John Yeomans

Lleoliad: Y Drenewydd, Powys

Cyrchfan: Gogledd Iwerddon, Y Ffindir a’r Almaen

Pwnc: Datblygiadau Pellach o ran Dosbarthu Carcasau Cig Eidion a Chig Oen / Gwella’r Defnydd o Laswellt ar Ffermydd Bîff a Defaid

John Yeomans

John Yeomans, Y Drenewydd, Powys

Ffermwr bîff a defaid o’r Drenewydd yw John Yeomans. Gobaith John yw ymweld â Gogledd Iwerddon, Y Ffindir a’r Almaen yn ystod ei ymweliad cyfnewid i ehangu ei wybodaeth am reoli glaswelltir a dosbarthu carcasau. 

Ei nod yw dysgu am wneud gwell defnydd o laswellt a gwneud defnydd sydd wedi ei dargedu i raddau pellach o fewnbynnau eraill er mwyn lleihau faint o borthiant sy’n cael ei brynu i mewn. Bydd dysgu rhagor am strategaethau rheoli glaswelltir gwahanol yn ei alluogi i bennu pa ddulliau y gellid eu defnyddio ar ei fferm ei hun.

Cred John y byddai cael golwg ar ddosbarthu carcasau yn Iwerddon, y Deyrnas Unedig a’r Almaen yn helpu i symud pethau ymlaen yng Nghymru tuag at system ar sail cynnyrch. 

 

Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth: