Sut i gael mynediad at e-ddysgu

 

Mynediad i e-ddysgu ... ar amser ac ar gyflymder sy'n addas i chi

 

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi canllaw ‘cam wrth gam’ defnyddiol a fydd yn eich tywys drwy’r broses.

 

Cyn y gallwch ymgeisio am hyfforddiant, mae angen i chi…

  • Fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio gyda’ch cyfeiriad e-bost unigol sy’n unigryw i chi. I gofrestru, cysylltwch â'r Ganolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813 neu cofrestrwch ar-lein yma. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
  • Derbyn e-bost yn cadarnhau eich cofrestriad gan Cyswllt Ffermio, sy’n eich galluogi i gael mynediad i wefan BOSS Busnes Cymru drwy Sign on Cymru (SOC).

 

Mynediad at wefan BOSS (Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein)

Mae mynediad at BOSS yn hanfodol er mwyn…

  • cwblhau PDP (Cynllun Datblygu Personol) ac adnabod eich nodau hyfforddiant
  • ymgeisio am gwrs/gyrsiau hyfforddiant wedi’i ariannu
  • cwblhau modiwlau e-ddysgu wedi'i ariannu'n llawn
  • cael mynediad at eich cofnod Storfa Sgiliau personol

 

Newydd i BOSS?

Er mwyn cael mynediad i BOSS mae angen i chi gofrestru eich cyfeiriad e-bost unigryw gyda Cyswllt Ffermio. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, cysylltwch â'r Ganolfan Wasanaeth ar 03456 000 813.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Dylech dderbyn e-bost cadarnhad gan y Ganolfan Gwasanaeth Cyswllt Ffermio sy'n cynnwys eich manylion mewngofnodi BOSS.

DS Os nad ydych wedi derbyn e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith, cysylltwch â’r Ganolfan Wasanaeth.

 

Creu cyfrif BOSS

Mewngofnodi i BOSS drwy Sign on Cymru 

Am ganllawiau cam wrth gam ar sut i gael mynediad i BOSS drwy Sign on Cymru, cliciwch yma a/neu gwyliwch i fideo isod:

 

Dychwelyd i BOSS

Mewngofnodi i BOSS drwy Sign on Cymru

 

Cwblhau modiwl e-ddysgu

  • Dewiswch yr adran Hyfforddiant ac E-ddysgu ar y dudalen flaen
  • Cliciwch ar ‘E-ddysgu
  • Dewiswch y modiwl e-ddysgu sydd ei angen arnoch, sydd wedi'i gategoreiddio yn y tri phennawd canlynol:
  • Cliciwch ar deitl y modiwl rydych wedi ei ddewis
  • Cliciwch ar enw'r cwrs i lansio'r modiwl e-ddysgu
  • Gweithiwch trwy gynnwys y modiwl ac yna cwblhewch y cwis hunanasesu byr i brofi'r wybodaeth rydych wedi'i hennill

DS I gau'r modiwl, cliciwch ar yr ‘X’ yn y gornel uchaf ar y dde

  • Os ydych chi am adfywio eich gwybodaeth, gallwch ailadrodd y broses eto

DS Ar ddiwedd pob cwrs e-ddysgu a gwblheir, bydd ‘Tystysgrif Cwblhau’ yn cael ei lan lwytho i’ch cofnod Storfa Sgiliau ar eich rhan.

 

I gael mynediad i’r modiwl iechyd a diogelwch:

  • Mewngofnodwch i’ch cyfrif BOSS.
  • O'r brif dudalen gartref, ewch i’ch dangosfwrdd sydd wedi’i leoli ar ochr chwith y sgrin.
  • Cliciwch mewn i’ch dangosfwrdd.
  • Bydd y modiwl E-ddysgu Iechyd a Diogelwch i’w weld.
  • Cliciwch ar deilsen y cwrs.
  • Cwblhewch y cwrs.

*Noder: bydd angen i chi gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus os ydych chi’n gwneud cais am gwrs yn ymwneud â pheiriannau ac offer.

 

 

Storfa Sgiliau yw’r adnodd diogel, ar-lein i storio data ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. 

Bydd yr holl hyfforddiant, e-ddysgu a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth a gwblheir gennych yn ystod y rhaglen gyfredol yn cael eu lan lwytho ar eich rhan. Gallwch hefyd gofnodi eich holl gyraeddiadau a gweithgareddau eraill perthnasol yn eich ardal ‘Fy Lle I’.

Am ragor o fanylion ynglŷn â sut y gall y Storfa Sgiliau fod o fudd i chi, cliciwch yma.