Huw Foulkes

Pentrefelin, Denbigh

Adeiladu iechyd y fferm o’r gwaelod i fyny

Mae Pentrefelin yn fferm deuluol sy’n defnyddio system wahanol i’r fferm laeth arferol yng ngogledd Cymru; maent yn godro 20 o fuchod ac yn ystyried eu hunain yn “ficro-ffermwyr llaeth”. Mae Pentrefelin hefyd yn cynhyrchu bîff ac wyau ac maent yn ystyried arallgyfeirio ymhellach i arddwriaeth yn y dyfodol. Maent yn gwerthu holl gynnyrch eu fferm yn uniongyrchol i’w cwsmeriaid, a’u nod yw meithrin perthynas gyda nhw ar sail iechyd, lles ac effaith amgylcheddol y fenter hon.   
 
Mae gweithio ar raddfa fach hefyd yn golygu bod Pentrefelin yn gwbl hunangynhaliol o ran bwydo'r buchod; gallant dyfu digon o fwyd/porthiant fel nad oes rhaid iddynt brynu dim byd i mewn. Maent yn godro buchod o frid treftadaeth deubwrpas o'r enw'r ‘Red Poll’, a gaiff ei fridio ar gyfer llaeth a bîff, sy'n addas ar gyfer system sy'n seiliedig ar laswellt. Mae'r lloi yn cael eu cadw gyda’u mamau am 12-14 awr yn ystod y dydd ac yna'n cael eu gwahanu yn y nos am tua 8-10 awr ar gyfer godro unwaith y dydd yn y bore.

Mae'r system gyfan ym Mhentrefelin yn seiliedig ar iechyd y pridd, sef ased mwyaf y fferm, ac yn canolbwyntio arno. Mae Huw yn cymryd rheolaeth o’r tir a oedd yn cael ei rentu’n flaenorol ar gyfer tyfu india corn yn ôl drwy fabwysiadu dull adfywiol o bori symudol ar sail gylchdro gyda chyfnodau gorffwys hir rhwng pori. Bydd y dull hwn yn adeiladu gwytnwch yn ei system, gan leihau ei ddibyniaeth ar fewnbynnau gwrtaith, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynyddu storio carbon. Bydd y strwythur gwell y pridd yn helpu i liniaru yn erbyn llifogydd neu sychder ac yn helpu i adeiladu'r lefelau bioamrywiaeth o dan y ddaear a fydd yn cefnogi bioamrywiaeth uwchben y ddaear.

Mae'r prosiect ar fferm Pentrefelin yn datblygu asesiad gwaelodlin o'r priddoedd. Mae tri chae yn cael eu monitro:

  • Cae 1 – sy’n cael ei reoli'n adfywiol am 1 flwyddyn ac sy’n cynnwys system amaeth-goedwigaeth. Mae tair llinell o goed ffrwythau wedi'u plannu a'u ffensio, sy'n creu isadeiledd i hwyluso pori cylchdro.

  • Cae 2 – sy’n cael ei reoli'n adfywiol am 3 blynedd a'i bori ar sail gylchdro. 

  • Cae 3 – sy’n cael ei reoli'n adfywiol am 6 blynedd a'i bori ar sail gylchdro.

Bydd asesu ar y cae megis asesiad gweledol o strwythur y pridd, cyfrif mwydod, cyfraddau ymdreiddiad, dyfnder gwreiddio, canran y pridd moel, cnapiad mewn planhigion codlysiau, gwreiddbilen (‘rhizosheath’), prawf gwlychu pridd (‘slake test’) ac asesiadau bioamrywiaeth eraill yn cael eu cynnal fel gwaelodlin. Bydd y data’n cael ei gasglu a’i gofnodi ar yr ap mentor pridd.

Yn ogystal â'r asesiadau hyn ar y cae, bydd samplau pridd yn cael eu hanfon i'r labordy i fesur priodweddau ffisegol, cemegol a biolegol, a bydd y data'n cael ei gymharu â'i gilydd. Bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol os bydd Huw yn ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan fod y camau gweithredu arfaethedig yn cynnwys monitro iechyd y pridd.

Trwy ysgogi gwelliant pellach mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau’r cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm    

  • Dŵr Glân

  • Gwneud y mwyaf o storio carbon

  • Lliniaru perygl llifogydd a sychder


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Nantyrhebog
Michael James Nantyrhebog, Carmarthen Ymchwilio i’r elw posibl ar
Brynllech Uchaf
Rhodri and Claire Jones Brynllech Uchaf, Llanuwchllyn
Dylasau Uchaf
Beca Glyn Dylasau Uchaf, Conwy Mae Dylasau Uchaf yn awyddus i