9 Chwefror 2023

 

Mae grŵp o ffermwyr da byw yng Nghymru yn casglu arbedion porthiant o £26,000 y flwyddyn ar draws eu diadelloedd defaid drwy gynyddu gwerth ynni metaboladwy (ME) eu silwair.

Mae Grŵp Trafod Hiraethog, sydd wedi'i hwyluso gan Cyswllt Ffermio, wedi bod yn gweithio ar y cyd i wella ansawdd y silwair er mwyn lleihau costau porthiant a brynir.

Er mwyn cyflawni hyn, mae’r aelodau sy’n ffermwyr wedi ymgorffori mwy o feillion mewn gwyndwn glaswellt ac wedi gwella'r sylw i fanylion yn y broses o wneud silwair, o gael y dyddiadau torri a'r amseroedd gwywo yn iawn i sut mae byrnau'n cael eu lapio a'u trin neu o ran sut mae'r clamp yn cael ei gydgrynhoi.

Gyda chyngor ac arweiniad gan arbenigwyr da byw a maethegwyr dros gyfnod o dair blynedd, mae'r mesurau hyn wedi arwain at werth ynni metaboladwy (ME) silwair wedi'i fyrnu ar draws y grŵp yn cynyddu o 9.6MJ Me/kg deunydd sych (DM) i 10.6.

Mae’r 1MJ ME/kg DM ychwanegol hwnnw yn werth £4/mamog cyn ŵyna, cyfrifodd arbenigwr defaid annibynnol Kate Phillips, un o'r ymgynghorwyr sydd wedi bod yn cynghori'r grŵp.

Mae hyn oherwydd bod pob 1MJ (ME) yn cyfateb i fwydo 10kg o ddwysfwyd, meddai.

“Ar gost o £400/tunnell am ddwysfwyd defaid, mae hynny'n cyfateb i £4/mamog sydd, ar system nodweddiadol o 500 o famogiaid, yn £2,000,” meddai Mrs Phillips.

Mae'r arbedion cyfunol ar draws Grŵp Trafod Hiraethog — ffermydd yng Nghonwy gyda thua 6,500 o famogiaid rhyngddynt — wedi’i gyfrifo i fod yn £26,000.

Yn y silwair clamp, cynyddodd y gwerth ME o 10.2 i 10.7 a phrotein crai o 12.2% i 14%.

Dywedodd Mrs Phillips fod angen gwneud silwair o ansawdd da yn dda - yn uwch na 25% DM yn ddelfrydol, pH o ddim llai na phedwar, amonia isel, asid biwtyrig isel iawn a'r ME sy'n briodol ar gyfer y dosbarth o stoc sy'n cael ei fwydo.  

“Ar gyfer mamogiaid ar ddiwedd eu beichiogrwydd, dylai ME fod yn 10.5MJ/kgDM neu'n well a phrotein crai 12% neu'n uwch,” meddai. “Mae silwair o ansawdd is yn fwy priodol ar gyfer gwartheg sugno sych.”

Un o'r ffactorau a gyfrannodd tuag at y silwair o ansawdd uwch a gynhyrchwyd gan Grŵp Trafod Hiraethog oedd dealltwriaeth ddyfnach o gamau aeddfedrwydd glaswellt.

Fel rheol, mae gwerth treuliadwyedd (D) yn y planhigyn glaswellt yn gostwng 0.5 uned y dydd o'r adeg y mae'n dechrau gwthio coesynnau blodeuo i fyny, meddai Guto Owen, hwylusydd y grŵp, swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Conwy. 

Canolbwyntiodd y grŵp ar ddefnyddio gwrtaith hefyd, gyda chyngor ar ddefnyddio gwrtaith; o dan amodau tyfu delfrydol, gall glaswelltir ddefnyddio 2.5kg o nitrogen (N)/hectar (ha) y dydd.

Dysgodd y ffermwyr bwysigrwydd cynllunio dogni hefyd, gan Mrs Phillips yn ogystal â'r maethegydd Hefin Richards a'r arbenigwr defaid a bîff Dr Liz Genever.

