (3) hapchwarae; (4) pornograffi; (5) cynnig gwasanaethau rhywiol; (6) prynu offer cyfalaf (ac eithrio’r hyn a nodir yn y Dibenion); (7) eich ffioedd cyfreithiol mewn perthynas â’r llythyr hwn; (8) Costau a ysgwyddir neu gostau a ysgwyddir ac a dalwyd gennych wrth gyflawni’r Dibenion cyn y cyfnod y cyfeirir ato yn Amod 1 (b); (9) unrhyw fath o weithgareddau anghyfreithlon; neu (10) unrhyw weithgarwch arall y gall ddwyn anfri arnom.
24. Drwy lofnodi’r cais hwn, rydych yn ardystio nad oes unrhyw achos o ymgyfreitha na chymrodeddu ar y gweill nac yn yr arfaeth neu, hyd y gwyddoch, yn fygythiad, a allai gael effaith andwyol ar eich gallu i gyflawni a chydymffurfio ag unrhyw un o’r Amodau nac ar eich gallu i barhau i fasnachu fel busnes yng Nghymru.
25. Drwy lofnodi’r cais hwn, rydych wedi datgelu inni yr holl ffeithiau neu amgylchiadau perthnasol y mae angen eu datgelu er mwyn inni gael darlun cywir o’ch busnes a’ch materion (materion cyfredol a darpar faterion) neu y dylid eu darparu i unrhyw un sy’n ystyried darparu cyllid i chi.
26. Drwy lofnodi’r cais hwn, rydych yn cytuno i gydweithredu’n llawn â Swyddog Llywodraeth Cymru a chydag unrhyw un o weithwyr eraill Llywodraeth Cymru neu’r ymgynghorydd a benodwyd gennym i fonitro eich defnydd o’r Cyllid a’ch cydymffurfiad â’r Amodau.
27. Rhaid i chi gadw cofnodion cyfrifyddu cyflawn a chywir sy’n nodi’r holl incwm a gwariant mewn perthynas â’r cais yr ydych wedi’i wneud, a chaniatáu yn ddi-dâl i unrhyw swyddog neu swyddogion o Lywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Comisiwn Ewropeaidd neu ei gontractwyr enwebedig ar unrhyw adeg resymol ac ar ôl ichi dderbyn cyfnod rhesymol o rybudd (dan amgylchiadau eithriadol, megis atal neu ganfod twyll, efallai na fydd yn ymarferol rhoi rhybudd rhesymol i chi), ymweld â’ch eiddo a/neu arolygu unrhyw un neu rai o’ch gweithgareddau a/neu archwilio a gwneud copïau o’ch llyfrau cyfrifon a pha bynnag ddogfennau neu gofnodion eraill, sut bynnag y'u cedwir, a allai, ym marn resymol y swyddog, ymwneud mewn unrhyw ffordd â’r modd rydych yn defnyddio’r Cyllid a gawsoch. Nid yw’r ymgymeriad hwn yn lleihau dim ar effaith unrhyw hawliau a phwerau statudol eraill sy’n arferadwy gan Lywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Comisiwn Ewropeaidd, neu unrhyw swyddog, gwas neu asiant unrhyw un o’r uchod, ac mae’r ymgymeriad yn ddarostyngedig i’r cyfryw hawliau a phwerau statudol hynny.
28. Nid oes dim yn yr Amodau yn gosod unrhyw atebolrwydd arnom mewn perthynas ag unrhyw atebolrwydd sydd gennych chi i unrhyw drydydd parti (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, gweithwyr a chontractwyr).
29. Rhaid i chi ein hindemnio yn erbyn unrhyw rwymedigaethau, hawliadau, trafodion, gofynion, colledion, costau a threuliau a ddioddefir neu a ysgwyddir gennym yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o ganlyniad i unrhyw fethiant i gyflawni’n llawn neu’n rhannol unrhyw rwymedigaeth sydd gennych i drydydd parti, neu mewn cysylltiad â hynny.
Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Comisiwn Ewropeaidd neu unrhyw swyddog, gwas neu asiant i unrhyw un o’r uchod.
Syniadau Mawr Cymru (rhan o Fusnes Cymru) - Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc - Hysbysiad Preifatrwydd
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y Grant Sefydlu Gwarant i Bobl Ifanc a chael cymorth gan Syniadau Mawr Cymru neu Busnes Cymru, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth gennych chi. Bydd yr wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch chi yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth am eich busnes. Mae cael yr wybodaeth bersonol hon yn angenrheidiol er mwyn inni asesu eich cymhwysedd ar gyfer y Grant ac, os bydd yn llwyddiannus, er mwyn cael gafael ar gyllid, gwasanaethau, cyngor a gwybodaeth.
