11 Rhagfyr 2019
Mae ffermwr sydd wedi arloesi ym maes ffermio gofal yng Nghymru’n mentora ffermwyr eraill sy’n ystyried arallgyfeirio i sector sy’n darparu therapi, addysg ac adsefydlu i rai o bobl fwyaf bregus cymdeithas.
Sefydlwyd Fferm Ofal Cynfyw gan Jim Bowen a’i rieni, Gil a Tom, ar eu fferm organig 300 erw ger Boncath yn 2011. Mae'n cynnig gofal a seibiant i bobl fregus, gan ddefnyddio prosiectau ar y tir a gweithgareddau creadigol, sy’n amrywio o dyfu llysiau i wneud siarcol ac ailgartrefu ieir a arferai gael eu cadw mewn cewyll.
Bellach mae’r ganolfan sy’n cyflogi 43 o staff yn darparu llety mewn adeiladau fferm wedi’u haddasu ar gyfer wyth o bobl gydag anableddau dysgu mân neu gymedrol i fyw’n lled-annibynnol ac mae’n cynnal rhaglen o weithgareddau ystyrlon ar gyfer hyd at 40 o bobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae Jim yn fentor gyda Rhaglen Fentora Cyswllt Ffermio, ac mae’n cynnig arweiniad a chefnogaeth i ffermwyr eraill sy’n ystyried sefydlu fferm ofal. Trwy’r rhaglen gall menteion cymwys dderbyn 15 awr o wasanaethau mentora wedi'u hariannu'n llawn gyda mentor ffermio neu goedwigaeth o'u dewis nhw. Mae modd cyfathrebu mewn sawl ffordd gan gynnwys ymweliadau wyneb yn wyneb, sgyrsiau ffôn neu alwadau fideo i enwi ambell un.
Mae’r galw am lefydd yng Nghlynfyw mor uchel nes bod angen mwy o ddarparwyr, meddai. “Ar hyn o bryd rydym yn llawn ac rydym yn gorfod gwrthod pobl. Mae hyn yn siomedig iddyn nhw ac i ninnau.’’
Byddai mwy o ddarpariaeth yn y sector yma hefyd yn lleihau amser teithio i gyfranogwyr, ychwanega.
“Rydym yn teithio 100,000 o filltiroedd y flwyddyn, yn cludo cyfranogwyr yn ôl a blaen o Glynfyw; byddai modd lleihau hynny pe bai gan bobl ddewis o ffermydd gofal yn nes at eu cartrefi.’’
Yn 2018 yn unig, rhoddodd Jim gymorth i wyth mentorai drwy Raglen Fentora Cyswllt Ffermio yn ogystal â rhaglenni sy’n cael eu cynnal gan Adfywio Cymru a Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol.
Yn ogystal â chynnig arweiniad, mae Jim yn sicrhau bod ffermwyr yn ymwybodol o realiti ffermio gofal.
“Nid gwaith hawdd yw rhedeg fferm ofal, ond mae'n waith gwerthfawr,” eglura. “Trwy fy rôl fel mentor, gall pobl weld beth mae'n ei olygu heb fuddsoddi arian ac amser. Gobeithio fy mod yn helpu pobl i beidio â gwneud y camgymeriadau a wnaethom ni.”
Nid yw ffermio gofal yn addas i rai sy’n casáu gwaith papur, meddai.
“Mae gen i lond cabinet ffeilio o asesiadau risg a phecynnau gofal; mae’r cyfrifoldeb yn sylweddol.’’
Pan oedd cenedlaethau blaenorol o deulu Jim yn ffermio Clynfyw, roedd yn cyflogi gweithlu mawr; fyddai ffermio ar y raddfa hon heddiw ddim ond yn darparu swyddi i ychydig o bobl.
Dywed Giles Evans, cydlynydd cyfranogwyr Clynfyw, fod gweledigaeth Jim wedi gwyrdroi’r sefyllfa trwy ddarparu swyddi i ddwsinau o bobl unwaith eto.
“Mae Jim yn helpu i adfywio’r gymuned wledig. Mae’n wylaidd iawn wrth sôn am yr hyn y mae wedi’i gyflawni, ond dylai gymryd bob clod,” meddai.
Tra bod Jim yn amharod i dderbyn unrhyw ganmoliaeth, cafodd gydnabyddiaeth, nid unwaith ond dwywaith yn ddiweddar pan enwyd Fferm Ofal Clynfyw fel Prosiect Arallgyfeirio Gwledig Gorau a’r ail wobr yn y categori Prosiect Menter Gymdeithasol Wledig, Elusennol neu Gymunedol Gorau yn rowndiau terfynol rhanbarthol Gwobrau Busnes Gwledig Gogledd Iwerddon a Chymru, mewn partneriaeth ag Amazon.
Mae’r proffil y mae hyn wedi’i roi i’r ganolfan yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ffermio gofal, meddai Jim.
“Dydym ni ddim yn dda am ganu ein clodydd ein hunain, ond mae’r gwobrau’n rhywbeth y gallwn eu defnyddio i sicrhau bod tir therapiwtig yn cael ei gymryd o ddifrif.
“Nawr, yn fwy nag erioed oherwydd newid hinsawdd, mae angen hefyd i’r rhai mwyaf bregus gael eu cynnwys wrth galon cynhyrchu bwyd yn lleol.’’
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.