07 Chwefror 2024

Mae cytundeb ffermio cyfran newydd ar fferm foch cynhenid yn Sir Gaerfyrddin wedi rhoi cyfle busnes cyffrous i ffermwr cenhedlaeth gyntaf a strategaeth olyniaeth ar gyfer y perchnogion.

Roedd Hugh a Katharine Brookes wedi treulio chwe blynedd yn sefydlu eu cenfaint Mangalitza ar Fferm Penlan, ger Cenarth, gan adeiladu llyfr archebion cryf gyda bwytai gorau Llundain ymhlith eu cwsmeriaid.

Ond gan nad oedd gan eu plant ddiddordeb i gymryd yr awenau ganddynt un diwrnod, roedd dyfodol y busnes yn ansicr. 

“Roeddem yn gwybod bod gennym ni fusnes da iawn, busnes sydd â sylfaen'' meddai Katharine.

“Mae gan y busnes botensial gwirioneddol i dyfu a datblygu ond oherwydd ein cyfnod mewn bywyd roeddem yn teimlo nad ni oedd y bobl iawn i wneud hynny mae'n debyg.''

Mae ffermio cyfran yn llwybr nad oeddent wedi ei ystyried tan iddynt gael gwybod am fenter 'Dechrau Ffermio' Cyswllt Ffermio.

Mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio i baru tirfeddianwyr sy'n bwriadu camu'n ôl o'r diwydiant gyda newydd-ddyfodiaid, gan ddarparu cyllid ar gyfer cynllunio busnes a chanllawiau cyfreithiol.

“Cawsom gyfarfod cychwynnol gyda Wendy Jenkins, CARA, a Nerys Llewellyn Jones o Agri Advisor, a oedd yn cael ei hwyluso drwy Cyswllt Ffermio,” eglura Katharine.

“Fe wnaethom ysgrifennu'r fanyleb ac roeddem ar fin chwilio’n genedlaethol pan ddaeth hi'n amlwg ein bod ni'n adnabod yr unigolyn iawn a oedd â'r holl rinweddau roeddem ni wedi'u rhestru yn y fanyleb honno.''

Alice Bacon oedd honno, a oedd yn eu helpu i fwydo'r genfaint unwaith bob pythefnos.

Roedd hi’n byw yng Nghlunderwen, taith 30 munud mewn car o’r fferm, ac mae wedi bod â diddordeb mewn amaethyddiaeth erioed, roedd hi hyd yn oed yn rhentu tyddyn tan 2021.

“Y rheswm roeddem ni’n gwybod mai hi oedd yr ymgeisydd amlwg oedd oherwydd ei bod hi’n rhywun sy’n gweithio ar ei liwt ei hun ac yn gwneud penderfyniadau, er enghraifft pan fydd cafn dŵr wedi torri neu pan fo’r moch yn y corlannau anghywir, roeddem ni wedi gweld hynny drosom ein hunain,” meddai Katharine.

Aethant at Alice ac roedd hi wrth ei bodd i gael y cyfle.

“Nid oedd gweithio gyda'r moch erioed wedi teimlo fel gwaith,'' meddai.

Bu i Cyswllt Ffermio helpu i hwyluso’r cytundeb, a gafodd ei lofnodi ym mis Ebrill 2023.

Mae'r cytundeb hwn yn golygu bod Alice yn gweithio 30 awr o waith di-dâl y mis ar y fferm a 40 awr o waith cyflogedig. Yn gyfnewid am y gwaith di-dâl mae'n cael cyfran ym mherchnogaeth y genfaint.

Erbyn 4 Ebrill 2024, bydd yn berchen ar 9% o'r stoc, a 49% o fewn pum mlynedd.

“Bryd hynny, byddwn yn edrych ar sut fyddwn yn trosglwyddo’r busnes i Alice yn gyfan gwbl fel ei bod yn dod yr unig berchennog,'' eglura Hugh.

Mae'r ddwy ochr yn ystyried bod cyfathrebu yn allweddol i sicrhau bod cytundeb ffermio cyfran yn gweithio. Cynhelir cyfarfodydd ffurfiol bob dau fis ac ymdrinnir â materion wrth iddynt godi hefyd.

“Cwrddais â rhai pobl mewn Bŵtcamp Busnes Cyswllt Ffermio a oedd wedi gwneud ychydig o ffermio cyfran ac nid oedd wedi gweithio iddynt hwy ond gallaf weld nawr mai’r rheswm am hynny oedd oherwydd cyfathrebu gwael,’’ meddai Alice.

“Mae cyfathrebu yn allweddol. Os nad yw rhywbeth yn gweithio mae'n bwysig iawn mynd i'r afael ag ef neu ni fydd byth yn gweithio yn yr hirdymor.''

Mae Alice, a gafodd ei dewis y llynedd i gymryd rhan yn Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, wedi cyflwyno syniadau ffres i’r busnes tra ei bod wedi ennill gwybodaeth bwysig gan Hugh a Katharine.

Nid yw Hugh a Katharine yn credu y byddent wedi trosglwyddo i ffermio cyfran heb gymorth Dechrau Ffermio.

“Roedd angen y cymorth hwn wrth i ni fynd ymlaen,'' meddai Hugh. “Gwnaeth y bobl y buom yn gweithio gyda nhw trwy Cyswllt Ffermio i ni edrych yn ofalus ar ddyfodol y busnes a'i opsiynau, yn bendant fe wnaethon nhw roi hyder i ni.''

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen Dechrau Ffermio a’r cymorth sydd ar gael ar olyniaeth fferm ewch i’r wefan neu cysylltwch ag Eiry Williams ar 07985155670 neu ar e-bost  eiry.williams@menterabusnes.co.uk

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o