Dywedodd Dr Genever fod dadansoddi gwerth maetholion silwair yn darparu'r sylfaen ar gyfer sicrhau bod y dogn yn iawn.

“Mae dadansoddi silwair yn hanfodol wrth asesu gwerthoedd maethol tebygol yr hyn sydd gan ffermwr 'yn y banc' ar gyfer y gaeaf,” esboniodd.

Trwy gynllunio dogni, gellir targedu ei ddefnydd yn ôl y galw stoc.

A thrwy wella ansawdd a chynnyrch porthiant, gall ffermwyr leihau eu dibyniaeth ar wrtaith nitrogen (N).

Dywedodd Mr Richards fod gan feillion rôl i'w chwarae hefyd, trwy ddarparu porthiant N am ddim a mwy o brotein.

Mae aelodau'r grŵp trafod hefyd wedi manteisio ar wasanaethau Cyswllt Ffermio i'w helpu i wneud y gwelliannau.

Er enghraifft, lluniwyd dau Gynllun Rheoli Maetholion gan un ffermwr yn ystod y rhaglen Cyswllt Ffermio bresennol.

“Fe wnaeth yr ail fy ngalluogi i weld y gwelliannau a wnaed o weithredu'r argymhellion a wnaed yn y cyntaf,” meddai.

Roedd clinig a gynhaliwyd ar fferm yng ngwanwyn 2022 hefyd wedi rhoi cyfle iddo gael ateb i'w gwestiynau gan yr ymgynghorydd ymweld, er mwyn cael cyngor ar ddefnyddio tail a'i werth maetholion posibl ar gyfer cnydau silwair. 

Roedd wedi elwa o gefnogaeth gan gymheiriaid hefyd a chyngor yr ymgynghorwyr, ychwanegodd.

“Mae hyn wedi fy arwain i gynyddu fy ngwybodaeth am iechyd y pridd. Yn ei dro, mae hyn wedi arwain at well cynnyrch cnydau a gwella ansawdd porthiant yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf,” meddai.

Y gaeaf hwn, ni fydd angen porthiant atodol ar ei fuchod sugno cyflo gan fod y porthiant sydd wedi’i silweirio o ansawdd digonol.

“Bydd arbedion sylweddol hefyd yn cael eu gwneud wrth fwydo ein mamogiaid cyfoen,” meddai.

Roedd rhai o aelodau'r grŵp wedi derbyn cyngor un-i-un wedi'i ariannu gan Cyswllt Ffermio ar ddogni gan Mrs Phillips — gwasanaeth sydd ar gael o hyd i fusnesau sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. 

Bydd cael cyngor gan nifer o bobl ar ystod o arbenigeddau yn helpu ffermwyr i ddatblygu eu busnesau, meddai Mr Owen. 

“Mae newidiadau bach yn arwain at enillion mawr,” meddai. 

Ond nid cyngor arbenigwyr yn unig oedd wedi bod yn bwysig — mae aelodau Grŵp Trafod Hiraethog wedi elwa'n fawr o gyngor ei gilydd hefyd.

Roedd hyn, meddai Mr Owen, wedi bod yn rheswm hanfodol pam fod y grŵp wedi bod mor llwyddiannus.

“Mae'r grŵp yn cael sgyrsiau rheolaidd ar y grŵp WhatsApp, gan geisio cyngor a rhannu syniadau, y da, y drwg a'r hyll,” meddai.

Anogodd Mr Owen holl ffermwyr Cymru i fanteisio ar wasanaethau Cyswllt Ffermio.

Mae'n eu cynghori i gysylltu â'u swyddog datblygu lleol i drafod gwasanaethau sy'n berthnasol i bob busnes. 

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter
Ffermwr yn cael y gorau o’i gnydau gyda chymorth cwrs agronomeg wedi’i gefnogi gan Cyswllt Ffermio
29 Awst 2024 Gall poblogaethau chwyn, plâu a chlefydau effeithio