Mae peiriant yn gwerthu llaeth crai sy’n cael ei gynhyrchu gan un o’r buchesi o wartheg Ayrshire pedigri olaf yn Ne Ddwyrain Cymru wedi helpu i sicrhau dyfodol y fuches.

 

robert and kath granville with crummie 0

Bu bron i Robert a Kath Granville orfod rhoi’r gorau i’w busnes pan syrthiodd pris eu llaeth i lawr i 9.75c y litr.

Arweiniodd y posibilrwydd o golli buches Gelligaredig, a sefydlwyd gan deulu Robert ar Fferm Gelli yn 1945, at sawl noson o ddiffyg cwsg, ac mewn gwirionedd, yr oriau digwsg achubodd y busnes.

“Awgrymwyd i ni y dylem edrych ar y posibilrwydd o werthu llaeth crai o giât y fferm, a phan nad oeddwn yn gallu cysgu, byddwn yn treulio oriau ar y we yn ymchwilio i’r hyn y byddai’n ei olygu,” meddai Kath, sy’n economegydd cartref cymwys.

Gyda chefnogaeth gan Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio, Catherine Smith, fe wnaethant gofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chael cyngor Cynllunio Busnes gan Russell Thomas o Kite Consulting, a ariannwyd trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

“Roedd Russell yn gweld bod marchnad ar gyfer yr hyn oedd gennym mewn golwg ac roedd y cynllun busnes yn dangos y gallem wneud iddo weithio gyda’r nifer o wartheg oedd gennym,” meddai Kath.

Ar ôl cyfres o brofion gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, rhoddwyd trwydded iddynt werthu llaeth crai ar eu fferm yng Nghefn Cribwr, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Buddsoddodd y cwpl £14,100 mewn peiriant gwerthu, sefydlu ardal adwerthu wrth giât y fferm ac agor y busnes.

Gwerthwyd 55 litr ar gyfartaledd ers hynny gyda chwsmeriaid o fewn cylch o 30 milltir yn talu £1.20 am litr o laeth neu £2.20 am ddau litr mewn cymhariaeth â’r 18 ceiniog y litr y maent yn ei dderbyn am werthu llaeth o’r tanc.

“Mae gennym drawstoriad eang o gwsmeriaid, pobl o wahanol gefndiroedd ethnig,” meddai Robert.

“Mae rhai o’r cwsmeriaid hynny’n prynu llaeth i wneud caws, hufen tolch ac iogwrt, ond mae nifer o rai eraill yn ei brynu i’w yfed neu i’w roi ar eu grawnfwyd.’’

Mae’r llaeth hwnnw yn cael ei werthu yn ffres o’r peiriant gwerthu bob dydd. “Mae’r tanc yn y peiriant gwerthu’n dal 200 litr felly bydd ychydig o laeth dros ben, ond nid yw’n mynd yn wastraff, byddwn yn ei fwydo i’r lloi,” meddai Robert.

Mae marchnata wedi bod yn bwysig, a dyna le mae tair merch y cwpl, Mary-Jane, Beth a Kate wedi cefnogi’r fenter.

“Mae’r merched wedi bod yn ffantastig, maent wedi cymryd gofal o’r ochr cyfryngau cymdeithasol,” dywed Kath. “Mae’r fferm yn bwysig iawn iddynt ac er eu mwyn hwy yr ydym wedi ymladd i gadw’r busnes i fynd.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio yn helpu fferm deuluol i lunio busnes sy’n ‘addas at y dyfodol’
29 Ebrill 2024 Mae awydd i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd yn
Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm