7 Mawrth 2023

 

“Unwaith y bydd ffermwyr yn sylweddoli y bydd hyfforddiant Cyswllt Ffermio yn eu helpu i redeg eu busnes yn fwy effeithiol, mae eu cwrs cyntaf un yn aml yn eu gosod ar lwybr dysgu gydol oes, mae eu swildod yn diflannu ac mae eu hyder yn cynyddu.” 

Dyma eiriau’r hyfforddwr proffesiynol Julie Thomas, rheolwr gyfarwyddwr Simply the Best Training Consultancy, a enillodd Wobr Cyflawniad Oes Lantra Cymru 2022 yn ddiweddar. Dywedodd Mrs Thomas ei bod wrth ei bodd yn cael ei hanrhydeddu ‘am wneud swydd gwobrwyol yr wyf yn cael cymaint o foddhad o’i gwneud y mae hi wedi'i wneud ers dros 20 mlynedd!

Dywedodd yr amaethwr blaenllaw o Gymrua chadeirydd Lantra Cymru, Peter Rees, a oedd hefyd yn gadeirydd panel beirniadu gwobrau Lantra eleni, fod Mrs Thomas wedi gwneud cyfraniad sylweddol i amaethyddiaeth Cymru ers blynyddoedd lawer.

“Mae cymaint o bobl wedi elwa o’i mewnbwn personol. Mae hi wedi dangos ymrwymiad rhagorol i ddysgu, sgiliau a datblygiad gydol oes, ac wrth ddarparu’r lefel o hyfforddiant sydd ei angen cymaint ar y diwydiant, yn enwedig nawr wrth i’n diwydiant wynebu llawer o heriau a chyfleoedd newydd,” meddai Mr Rees.

Mae Mrs Thomas wedi bod yn hyfforddwr cymeradwy ar gyfer cyrsiau hyfforddi achrededig Cyswllt Ffermio ers lansio'r rhaglen gyntaf yn 2001. Mae hi wedi ennill enw da, nid yn unig fel hyfforddwr medrus ond mae hefyd yn uchel ei pharch fel mentor i'r myfyrwyr di-rif y mae hi wedi'u cefnogi. Dywedodd y panel beirniaid, diolch i ymrwymiad personol eithriadol Mrs Thomas i’w rôl, fod unigolion o bob oed ac o lawer o sectorau gwledig gwahanol wedi datblygu eu sgiliau ac wedi cael cymorth i ddatblygu eu gyrfaoedd o fewn y sectorau diwydiannau’r tir.

Yn gyfathrebwr huawdl a deniadol sy’n ennyn hyder ei myfyrwyr, sefydlodd Mrs Thomas Simply the Best Training Consultancy ym 1996 gyda’i gŵr Geoff, sy’n darparu llawer o’r hyfforddiant technegol o fferm ddefaid 300 erw’r cwpl yn Ne Cymru. Ers hynny, mae hi wedi ymroi ei bywyd proffesiynol i diwtora ar bynciau sy'n amrywio o faterion busnes amaethyddol a rheolaeth ariannol i ddatblygu staff, marchnata ac arallgyfeirio. Yn feddyliwr arloesol a chreadigol, mae galw cyson amdani hefyd fel siaradwr cyhoeddus ac mae’n gyn-feirniad a hyfforddwraig ar gyfer cystadlaethau siarad cyhoeddus CFfI Cymru.

Mae ganddi radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA), mae’n hyfforddwr cofrestredig gyda’r Bwrdd Siarad Saesneg (ESB) ac mae ganddi ddiploma ESB mewn Sgiliau Llafar mewn Rheolaeth. Mae hi hefyd yn diwtor cymeradwy gyda’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac yn Gymrawd y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol.

Dywedodd Mr Rees fod y panel beirniaid yn unfrydol wrth ddyfarnu gwobr Cyflawniad Oes Lantra Cymru eleni i Mrs Thomas. 

“Mae Julie wedi gwneud ymrwymiad eithriadol i’r sector hyfforddi gwledig ac yn bersonol, dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae wedi gwneud llawer i broffesiynoli’r diwydiant ffermio yng Nghymru, gan ei gwneud yn enillydd haeddiannol iawn.”

Dywedodd Mrs Thomas, i lawer o ffermwyr, fod eu cwrs hyfforddi cyntaf un yn aml yn eu gosod ar lwybr dysgu gydol oes a hyfforddiant.

“Unwaith y byddant yn mynychu cwrs ar bwnc y mae ganddynt ddiddordeb ynddo ac yn gweld eu bod yn ei fwynhau, maent yn ei werthfawrogi fel mewnwelediad defnyddiol, ac mae mor werth chweil clywed rhywun yn dweud, 'doedd hynny ddim mor ddrwg, beth alla i ddysgu nesaf?’

“Tra bod ffermwyr, teuluoedd ffermio a darparwyr hyfforddiant fy angen a chyn belled fy mod yn teimlo y gallaf helpu pobl i gryfhau eu set sgiliau, mae gwaith pwysig i’w wneud ac rwy’n falch iawn fy mod yn gallu cyfrannu.”

Mae Mrs Thomas hefyd yn hyrwyddwr brwd dros ei holl hyfforddeion gan ddefnyddio’r Storfa Sgiliau, sef adnodd cadw cofnodion personol ar-lein Cyswllt Ffermio.

“Gyda’r holl hyfforddiant a wneir trwy Cyswllt Ffermio yn cael ei uwchlwytho’n awtomatig i gofnod personol ar-lein y Storfa Sgiliau, mae hwn yn adnodd hynod bwysig i ddangos tystiolaeth o gyrsiau sy’n amrywio o sgiliau ar y fferm fel gyrru cerbydau fferm a thrin peiriannau’n ddiogel i reoli busnes a materion ariannol yn hyderus ac yn effeithlon.

“Trwy ddarparu prawf o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP), gall Storfa Sgiliau hefyd fod yn sylfaen ddefnyddiol iawn ar gyfer cynlluniau gwarant fferm, ceisiadau am swyddi a CVs,” meddai Mrs Thomas.

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o