26 Chwefror 2021

 

Mae cynnyrch glaswellt ar fferm ucheldir ym Mhowys wedi cynyddu’n sylweddol ers i’r ffermwr gymryd camau i wella iechyd y pridd wedi i Gynllun Rheoli Maetholion (NMP) Cyswllt Ffermio amlygu diffygion.

Mae Alun Davis yn ffermwr pedwaredd genhedlaeth, ac mae’n cadw diadell gaeedig 1,000 o famogiaid Mynydd Penfrith Cymreig ar fferm Gelli Gethin, daliad 400 erw ger Llanfair Caereinion.

Mae tri chwarter y ddiadell yn cael eu croesi gyda hwrdd Wyneblas Caerlŷr i gynhyrchu defaid Miwl Cymreig, ac mae’r ddiadell yn cael ei chadw bron yn gyfan gwbl ar laswellt, naill ai drwy bori neu ar ffurf silwair dros y gaeaf.

Gyda'r fferm yn codi o 800 troedfedd i 1,350 troedfedd uwch lefel y môr, gall amodau fod yn heriol.

Cafodd y fferm gyfan ei hail-hau ar ddechrau’r 1980au, ond roedd cynhyrchiant yn lleihau, ac roedd Alun yn amau y gallai diffyg mewn maetholion yn y pridd fod yn un rheswm dros hynny. 

Gyda chefnogaeth Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, crëwyd Cynllun Rheoli Maetholion ar gyfer y fferm. Trwy samplu’r pridd, cafwyd cadarnhad bod y lefel pH yn isel, yn ogystal â diffyg ffosffad.

Roedd hynny yn 2017 ac ers hynny mae Alun wedi defnyddio 100 tunnell o galch bob blwyddyn ac yn bwriadu parhau â'r polisi hwn.

“Rydym wedi gweld gwelliannau o ran faint o silwair a gynhyrchir. Rydyn ni'n tyfu llawer mwy o laswellt felly rydyn ni'n cael mwy o'r tir,'' meddai.

“Roedd yn bendant yn werth gwneud y Cynllun Rheoli Maetholion. Rydym ni wedi arbed arian trwy beidio â rhoi maetholion lle nad oes eu hangen ac wedi cynyddu cynhyrchiant yn y caeau lle’r ydym ni wedi ychwanegu maetholion.”

Mae'n golygu mwy o borthiant i’r ddiadell sy’n ŵyna ym mis Mawrth. Y tymor hwn sganiodd y ddiadell ar gyfradd o 180%. Bydd ŵyn gwryw yn cael eu gwerthu i Randall Parker Foods - dros y blynyddoedd diwethaf, maen nhw wedi cyflawni graddau R yn bennaf.

Mae Alun yn cynhyrchu ei ŵyn benyw cyfnewid ei hun ac yn gwerthu’r ŵyn miwl yn uniongyrchol o’r fferm neu mewn arwerthiannau’r gymdeithas.

Yn ddiweddar, mae wedi ail-brofi’r tir, gan ddefnyddio gwasanaeth sydd wedi’i ariannu’n llawn drwy Cyswllt Ffermio, ac mae’n aros am y canlyniadau.

“Cawsom gyllid i samplu 20 llain sy’n darparu trosolwg da iawn o statws pridd y fferm gyfan,” meddai Alun.

Yn ogystal â sicrhau bod cynllun ar waith ar gyfer ei briddoedd, mae hefyd yn mynd i’r afael ag ymwrthedd i anthelminitigau.

Er bod y cyfrif wyau ysgarthol (FEC) wedi dangos baich isel iawn o ran llyngyr, dywed Alun y bydd y gwasanaeth hwn sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio yn ei helpu i dargedu unrhyw driniaethau angenrheidiol yn fwy effeithiol.

“Mae'n rhoi darlun da i ni o ran pryd i roi triniaethau ac os mae’r triniaethau hynny’n effeithiol.”

Mae’r holl gamau hyn yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau ei fod yn diogelu adnoddau naturiol er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu gwneud bywoliaeth o’r tir.

Mae gan Alun a'i bartner, Lexie, fab tair oed, Harri. “Os bydd Harri yn dewis ffermio, hoffwn feddwl fy mod i wedi gwneud popeth yn fy ngallu i sicrhau bod y tir a’r adnoddau sydd ar gael yn ei alluogi i barhau i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy,” meddai.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o