17 Mawrth 2022

 

Yn ddiweddar, enillodd y ffermwr llaeth defaid o Sir Benfro, Bryn Perry, wobr fawreddog, sef Gwobr Goffa Brynle Wiliams, sy’n cydnabod cyflawniadau ffermwr ifanc sydd wedi sefydlu busnes ffermio drwy raglen Mentro Cyswllt Ffermio. Mae Bryn, sydd ddim yn dod o gefndir amaethyddol, yn canmol Cyswllt Ffermio am roi iddo’r llu o’r sgiliau busnes a ffermio sydd gan y ffermwr ifanc ac uchelgeisiol hwn bellach. 

Mae Bryn Perry a’i bartner Becca Morris, y ddau yn eu 30au cynnar, yn cadw diadell o tua 120 o famogiaid Dwyrain Ffrisia – brid sy’n enwog am ansawdd eu llaeth – ar dyddyn sy’n eiddo i’r cyngor, Fferm Wernllwyd, ger Hwlffordd, lle symudon nhw yn gynnar yn 2021. 

“Wedi ein hysbrydoli gan alw’r defnyddwyr, fe wnaethom ddyblu maint y ddiadell wreiddiol a brynwyd gennym mewn arwerthiant fferm ac yn ddiweddar rydym wedi dechrau chwilio am gyllid ar gyfer uned prosesu bwyd newydd a fydd yn ein galluogi i droi llaeth y mamogiaid yn ddewis Cymreig o gawsiau a chynnyrch llaeth o’r fferm,” meddai Bryn.

Mae diwydiant godro defaid y DU yn dal yn gymharol newydd, ond mae’r pâr entrepreneuraidd hwn yn manteisio ar y farchnad hon sy’n tyfu’n gyflym, mewn mwy nag un ffordd! Diolch i ystod o wasanaethau cymorth gan Cyswllt Ffermio, mae Bryn a Becca wedi sefydlu cydweithrediadau gyda nifer o ffermwyr sydd yr un mor uchelgeisiol yng ngorllewin Cymru. O ganlyniad, maent eisoes yn prosesu llaeth i’w droi yn amrywiaeth o gawsiau llaeth mamogiaid Cymreig arbennig tebyg i gaws Feta, Halloumi, glas a Manchego, ac yn ddiweddar maent wedi lansio eu brand eu hunain o fodca maidd llaeth mamogiaid o’r enw ‘Ewenique’.  

“Yn hollbwysig, cawsom lawer iawn o gymorth gan Cyswllt Ffermio, ac fe wnaeth hynny fy helpu i ddatblygu fy sgiliau fel person busnes a ffermwr defaid, a chawsom hefyd gymorth trwy’r rhaglen Mentro, a’n galluogodd i sefydlu ein menter gyntaf ar y cyd gyda’r cynhyrchwyr llaeth defaid adnabyddus Nick a Wendy Holtman, sy’n berchen ar Defaid Dolwerdd yng Nghrymych”, meddai Bryn.

“Heddiw, gyda llawer mwy o bartneriaethau gwaith wedi’u sicrhau, gan gynnwys dau ffermwr ychwanegol o Geredigion sydd bellach yn cyflenwi llaeth dafad i ni a chysylltiad cyffrous â distyllfa leol, rydym yn hyderus bod gennym ddyfodol fel ffermwyr ‘defaid godro’ a phroseswyr bwyd a diod annibynnol.

“Fy nod yn y pen draw yw sefydlu cwmni cydweithredol o ffermwyr o Gymru sydd â dyheadau tebyg a helpu pob un ohonom i dyfu ein busnesau unigol.”

Mae'r pâr hefyd yn canmol cefnogaeth Canolfan Bwyd Cymru sydd wedi darparu hyfforddiant, gwybodaeth dechnegol a'r cyfleusterau prosesu i greu cawsiau, hufen iâ a llaeth heb lactos wedi’i rewi o’r llaeth dafad.

Magwyd Bryn mewn pentref bychan yn y Cotswolds a threuliodd lawer o wyliau tra bu’n fyfyriwr yn helpu ffermwyr âr lleol gyda’u cnydau haf. Ar ôl astudio rheolaeth busnes yn y brifysgol, bu wedyn yn gweithio i weithrediadau rhyddfreinio masnachol a recriwtio yn y DU a Chanada.

Roedd hi’n ffawd pan gyfarfu Bryn â Becca tra oedd y ddau yn byw ac yn gweithio yn Southampton. Nid yn unig y syrthiodd mewn cariad â Becca, sy’n arbenigwr marchogaeth, fe syrthiodd mewn cariad â Sir Benfro hefyd, yn ystod teithiau niferus y cyplau i ymweld â’i theulu yn Nhrewyddel. Yn gynnar yn 2017, symudon nhw i Gymru, rhentu fflat ger rhieni Becca a daeth Bryn o hyd i swydd gyda fferm laeth leol fawr. Dywedodd fod y cyfle hwn wedi bod yn hollbwysig.

“Fe ddysgodd y teulu y bûm yn gweithio iddynt lawer iawn i mi, cefais brofiad amhrisiadwy o ffermio llaeth a rheoli da byw ac fe wnaeth eu cefnogaeth a’u hanogaeth fy ysbrydoli’n fawr.”

Gwnaeth Bryn gais llwyddiannus am denantiaeth fferm cyngor yn gynnar yn 2020, er, oherwydd cyfyngiadau’r pandemig, ni symudodd y cwpl i fyw yno tan fis Mawrth 2021 mewn gwirionedd.

Gyda chyngor gan ei swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, gwnaeth Bryn gais am ystod o wasanaethau wedi’u targedu at newydd-ddyfodiaid, gan gynnwys y Gwasanaeth Cynghori, a arweiniodd at sefydlu system pori cylchdro. Cofrestrodd hefyd fel ‘ceisiwr’ gyda Mentro, rhaglen Cyswllt Ffermio sy’n paru tirfeddianwyr sy’n dymuno camu’n ôl o ffermio gyda newydd-ddyfodiaid sy’n chwilio am ffordd i mewn.

Caiff Cyswllt Ffermio ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

“Cwrddais â Nick a Wendy mewn marchnad cynhyrchwyr lleol ac ar ôl llawer o sgyrsiau, sylweddolom y gallai gyflwyno llawer o fanteision o ran maint ac effeithlonrwydd pe baem yn gweithio gyda’n gilydd.

Gwnaeth y ddau deulu gais am fentora, cynllunio busnes a chyngor cyfreithiol wedi’i ariannu’n llawn Mentro a’u galluogodd i sefydlu eu menter ar y cyd lwyddiannus, sydd bellach yn ei hail flwyddyn.

Tua’r un amser, gwahoddwyd Bryn i ymuno â ‘Bŵtcamp Busnes’ Cyswllt Ffermio, cwrs preswyl byr a ddyluniwyd i roi hyder, sgiliau a chymhelliant i unigolion o’r un anian i ddatblygu eu gyrfa ac adeiladu busnes tir llwyddiannus.

“Roedd yna siaradwyr anhygoel ac ysbrydoledig ac roeddwn i’n sicr y gallwn i a Becca, gyda’r agwedd gywir a’r gwaith caled, redeg ein busnes fferm ein hunain o fewn dwy flynedd.”

Yn ystod haf 2021 ymunodd Bryn â grŵp Agrisgôp Cyswllt Ffermio ar-lein, gan ei chael hi’n ‘fuddiol iawn’ i fod mewn cysylltiad uniongyrchol â ffermwyr defaid godro eraill nid yn unig o Gymru ond o Seland Newydd a Gogledd America hefyd, i gyd yn awyddus i rannu eu gwybodaeth a’u profiad.

Cafodd ei ddewis hefyd ar gyfer Academi Amaeth olaf Cyswllt Ffermio, gan ennill her Busnes ac Arloesedd y rhaglen, ar ôl llunio strategaeth fusnes ar gyfer busnes fferm arallgyfeirio yn Swydd Derby.

Gan ddangos eu parodrwydd i arloesi ac am systemau ffermio cynaliadwy, mae Bryn a Becca hefyd yn cadw praidd o 19 alpaca sy'n darparu ffrwd incwm ychwanegol ddefnyddiol trwy werthu epil a chnu.

“Mae’r alpacaod hefyd yn helpu i atal ysglyfaethwyr fel llwynogod rhag ymosod ar yr ŵyn, felly maen nhw’n talu am eu lle mewn llawer o wahanol ffyrdd.”

Yn ddiweddar, newidiodd y cwpl eu trefn o odro ddwywaith y dydd mewn parlwr godro defaid 12 pwynt gadael cyflym, i odro unwaith yn unig yn y bore.

"Mae hyn nid yn unig yn rhoi fwy o amser rhydd i ni, ond mae ganddo fanteision sylweddol eraill,” dywedodd Bryn gan egluro bod gostyngiad o 15% yn faint o laeth mae’r mamogiaid yn cynhyrchu ar ôl symud i system odro unwaith y dydd, ond bellach maent yn cynhyrchu llaeth o ansawdd gwell a mwy o gyfnodau llaetha fesul mamog. Gyda phopeth wedi’i gynhyrchu, ei weithgynhyrchu a’i werthu’n bennaf o fewn 30 milltir, mae hefyd yn falch iawn o fod yn lleihau ei ôl troed carbon.

Mae Bryn a Becca, sydd â merch sy’n flwydd oed erbyn hyn, yn cyfaddef eu bod wedi treulio llawer o oriau pryderus yn trafod a fydden nhw'n gallu sicrhau llwyddiant ffermio amser llawn yng Nghymru ond dydyn nhw ddim yn difaru.

“Rwy’n gobeithio helpu ffermwr ifanc neu rywun arall sy’n newydd i’r diwydiant trwy ymrwymo i gytundeb godro ar y cyd ar gyfer diadell o ddefaid godro yn y gaeaf cyn gynted ag y gallaf.

“Mae’n gynnar ar hyn o bryd ac er ein bod ni’n dal ar ddechrau ein taith, rydyn ni’n caru ein bywyd newydd ac yn teimlo’n gyffrous i weld beth ddaw yn y dyfodol.” 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o