Os ydych chi’n gweithredu fel gwarantwr ar gyfer ymgeisydd, dim ond er mwyn prosesu’r taliad rydych chi wedi cytuno i’w dderbyn ar ran yr ymgeisydd y byddwn yn defnyddio eich data personol. Bydd eich data’n cael ei ddefnyddio i gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy.
Sail Gyfreithlon Prosesu
Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol rydych chi’n ei roi yng nghyswllt eich cais am grant. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei phrosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus (hy defnyddio ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) a bydd yn ein helpu ni i asesu a ydych chi’n gymwys i gael cyllid. Mae data Categori Arbennig sy’n cael ei brosesu yn cael ei wneud er budd y cyhoedd yn sylweddol o ddarparu cymorth ariannol i bobl ifanc sy’n dechrau busnes.
Atal Twyll
Cyn inni roi cyllid grant i chi, byddwn yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll a gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Er mwyn cynnal y gwiriadau hyn, mae’n rhaid inni brosesu data personol amdanoch chi drwy asiantaethau atal twyll trydydd parti.
Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych chi eisoes yn ei gael.
Bydd cofnod o unrhyw risg gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.
Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn ysgrifennu atoch gydag amlinelliad o’r rhesymau yn egluro pam a sut y gallwch wneud cais arall am y cyllid (os byddwch yn dymuno gwneud hynny).
Mathau o Wybodaeth Bersonol
Mae’r wybodaeth a gesglir yn cynnwys enw, cyfeiriad, gwybodaeth gyswllt a gwybodaeth am eich busnes. Gall ymgeiswyr ddarparu data y gellir ystyried rhai ohonynt yn Gategori Arbennig, megis ethnigrwydd ac unigolion sy'n ystyried eu hunain yn anabl oherwydd y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd.
Bydd angen enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, manylion banc a llofnod gwarantwyr.
Pwy fydd yn cael gweld eich data
Bydd yr wybodaeth sy’n cael ei chasglu ar gael drwy system weinyddwyr technegol a fydd yn cefnogi’r system T.G. Ni fydd gweinyddwyr technegol yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.
Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu at ddibenion cymorth Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymru yn cael ei rhannu â’r sefydliadau canlynol at y dibenion a restrir isod:
- Gan gontractwyr sy’n darparu gwasanaethau Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymru sy’n darparu cefnogaeth i fuddiolwyr;
- Gan sefydliadau ymchwil gymdeithasol cymeradwy sy’n cynnal gwaith ymchwil, dadansoddi neu fonitro cyfle cyfartal ar gyfer gwasanaeth Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymru;
- Y Comisiwn Ewropeaidd a Thîm Archwilio Cronfeydd Ewropeaidd a fydd yn cymryd samplau o’n data i sicrhau ein bod yn dilyn y prosesau cywir.
Beth rydyn ni’n ei wneud â’ch data
- Darparu cymorth ariannol a chymorth busnes.
- Monitro ac adrodd ar nifer yr unigolion a’r mentrau sy’n cymryd rhan mewn prosiectau a nifer y bobl o wahanol grwpiau sy’n cael eu cefnogi (ee gwahanol oedrannau, rhyw ac ethnigrwydd).
- Sylwch mai dim ond sampl o unigolion a/neu fentrau y bydd sefydliadau ymchwil/gwerthuswyr yn cysylltu â nhw. Os cysylltir â chi i gymryd rhan mewn unrhyw ymchwil/gwerthusiad ynglŷn â’ch profiad o’r prosiect, bydd pwrpas y cyfweliad neu’r arolwg yn cael ei egluro i chi a byddwch yn cael dewis cymryd rhan ai peidio. Dim ond ar gyfer ymchwil cymeradwy y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio a byddan nhw’n cael eu dileu pan fydd yr ymchwil gymeradwy hwn wedi’i gwblhau.
Am ba hyd y bydd eich manylion yn cael eu cadw
Fel rhan o’ch cyllid, mae’n rhaid inni gadw eich data personol am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i’r prosiect ddod i ben ac ar ôl hynny bydd yn cael ei ddinistrio’n ddiogel. Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich gwybodaeth bersonol a roddir yn y cais hwnnw’n cael ei chadw am gyfnod o 12 mis yn unol â pholisi cadw gwybodaeth Llywodraeth Cymru.
Eich hawliau O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl i wneud y canlynol:
- cael mynediad at y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch;
- mynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hwnnw;
- gwrthwynebu neu atal prosesu (mewn amgylchiadau penodol);
- bod eich data gael ei ‘ddileu’ (mewn amgylchiadau penodol);
- rhoi cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk
I gael cymorth gydag unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen i gysylltu â ni https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni
Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth Chi
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i'r cyhoedd weld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae’n bosib y bydd aelod arall o’r cyhoedd yn gwneud cais rhyddid gwybodaeth am eich data. Byddem yn cysylltu â chi i glywed eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth
Cyfeiriad post:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales