Jessica Williams

Enw: Jessica Williams

Lleoliad: Bryn Crug, Gwynedd 

E-bost: jessica.williams@agrisgop.cymru

Rhif ffôn: 07739354148

Arbenigedd(au):   Bîff, Defaid, Iechyd a Lles anifeiliaid; Bocsys Cig, Gwenyn

•    Cafodd Jessica ei magu ar fferm fynydd organig uwchben Harlech, Gogledd Cymru, yn ffermio gwartheg Duon Cymreig Pedigri a diadell o ddefaid mynydd Cymru. Yn 18 oed, cymerodd denantiaeth daliad bach 30 erw a dechreuodd ei buches ei hun o wartheg Duon Cymreig Pedigri a diadell o ddefaid Lleyn Pedigri. Ers hynny, mae Jessica wedi mwynhau llwyddiant sylweddol yn y cylch sioe, wrth i’w stoc ennill gwobrau Buches Fach y Flwyddyn 2008, Benyw Wrth Gefn y Flwyddyn 2012 a gwobr Tarw y Flwyddyn 2016.

•    Yn 2008, cafodd Jessica ei dewis yn Llysgennad Ifanc y Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig, ac yn ystod ei blwyddyn yn ei swydd hefyd bu’n ddigon ffodus i ennill ysgoloriaeth Hybu Cig Cymru a'i galluogodd i deithio i Awstralia i ymweld â ffermydd sy'n cadw Gwartheg Duon Cymreig ac i fynychu’r ail International Welsh Black World Conference. Rhoddodd y daith i Awstralia fewnwelediad iddi ar y diwydiant bîff a defaid yn Awstralia, yn ogystal â chynyddu ei gwybodaeth ymhellach o'r diwydiant amaethyddol.

•    Astudiodd Jessica gwrs rhyngosod pedair blynedd ym Mhrifysgol Caerdydd cyn ennill gradd dosbarth cyntaf (Anrhydedd) mewn Iechyd yr Amgylchedd yn 2006. Yn ystod ei blwyddyn lleoliad gwaith, treuliodd amser yn gweithio ym mhob agwedd ar Iechyd yr Amgylchedd a oedd yn cynnwys gweithio gydag Awdurdodau Iechyd Porthladd ac arolygu cig mewn lladd-dai lle enillodd ei chymhwyster fel cynorthwyydd milfeddygol. Yna, dechreuodd ei gyrfa fel Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ar gyfer awdurdod lleol, gan arbenigo mewn Diogelwch Bwyd. 

•    Mae Jessica, sydd bellach yn wraig brysur ac yn fam i dri, yn gweithio'n rhan-amser fel Swyddog Diogelu'r Cyhoedd sy'n cwmpasu Diogelwch Bwyd, Clefydau Heintus, Safonau Bwyd ac Iechyd a Diogelwch, rôl y mae'n cyfuno â gweithio fel arweinydd grŵp Agrisgôp.  Pan fydd amser yn caniatáu, mae hi hefyd yn mwynhau ffermio 'ymarferol', gan helpu ei gŵr, Huw ar eu fferm bîff a defaid ym Mryncrug.

•    Yn arweinydd Agrisgôp profiadol a chyfathrebwr hyderus, mae Jessica wedi hwyluso grwpiau ar bynciau gan gynnwys bocsys cig, carbon, gwenyn, gwlân, glampio, mewnforio bridiau newydd o ddefaid, busnes ac arloesedd, gan annog a galluogi llawer o unigolion i droi syniadau da yn realiti wrth iddynt weithio ar y cyd â'r nod cyffredin o wneud eu priod fusnesau fferm yn fwy effeithlon, yn fwy cynaliadwy ac yn fwy proffidiol!

Busnes fferm presennol: 

  • Fferm bîff a defaid organig 500 erw ym Mryncrug  
  • 500 o famogiaid mynydd Cymreig
  • 100 o ddefaid Lleyn Pedigri
  • 90 o Wartheg Duon Cymreig Pedigri
  • System fiomas newydd
  • Bocsys cig – yn gwerthu yn uniongyrchol i’r cwsmer

Profiad, sgiliau, cymwysterau perthnasol

  • Prifysgol Caerdydd, B.Sc (Anrhydedd Dosbarth Cyntaf) Iechyd yr Amgylchedd – 2006
  • Prifysgol Aberystwyth – Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth Newid (gan gynnwys modiwl hyfforddi a mentora) – PGCert (2017-2020)  
  • Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth (2016/17)
  • Tesco Future Farmers (2018/19)  
  • Rhaglen Cenhedlaeth Nesaf yr NFU (2022-24)  
  • Aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn cynghori'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar Bolisi Bwyd yng Nghymru (2018-2019)
  • Wedi arwain grwpiau Agrisgôp ar bynciau yn cynnwys bocsys cig, carbon, defaid aml bwrpas (cig a gwlân), gwenyn, glampio, lladd-dy, mewnforio brîd newydd o ddefaid, busnes ac arloesedd