5 Gorffennaf 2022

 

Pan oedd Thomas Phillips, a aned yn Sir Benfro, yn fachgen ysgol 14 oed yn ceisio cynllunio ei ragolygon gwaith ar gyfer y dyfodol, nid oedd yn meddwl bod unrhyw obaith o wireddu ei freuddwyd gydol oes o weithio gyda da byw gan nad oedd yn dod o gefndir amaethyddol.

Heddiw, mae’r newydd-ddyfodiad uchelgeisiol hwn, sydd bellach yn 22 oed ac yn rheolwr cynorthwyol mewn uned laeth â 450 o wartheg ger Abergwaun, wedi ennill llu o wobrau yn ymwneud ag amaethyddiaeth. Derbyniodd wobrau myfyriwr a phrentis y flwyddyn pan oedd yn fyfyriwr yng nghampws Gelli Aur Coleg Sir Gâr ac yn fwy diweddar, gwobr Cyswllt Ffermio am ‘Newydd Ddyfodiad Arloesol’, i gydnabod ei ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Aeth Thomas hefyd ar daith astudio tair wythnos o amgylch Seland Newydd, ar ôl cael ei annog i wneud cais gan ei gyflogwyr hynod gefnogol - yr un cyflogwyr y cyfarfu â nhw gyntaf yn ddim ond 15 oed trwy gynllun profiad gwaith a drefnwyd gan ei ysgol.

Dywed Thomas fod cymharu ffermydd yr ymwelodd â hwy o ogledd i dde Seland Newydd yn brofiad anhygoel a ehangodd ei uchelgeisiau.

“Mae gweithio ochr yn ochr â thîm mor enfawr o weithwyr fferm wedi dysgu pwysigrwydd cyfathrebu a gwaith tîm da i mi, sgiliau hanfodol yn enwedig pan fyddwch yn ffermio ar raddfa enfawr, ond mae’r hyn a ddysgais wedi aros gyda mi.”

Gwelodd y teulu Prichard botensial Thomas o’r dyddiau cynnar hynny o brofiad gwaith. Wedi’u plesio gan ei ymrwymiad a’i fwynhad clir o’r tasgau o ddydd i ddydd ar fferm weithiol brysur, fe wnaethant gynnig prentisiaeth llawn amser iddo ar y sail y byddai hefyd yn mynychu Campws Gelli Aur Coleg Sir Gâr un diwrnod yr wythnos, i astudio ar gyfer NVQ Lefel 2 mewn amaethyddiaeth, a ddilynodd yn fuan gyda diploma Lefel 3 mewn cynhyrchu da byw seiliedig ar waith. Ar hyn o bryd mae’n gweithio tuag at ei brentisiaeth Lefel 4.

“Mynychu’r coleg am ddiwrnod yr wythnos oedd fy her fawr gyntaf mewn bywyd, oherwydd yn y dyddiau hynny doeddwn i ddim wedi dysgu sut i yrru, a doeddwn i ddim yn siŵr sut i gyrraedd fy nosbarthiadau ar amser nes i mi weithio allan y llwybr bws i Gelli Aur!”

Mae ymrwymiad Thomas i ddysgu a datblygiad personol wedi parhau ers hynny ac mae’n eiriolwr perswadiol dros fanteision dysgu gydol oes.

“Rwy’n gweld gweithio mewn amaethyddiaeth fel gyrfa, nid dim ond swydd, felly mae ymestyn fy set sgiliau yn fy helpu i symud ymlaen yn gyflymach.

“Mae darpariaeth hyfforddiant Cyswllt Ffermio yn cael ei ariannu hyd at 80% ar gyfer unigolion cofrestredig ac mae’r cyrsiau wedi’u hanelu at y lefel ymarferol gywir, sy’n fy ngalluogi i ganolbwyntio ar y meysydd dysgu rwy’n eu defnyddio fwyaf yn fy rôl bresennol.

“Does dim dau ddiwrnod yr un fath ac rwy’n mwynhau bod yn rhan o bob agwedd ar fywyd ar uned laeth brysur, o odro, bwydo a charthu’r buarthau i’r strategaeth bori gyffredinol a chynllunio iechyd anifeiliaid i sicrhau bod stoc bob amser yn perfformio eu gorau.”

Trwy un o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy Cyswllt Ffermio, PMR Ltd, sydd wedi’i leoli yn Hwlffordd, mae Thomas wedi dilyn cyrsiau byr gan gynnwys rheoli lloi a lloi ymarferol; tocio traed; cymhwysedd mewn defnydd diogel a chyfrifol o feddyginiaeth filfeddygol a chymorth cyntaf brys.

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.   

“Mae wedi bod yn ystod eithaf eang o hyfforddiant sydd wedi rhoi dyfnder newydd o wybodaeth a sgiliau newydd i mi a fydd yn fy helpu wrth i mi symud ymlaen yn fy ngyrfa.”

Felly beth sydd nesaf i Thomas?

“Ar ryw adeg fe hoffwn i ymweld â Seland Newydd eto i gael hyd yn oed mwy o brofiad o weithrediadau ar raddfa fawr ac yn y pen draw rwy’n gobeithio bod yn berchen ar fy nhir fy hun yng Nghymru.

“Rwy’n rhan o fyd ffermio am y tymor hir, felly nid yw’n mynd i fod yn sbrint cyflym, ond rwy’n awyddus ac yn weithgar a diolch i gefnogaeth fy nghyflogwyr gwych a fy nghofnod ar-lein y Storfa Sgiliau sy’n rhestru’r hyn rwyf wedi’i gyflawni yn ogystal â’r sgiliau sydd eu hangen arnaf i weithio arnynt nesaf, rwy’n obeithiol am y dyfodol.”

Bydd cyfnod ymgeisio sgiliau Cyswllt Ffermio nesaf ar agor o 09:00 dydd Llun, 4 Gorffennaf tan 17:00 dydd Gwener, 29 Gorffennaf. Dylai unrhyw unigolyn sy’n bwriadu gwneud cais yn ystod y cyfnod hwn nad yw eisoes wedi cofrestru, gysylltu â Chanolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813 cyn 17.00 ddydd Llun, 25 Gorffennaf 2022. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

I gael rhagor o wybodaeth am holl sgiliau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio, Storfa Sgiliau neu i weld fersiwn ar-lein o’r llyfryn canllaw ‘Cam wrth gam’ ar wneud cais am sgiliau ac e-ddysgu, cliciwch yma. Fel arall, cysylltwch â'ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio neu'r darparwr hyfforddiant a ddewiswyd gennych.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter