Ceredig Evans

Lleoliad: Caergybi

Cyrchfan: Gogledd Cymru a Chaer 

Pwnc: Lloea mewn bloc yn yr hydref a gwneud y gorau o bori. 

Ceredig

CRYNODEB GWEITHREDOL

Fferm laeth yn hyderus i gyflwyno newidiadau ar ôl cyfle astudio Cyswllt Ffermio

Mae ffermwr llaeth o Gymru wedi bod yn hyderus i gyflwyno newidiadau i’w system ar ôl ennill gwybodaeth trwy astudiaeth Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio.

Mae Ceredig Evans yn ffermio gyda’i wraig Sara, a’i rieni, Ann ac Ifan, yn Erw Fawr, Caergybi, lle maent yn draddodiadol wedi cynhyrchu llaeth o batrwm lloia gydol y flwyddyn.

Maen nhw’n rhedeg buches o 300 o Holstein pedigri cnwd uchel ar 192 hectar.

Ond, yn awyddus i sefydlu os allai wneud y system yn fwy effeithlon a chynaliadwy, cychwynnodd Mr Evans astudiaeth Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio, gan ymweld â ffermydd llaeth yn y DU sydd â systemau gwahanol i’w rai ef.

O ganlyniad i’r ymweliadau hynny, mae wedi gwneud rhai newidiadau allweddol, gan gynnwys treialu lloia bloc yn yr hydref gyda grŵp bach o fuchod o’i fuches.

“Roedd yn rhywbeth roeddwn i wedi bod yn ei ystyried a, gan fod ein buches yn cynyddu o ran maint, roedd yn rhywbeth roeddwn i’n teimlo y gallem ei dreialu,” meddai Mr Evans.

“Penderfynais hefyd y byddai tyfu india-corn eto yn gweithio i’n system fferm, ar ôl peidio â’i dyfu ers rhai blynyddoedd.”

Mae Mr Evans hefyd wedi cael ei ysbrydoli i wneud defnydd gwell fyth o laswellt ar ôl ymweld â busnes lle gwnaeth y ffermwr y defnydd mwyaf posibl o’i dir a phori ei fuches cnwd uchel yn yr haf.

“O’r ymweliad hwn, cefais fy annog i wneud y defnydd gorau o borfa a byddaf yn parhau i fesur y padogau i gael y gorau ohonynt,” meddai Mr Evans.

Mae hefyd yn defnyddio dull mwy cynlluniedig o gynhyrchu silwair, gan gynnwys gwneud byrnau, a threfnu storio gwell ar gyfer bwydo yn y gaeaf.

Dywed Mr Evans fod cyfle’r rhaglen gyfnewid wedi bod yn amhrisiadwy a’i neges i ffermwyr eraill oedd bod dysgu gan eraill yn amhrisiadwy.

“Os ydych chi’n ystyried gwneud newid, mae’n arfer gorau i fynd i weld ffermwyr eraill sydd wedi gwneud y newid hwn i drafod syniadau, profiadau a phryderon a allai fod gennych,” mae’n awgrymu.

“Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud llawer o waith ymchwil er mwyn gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol. Mae’n rhaid i unrhyw benderfyniad fod yn addas i chi a’ch fferm.”

Ar gyfer ei fusnes ei hun, roedd wedi dysgu iddo fod sylw i fanylion yn allweddol wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH