gary yeomans with goatlings

Cadw cyfraddau marwolaeth i lawr a chyfraddau twf i fyny yw un o'r prif dargedau ar gyfer cynhyrchwyr godro geifr masnachol sydd eisiau gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd.

Mewn cyfarfod Cyswllt Ffermio ar Fferm Pant, Llanwytherin, y Fenni, bu cynhyrchwyr sefydledig a rhai newydd yn trafod strategaethau i wella effeithlonrwydd wrth fagu geifr. Mae'r ffermwyr a roddodd gartref i'r cyfarfod, Gary Yeomans, wedi bod yn godro geifr ers 2002 ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi ennill profiad gwerthfawr o ran magu mynnod geifr sydd wedi helpu i wella iechyd a pherfformiad mynnod geifr. Mae bob amser yn edrych ar agweddau o'i fusnes i helpu i wella effeithlonrwydd cynhyrchu.

“Mae magu mynnod geifr yn fusnes anodd, ond rydym yn dechrau cyn gynted â phosibl trwy wneud yn siŵr bod eu bod yn cael colostrwm cyn cael eu diddyfnu oddi ar y geifr benyw ar ôl 48 awr,” meddai Gary, sy'n rhedeg geifre o 600-700 o eifr godro ar hyn o bryd, ag allbwn targed o 800 litr fesul gafr fenyw/fesul blwyddyn yn y cyfnod llaetha cyntaf. “Y colostrwm cyntaf yw'r peth mwyaf pwysig ac rydym yn dilyn yr egwyddor – cyflym, swm ac ansawdd.”

Caiff y mynnod geifr eu tagio ar adeg geni ac ar ôl eu symud i'r sied magu byddant yn cael eu bwydo ag amnewidyn llaeth, o botel i ddechrau, yna'n rhydd o beiriant bwydo awtomatig. Caiff porthiant caled a gwellt haidd eu cyflwyno'n gymharol gyflym ac un o'r agweddau mwyaf pwysig ar ddarparu llety i'r mynnod geifr ifanc yw amgylchedd heb ddrafftiau.

“Pan fyddant y maint hwnnw maent yn colli llawer o wres corff ac os ydynt yn defnyddio egni i gadw'n gynnes nid ydynt yn tyfu,” ychwanegodd Gary.

Mae torwyr gwyntoedd cryf wedi'u gosod ar ochrau'r sied ac mae cysgodfeydd yn cael eu creu yn y corlannau i gadw'r mynnod geifr allan o unrhyw ddrafftiau.

“Mae hefyd yn hanfodol cadw'r corlannau'n lân oherwydd pan fyddant ar y peiriant awtomatig gall y gwellt gwely fynd yn wlyb iawn, felly mae angen cadw pethau'n lân i atal clefyd.”

Caiff y mynnod geifr eu pwyso'n rheolaidd a'u diddyfnu oddi ar bowdr llaeth pan fyddant yn 15kgs. Mae'r pwysau'n cael eu cofnodi ac mae cyfraddau twf yn cael eu monitro, yn enwedig wrth i'r geifr ifanc agosáu at amser mynd i'r bwch gafr.

“Os byddwch yn methu'r twf targed yna ni fyddwch yn cael cynnyrch cystal yn y cyfnod llaetha cyntaf ac yn eithaf aml ni fydd y geifr ifanc yn beichiogi am 12 mis oed, felly efallai y bydd angen i chi aros am flwyddyn arall, neu efallai ni fyddant byth yn beichiogi.”

Mae cynyddu canran y geifr sy'n bwrw myn am 12 mis oed yn nod arall i wella effeithlonrwydd cynhyrchu, oherwydd bod bwrw myn 90 diwrnod yn hwyr yn gallu arwain at gynnydd 25% mewn costau. Ar hyn o bryd mae Gary yn bwrw myn am 12 mis oed, mae geifr hŷn yn bwrw myn mewn grwpiau ar wahanol adegau o'r flwyddyn.

“Mae'n eithaf heriol oherwydd y niferoedd, oherwydd eu bod yn cael llawer o enedigaethau lluosog, felly mae gennych lawer iawn o anifeiliaid i'w rheoli ac mae angen safon eithaf uchel o reolaeth ar adeg bwrw mynd i gadw trefn ar bopeth. Mae'n gyfnod eithaf dwys oherwydd eu bod yn cael llety drwy'r amser felly bydd unrhyw broblemau a gewch yn gallu lluosi'n gyflym os na fyddwch yn ymdrin â hwy.”

Roedd lleihau cyfraddau difa yn fater arall pwysig a godwyd yn y cyfarfod, â thargedau o 15% ar gyfer geifr ifanc a 25-30% i'r geifre gyfan. Manylodd y milfeddyg Matthew Pugh ar faterion iechyd allweddol sy'n gallu effeithio ar berfformiad a thrafododd strategaethau i leihau cyfraddau clefyd a marwolaeth.

Ychwanegodd Gary Yeomans: "Mae'n haws dweud na gwneud weithiau, ond cadw'r gyfradd farwolaeth i lawr a'r cyfraddau twf i fyny yw un o'r prif dargedau i helpu i wella ein busnes."


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter