18 Medi 2018

 

Mae Dafydd Jones o Lys Dinmael Maerdy, un o fynychwyr y cwrs Meistr ar Borfa diweddar, wedi mynd ati i wneud newidiadau i strategaeth pori’r ddiadell ar y fferm gartref drwy sefydlu a gweithredu system bori cylchdro sy’n cynnwys rhannu caeau a gosod pibelli dŵr i rannau o’r fferm a oedd yn cael eu stocio’n sefydlog yn y gorffennol. Yn wir, cafodd Dafydd gymaint o ysbrydoliaeth yn ystod y gweithdy tri diwrnod yng Nglynllifon nes iddo fynd ati i gyfrifo meintiau posibl ar gyfer padogau a dyraniad porthiant ar ei gyfrifiadur y noson wedi’r digwyddiad.

Yn ôl Dafydd “Roedd gen i ddiddordeb mewn tyfu mwy o borfa a defnyddio’r gwyndonnydd diweddaraf eisoes, ond rhoddodd y cwrs Meistr ar Borfa ysbrydoliaeth a hyder i mi weld beth oedd yn bosibl gyda phriddoedd wedi’u rheoli’n dda a phori effeithiol.”

Yn ystod yr wythnosau wedyn, benthycodd Dafydd fesurydd plât i fesur darn o’i gae a oedd wedi’i neilltuo i weld sut oedd cyfraddau twf ar ei fferm yn cymharu gyda ffermydd sy’n cymryd rhan ym Mhrosiect Porfa Cymru. Gan ddefnyddio’r gyfradd twf posibl o’i arbrawf cychwynnol, aeth ati i greu taenlen Excel i gyfrifo dyraniad bwyd, cyfradd stocio a hyd rownd posibl yn seiliedig ar y wybodaeth a gasglodd yn ystod y cwrs Meistr ar Borfa.

        

mastergrass 1

        

mastergrass 2

 

                              

mastergrass 3

 

Ar hyn o bryd, mae’n pori 320 o famogiaid ar blatfform pori 14 Ha sy’n cael ei rannu’n 2-3 padog gan ddefnyddio cyfuniad o ffensio dros dro a ffensys parhaol. Defnyddir system tair gwifren ar olwyn i gyflymu’r broses o osod a symud ffensys, gan alluogi un person i symud grwpiau mawr o famogiaid yn gyflym ac yn rhwydd. Mae Dafydd yn anelu at darged o orchudd o 2700kgDM/Ha cyn pori ac adlodd o 1500kgDM/Ha. Mewn mannau gyda gormodedd o laswellt, bydd padogau’n cael eu torri fel silwair.

 

                               

mastergrass 4

 

Mae Dafydd yn egluro mai un o’r agweddau allweddol wrth gynllunio yw mynediad at ddŵr a symud defaid rhwng padogau. “Roedd rhai caeau eisoes yn ddigon bach ac roedd dŵr yno’n barod, ond roedd angen buddsoddi mewn offer ac isadeiledd mewn caeau mwy. Rydw i wedi gwario £45/Ha i’w sefydlu, ond rwy’n gobeithio cadw mwy o stoc ar lai o dir ac edrych ar opsiynau eraill ar dir sydd wedi’i ryddhau erbyn hyn, yn enwedig gyda Brexit ar y gorwel.”

 

                                

mastergrass 5

Related Newyddion a Digwyddiadau

Cyrsiau Cyswllt Ffermio yn helpu i lansio busnes cymorth gyda gwaith swyddfa fferm
10 Ionawr 2025 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites