Meini Prawf

Mae ein rhaglen Agrisgôp ar gael i fusnesau fferm neu goedwigaeth cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Perchnogion neu bartneriaid busnes
  • Aelodau o'r teulu agos, megis meibion, merched, priod a/neu unigolyn sy'n cyd-fyw 
  • Gweithwyr ar PAYE i'r perchennog / partner(iaid)
  • Newydd-ddyfodiaid sy'n dymuno cyrraedd y gofynion 3ha o fewn cyfnod 3 mlynedd

Bydd angen i bob busnes ffermio a choedwigaeth gofrestredig cael:

  • 3ha o dir cofrestredig yng Nghymru
  • Rhif Cyfeirnod y Cwsmer (CRN)
  • Rhif Daliad (CPH) Cymreig

Deiliaid coedwig a systemau ffermio arbenigol neu niche gyda gweithgareddau o dan y trothwy 3ha hyd at leiafrif o 0.5ha ar sail pob achos unigol.