06 Mehefin 2024

 

Mae prosiect gan David & Will Lewis, Treforgan, Llandrindod, wedi cael cyllid drwy Gyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio. Mae'r prosiect hwn sy’n ceisio cymharu perfformiad ŵyn ar wahanol wndwn, yn un o 17 prosiect a ddewiswyd ledled Cymru i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd penodol y mae ffermwyr yn eu hwynebu.

Nod y brosiect yw nodi’r cyfansoddiad gwndwn mwyaf effeithiol ar gyfer sicrhau perfformiad gorau posibl yr ŵyn ar ôl diddyfnu. Bydd y prosiect yn cymharu enillion pwysau byw dyddiol ŵyn (DLWG) a chyfrif wyau ysgarthol (FEC) ar draws tri math gwahanol o wndwn: gwndwn amlrywogaeth, gwndwn glaswellt sydd â llawer o siwgr, a gwndwn rhygwellt lluosflwydd.

Sefydlwyd y gwndwn y llynedd ar dri chae sydd wedi cael eu rheoli'n debyg yn hanesyddol. Bydd toriad o silwair yn cael ei gwblhau yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf a bydd y cnwd yn cael ei gofnodi. Bydd grwpiau o ŵyn wedi’u diddyfnu wedyn yn cael eu cyflwyno i’r adladd silwair a bydd eu perfformiad yn cael ei fonitro a’i gofnodi gyda thechnoleg EID. Bydd data ar bwysau'r ŵyn, cyfrif wyau ysgarthol, cynnyrch silwair, a ffactorau eraill yn cael eu casglu a'u dadansoddi trwy gydol y prosiect.

"Dyma enghraifft wych o sut mae ffermwyr Cymru yn croesawu technoleg ac arferion cynaliadwy," meddai Lisa Roberts, Rheolwr Sector Cig Coch Cyswllt Ffermio. "Trwy ymchwilio i effaith gwahanol wndwn ar berfformiad ŵyn, mae David & Will nid yn unig yn anelu at wella effeithlonrwydd eu fferm eu hunain ond hefyd yn cyfrannu gwybodaeth werthfawr i'r gymuned amaethyddol ehangach." 

Bydd adroddiad terfynol ar y prosiect ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio yn ddiweddarach yn y flwyddyn gyda digwyddiad ar y fferm i arddangos y canlyniadau. Cadwch lygad ar ein gwefan am ragor o wybodaeth ac i ddarganfod mwy am brosiectau eraill y cyllid arbrofi – Cyllid arbrofi - gwireddu eich syniad


Related Newyddion a Digwyddiadau

Diadell o ddefaid mynydd sy’n rhan o Raglen Geneteg Defaid Cymru yn pesgi ŵyn bythefnos yn gynt na’r arfer
26 Mehefin 2024 Mae ŵyn a gynhyrchir gan ddiadell o ddefaid
Mentora yn rhoi dewrder i cyn newyddiadurwraig y BBC i gychwyn ar brosiectau amgylcheddol ar gyfer fferm ei theulu
24 Mehefin 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio yn helpu fferm deuluol i lunio busnes sy’n ‘addas at y dyfodol’
29 Ebrill 2024 Mae awydd i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd yn