Lowri Rees Roberts

Mae Lowri Rees-Roberts yn byw gyda’i theulu ifanc, ar fferm deuluol Dolhendre Isa yn Llanuwchllyn ger Y Bala. Mae Lowri yn fam i bedwar sef Hana, Caio Twm a Jini. Mae’r teulu yn ffermio 250 o ddefaid mynydd Cymreig a dros 60 o wartheg duon Cymreig. Mae ei gwr Gwyn yn gweithio ym myd peirianneg sifil gan ganolbwyntio ar waith hydro ar hyn o bryd yn ogystal â rhedeg y fferm.

Wedi ennill gradd mewn Dyniaethau yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin, cychwynnodd Lowri ei gyrfa fel Gohebydd i’r Cymro a dyma ddechrau ar y diddordeb mawr mewn ysgrifennu. Yma, datblygodd Lowri berthynas ag aelodau’r wasg ddwyieithog yng Nghymru gyfan a thu hwnt. Penodwyd i rôl Dirprwy Olygydd yn y pendraw.

Yn Ionawr 2000, penderfynodd rhoi’r gorau i deithio i’w gwaith newyddiadurol a chychwyn yn llawrydd o gartref. Ers hynny mae Lowri wedi gweithio i nifer fawr o bapurau a chylchgronau gan gynnwys y Western Mail, Daily Post, Welsh Living, Golwg, Cymro, Cymru’r Byd, Denbighshire Free Press a’r Cambrian News. Yn 2006 sefydlodd Lowri gwmni Cwmni LR sydd yn cynnig pob math o wasanaethau o hyrwyddo i ysgrifennu datganiadau.

Cafodd Lowri ei phenodi yn arweinydd Agrisgôp yn 2013. Un o’i phrif uchafbwyntiau oedd gweithio gyda grŵp o ferched i gynhyrchu’r Dyddiadur Amaeth gyda Gwasg y Lolfa.