16 Chwefror 2021

 

Brian Rees, yr arbenigwr a hyfforddwr diogelwch fferm adnabyddus, o Abaty Cwm-hir, ger Llandrindod, yw enillydd un o’r gwobrau amaethyddiaeth uchaf ei bri yng Nghymru, Gwobr Cyflawniad Oes Lantra Cymru.  

Cafodd Brian ei ddisgrifio fel gwir lysgennad dros ddiogelwch fferm gan Peter Rees, cadeirydd Lantra Cymru, a chadeirydd y panel beirniaid eleni. Mae Brian wedi treulio dros 35 mlynedd yn codi ymwybyddiaeth am record diogelwch gwael y diwydiant amaethyddiaeth yn y Deyrnas Unedig, lle mae sawl bywyd a bywoliaeth wedi’u colli bob blwyddyn.  

“Mae Brian wedi ymroi y rhan fwyaf o’i fywyd proffesiynol i’r ymgyrch hynod bwysig hon dros y blynyddoedd, gan roi hyfforddiant diogelwch fferm i filoedd o ffermwyr ar draws y Deyrnas Unedig.   

“Mae hefyd wedi arwain y diwydiant yn ei rôl fel cyn-gadeirydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, cydweithrediad rhwng holl brif randdeiliaid gwledig Cymru, a gafodd ei sefydlu er mwyn helpu i wella diogelwch ffermydd, coedwigaeth a busnesau gwledig cysylltiedig eraill.  

“Yn ogystal â hyn, mae’n fentor diogelwch fferm cymeradwy Cyswllt Ffermio, yn ymweld â ffermydd unigol i roi cyngor cyfrinachol ar sut i wneud ffermydd Cymru yn lleoedd gwaith mwy diogel. 

“Mae gan Brian wybodaeth a dealltwriaeth wych am y pwnc ac mae trefnwyr digwyddiadau, gan gynnwys Cyswllt Ffermio a Lantra Cymru, yn aml yn gofyn am ei arbenigedd. Mae wedi gweithio gyda ni yn Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf ac wedi arwain y gwaith o drefnu nifer o ddyddiau hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth am ddiogelwch fferm ar ran Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch,” dywedodd Mr. Rees.

Ganwyd Mr Rees i deulu o ffermwyr. Gadawodd yr ysgol yn ei arddegau i weithio gyda’i rieni a’i frawd hŷn ar y fferm cig eidion, defaid a moch yn Penbryncenau.  Erbyn ei fod yn 17 oed roedd yn aelod brwd o CFfI Rhaeadr a changen Sir Faesyfed, ac enillodd y gangen gystadleuaeth genedlaethol bwysig ym maes diogelwch fferm dair gwaith yn y saithdegau. Cymerodd Brian rôl fforman tîm ac yna hyfforddwr tîm ac yn ôl Brian, y profiad hwn wnaeth danio ei ddiddordeb ac angerdd gydol oes mewn materion iechyd a diogelwch.  

Bu hefyd yn llwyddiannus mewn cystadlaethau drama a siarad cyhoeddus ac aeth ymlaen i fod yn Gadeirydd Cenedlaethol FfCCFfI a chynrychioli'r DU ar Gydffederasiwn Amaethyddiaeth Ewropeaidd.

Dechreuodd Brian ei yrfa broffesiynol ym maes diogelwch fferm yn yr wythdegau, gan lwyddo i gyfuno’r gwaith â ffermio llawn amser yn y dyddiau cynnar.  Yn y nawdegau, penderfynodd Brian a’i wraig Janet, athrawes, ei bod yn amser gwerthu’r da byw a rhentu’r glaswelltir. Roedd yn benderfyniad anodd ond yn un a arweinodd at yrfa gydol oes, llu o gymwysterau yn y diwydiant ac aelodaeth hirdymor o’r Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol Institute of Occupational Safety and Health (IOSHH). 

Yn ffodus, mae eu mab Adam, ar ôl mynychu coleg amaethyddol a chael sawl profiad o weithio dramor, wedi dychwelyd adref i’r fferm deuluol wedi ei stocio unwaith eto, y tro hwn yn cynnwys defaid ac ieir buarth, ochr yn ochr â Thrac Beiciau Modur Saintswell adnabyddus a Chynllun Creu Coetir Glastir. 

Er bod Brian yn ei saithdegau cynnar bellach, nid yw’n barod i orffwys.

“Rwy’n dal i gael boddhad mawr o gyflwyno cwrs telehandler i grŵp da o weithwyr fferm ac rwy’n mwynhau fy ngwaith fel mentor diogelwch fferm gyda Cyswllt Ffermio.

“Gallaf ddweud yn onest nad oeddwn yn disgwyl cael fy enwebu am unrhyw wobr, ond mae’n anrhydedd enfawr, ac rwy’n ddiolchgar iawn oherwydd bydd hyn yn fy helpu i dynnu sylw at yr angen i bawb sy’n gweithio yn y diwydiant sicrhau eu bod yn nodi’r risigau ac yn cymryd camau i’w lleihau.  

“Mae hyd yn oed y ffermwyr mwyaf gofalus a chall yn tueddu i ruthro a chwilio am atebion sydyn pan maen nhw o dan bwysau neu’n fyr o amser, ond mae hyfforddiant yn lleihau’r risgiau hynny, maen nhw’n mynd i’r arfer o gynllunio eu gwaith ymlaen llaw, fel eu bod nhw’n gwneud penderfyniadau gwell ac yn lleihau’r risg o ddamweiniau. 

“Gan fod yr holl hyfforddiant sy’n cael ei gynnig drwy Cyswllt Ffermio yn cael ei lanlwytho’n awtomatig i gyfrif Storfa Sgiliau ar-lein yr unigolyn, bydd tystiolaeth o sgiliau yn gysylltiedig â diogelwch fferm a thrin a thrafod peiriannau a cherbydau yn ddiogel yn ychwanegiad pwysig ar sawl CV neu gais am swydd. 

“Er nad oes gen i unrhyw fwriad i ymddeol ar hyn o bryd, gan fod ffermwyr a darparwyr hyfforddiant yn dal i ofyn am fy nghyngor neu gymorth mentora, mae yna waith pwysig i’w wneud ac rwy wrth fy modd fy mod i’n gallu parhau i gynnig cymorth ymarferol a rhannu fy mhrofiadau.” 

“Gyda’r holl hyfforddiant a wneir trwy Cyswllt Ffermio yn cael ei uwchlwytho’n awtomatig i gyfrif Storfa Sgiliau personol ar-lein pob unigolyn, bydd tystiolaeth o sgiliau yn ymwneud â diogelwch fferm a thrin peiriannau a cherbydau yn ddiogel yn rhoi stamp ychwanegol i lawer o cv neu gais am swydd,” meddai Brian.

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 

I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau Cyswllt Ffermio, gan gynnwys hyfforddiant a mentora, cliciwch yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter