Hefin Jones
Cafodd Hefin Jones ei eni a’i fagu ar y fferm laeth a bîff deuluol yn Llanarthne, Sir Gâr, ac mae wedi ymddiddori mewn materion amaethyddol erioed. Dros nifer o flynyddoedd, mae wedi gweithio ar ffermydd lleol a gyda chontractwyr amaethyddol wrth gwblhau ei astudiaethau hyd at lefel gradd. Yn dilyn ymddeoliad ei dad o’r diwydiant ffermio, cymryd yr awenau i redeg y fferm, gan gadw buches fagu a menter magu heffrod.
Ers 2010, mae Hefin wedi bod yn hunangyflogedig, yn cynnig gwasanaethau hwyluso, cyfieithu/cyfieithu ar y pryd a hyfforddiant mewn sectorau a diwydiannau amrywiol, yn arbenigo yn bennaf mewn cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
Mae wedi ehangu ei rwydweithiau dros gyfnod o 20 mlynedd, wedi iddo fod yn rhan o'r mudiad Ffermwyr Ifanc yn lleol ac yn genedlaethol, yn ogystal â'r gymuned wledig, ac wedi iddo dreulio cyfnod yn gweithio gyda Mentrau Iaith yng ngorllewin Cymru. Mae’n gynghorydd cymuned ac yn ymwneud ag amrywiaeth o sefydliadau gwirfoddol yn ei ardal leol a thu hwnt. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn materion cyfoes, yn enwedig y rhai sy'n effeithio ardaloedd a diwylliant lleol.
Mae Hefin yn rhugl yn y Gymraeg, ac yn siaradwr cyhoeddus hyderus a chymwys. Mae ei ddiddordebau’n cynnwys chwaraeon (yn enwedig rygbi), darllen, cerddoriaeth a’r theatr.